World Of Warcraft

Mae bywyd yn arcêd, gyfaill

World Of Warcraft

Postiogan Al Jeek » Maw 15 Chw 2005 1:03 pm

Oes na unrhyw un di cael hwn eto?
Oni'n chwarae fo drwy'r beta test a mae'n llawn haeddu y ~95% mae o di gael gan y rhan fwyaf o gylchgronau. Mae o'n dwyn fy sylw o Rome Total War beth bynnag!
Nesh i brynu o ddoe a dwi'n chwarae ar y gweinydd Dunemail fel aelod o'r Horde. Os ma unrhyw un yn ei gael o alle chi wneud cymeriad ar y un un gweinydd ac ar ochr yr horde alle ni greu guild cymraeg! :)

Jeek
Al Jeek
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 651
Ymunwyd: Sul 27 Gor 2003 6:45 pm
Lleoliad: Caerdydd

Postiogan Mega-Arth » Maw 15 Chw 2005 1:14 pm

Bah. Dwi'm yn siwr am y gema MMPORGs yma. Ti'n gorfod talu subscription a ti'n gorfod rhoi loads o ymdrech mewn i'r peth fel arfer.
Ma Warcraft i fod yn fwy accesible tho. Blincin firewall coleg.
Rhithffurf defnyddiwr
Mega-Arth
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 162
Ymunwyd: Llun 25 Awst 2003 7:19 pm
Lleoliad: Alaska

Postiogan Tronaldo » Maw 15 Chw 2005 1:22 pm

Dwi di dechra chwara, ond dwi ddim yn gweld fi'n cael lot o gyfle i chwara gan fod yn mrawd yn hogio fo trwy'r adeg. Dwi di dechra chwara fel dwarf ond genaim syniad ar y funud pa server dwi ar, mae'r gem yn dda iawn. Nai drio creu cymeriad ar dunemail heno os gai amser.

Dwi'n meddwl fydd rhaid fi brynnu'r gem er mwyn chwara fo'r un pryd an mrawd.
Delwedd
Rhithffurf defnyddiwr
Tronaldo
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 338
Ymunwyd: Maw 24 Chw 2004 2:10 pm
Lleoliad: Cybertron

Postiogan Macsen » Maw 15 Chw 2005 2:55 pm

Faint mae'n costio i chwarae? Dw i eisiau chwarae MMPORG yn bydysawd Thief ar ryw bwynt, fel Thievery on ar raddfa anferth. Y broblem gyda hynny ydi y bysai pawb eisiau bod yn leidr. Gwaetha'r modd tydan ni'm yn gwneud dinas mawr agored ar y funud, dim ond anturiaethau unigol fel yn T1 a T2. Ond da ni'n meddwl cael dyddiau sy'n mynd a dod yn naturiol, os mae injan Doom 3 yn caniatau. Felly tydi'r fath beth ddim hynny o bell i ffwrdd.
Rhywun yn ymosod ar y Gymraeg? - Rhannwch Why Welsh.com!
Rhithffurf defnyddiwr
Macsen
Defnyddiwr Platinwm
Defnyddiwr Platinwm
 
Negeseuon: 6193
Ymunwyd: Maw 12 Awst 2003 8:01 pm
Lleoliad: Penrhiwllan/Waunfawr

Postiogan Al Jeek » Maw 15 Chw 2005 6:59 pm

Mae'r gem yn costio ~£25 o amazon a tin cael mis am ddim. £8.99 y mis wedyn, llai os tin talu am amser hirach e.e 6 mis.
Mae'n swinio'n ddrud ond os tin cysidro fod y gem yn cael ei uwchraddio drwy'r amser mae o werth o. Ti hefyd ddim yn goro gwario pres ar gemau eraill!

Mae'r class Rouges fatha Thiefs, goro bod yn sneaky a lladd pobol o'r tu ôl. 8)
Dwi'n Tauren Shaman. :) Oni'n Dwarf Warrior yn y beta.
Al Jeek
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 651
Ymunwyd: Sul 27 Gor 2003 6:45 pm
Lleoliad: Caerdydd

Postiogan Macsen » Maw 15 Chw 2005 7:38 pm

£8.99? Byw yn yr ogof?

"I'd rather be sailing." :rolio:
Rhywun yn ymosod ar y Gymraeg? - Rhannwch Why Welsh.com!
Rhithffurf defnyddiwr
Macsen
Defnyddiwr Platinwm
Defnyddiwr Platinwm
 
Negeseuon: 6193
Ymunwyd: Maw 12 Awst 2003 8:01 pm
Lleoliad: Penrhiwllan/Waunfawr

Postiogan Tronaldo » Maw 15 Chw 2005 10:10 pm

Dwi di creu cymeriad ar y server dunemail, sef troll warrior, dwi fyny i level 6 yn barod, dwi am fynd nol yna rwan. Tronaldo di enw cymeriad fi ar hwnna fyd.
Delwedd
Rhithffurf defnyddiwr
Tronaldo
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 338
Ymunwyd: Maw 24 Chw 2004 2:10 pm
Lleoliad: Cybertron

Postiogan Macsen » Gwe 18 Chw 2005 11:39 pm

Dwi'n hoffi'r ffaith bod y ieithoedd wedi' rhannu fyny i rannau gwahanol o'r wlad, fel bo ti'n medru mynd i le lle mae pawb yn siarad Ffraneg. :)

Dwi'n meddwl ymuno gyda Undead Warlock.

Mi allen ni greu Gang Gymraeg, gyda ynys bach i ni'n hunain. :winc:

Pawb yn evil wrth gwrs. :crechwen:
Rhywun yn ymosod ar y Gymraeg? - Rhannwch Why Welsh.com!
Rhithffurf defnyddiwr
Macsen
Defnyddiwr Platinwm
Defnyddiwr Platinwm
 
Negeseuon: 6193
Ymunwyd: Maw 12 Awst 2003 8:01 pm
Lleoliad: Penrhiwllan/Waunfawr

Postiogan Mega-Arth » Sad 19 Chw 2005 2:36 pm

Pawb yn evil wrth gwrs.


Typical. Ma hyn jyst yn ecsciws i fyw allan dy megolomaniacal ffantasies. Dwi'n cymryd na Mordycai fydd dy enw.

The Fear.
Rhithffurf defnyddiwr
Mega-Arth
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 162
Ymunwyd: Llun 25 Awst 2003 7:19 pm
Lleoliad: Alaska

Postiogan Macsen » Sad 19 Chw 2005 2:55 pm

Mega-Arth a ddywedodd:Typical. Ma hyn jyst yn ecsciws i fyw allan dy megolomaniacal ffantasies. Dwi'n cymryd na Mordycai fydd dy enw.


'Ffantasies?' Dwi'n anfad go iawn. Ac paid a sillafu enw Mordicai yn anghywir, neu mi fydd o'n rhoi llwy alwminiwm yn dy ficrodon. Boom!
Rhywun yn ymosod ar y Gymraeg? - Rhannwch Why Welsh.com!
Rhithffurf defnyddiwr
Macsen
Defnyddiwr Platinwm
Defnyddiwr Platinwm
 
Negeseuon: 6193
Ymunwyd: Maw 12 Awst 2003 8:01 pm
Lleoliad: Penrhiwllan/Waunfawr

Nesaf

Dychwelyd i Gemau Cyfrifiaduron

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 6 gwestai

cron