KOTOR 11

Mae bywyd yn arcêd, gyfaill

KOTOR 11

Postiogan DAN JERUS » Llun 07 Maw 2005 9:09 pm

Oes rhywun wedi chwarae hwn eto? mae o'n ffantastic a llawn cystal a'r cyntaf...
Ai beg ior pardyn, ai nefyr shagd iw in a rose garden!
DAN JERUS
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1086
Ymunwyd: Mer 29 Hyd 2003 3:11 pm
Lleoliad: Caerdydd

Postiogan garathsheli » Maw 08 Maw 2005 11:20 pm

Oes modd i un chwaraewr, ta mond MMORPG di o?

Newydd di bod yn chwarae'r hen Jedi Knight:Dark Forces II - Ffantastig!
<<<<< Fi ar ol un yn ormod!
Rhithffurf defnyddiwr
garathsheli
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 212
Ymunwyd: Gwe 17 Medi 2004 8:26 pm
Lleoliad: Prifysgol Caerdydd

Postiogan GwiDan » Llun 14 Maw 2005 9:13 pm

garathsheli a ddywedodd:Oes modd i un chwaraewr, ta mond MMORPG di o?


http://kotor2.com

Dim MMORPG yw e - RPG i un chwaraewr yn unig. Mae'n rhwydd yn un o'r gemau gorau rwy' wedi chwarae erioed; mae'r stori yn gwneud lan am unrhyw 'glitches' sy'n digwydd ar adegau. Bydde rhaid i mi argymell chwarae'r gwreiddiol yn gyntaf, er bod stori hwn yn well.
Rhithffurf defnyddiwr
GwiDan
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 12
Ymunwyd: Llun 14 Maw 2005 8:58 pm
Lleoliad: Tatooine

Postiogan LosinMelysGwyrdd » Mer 16 Maw 2005 11:49 am

a ma fe'n seto'r trydydd un lan yn berffaith! Unrhywun wedi sylwi ar y gwrthferbyniant rhwng Revan ach cymeriad yn kotorII!!! Methu aros am y trydydd. :crechwen:
"hhhmmm, I can feel a sexy disturbance in the force".
Rhithffurf defnyddiwr
LosinMelysGwyrdd
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 548
Ymunwyd: Mer 24 Medi 2003 3:00 pm
Lleoliad: Caerdydd

Postiogan GwiDan » Mer 16 Maw 2005 4:06 pm

LosinMelysGwyrdd a ddywedodd:a ma fe'n seto'r trydydd un lan yn berffaith! Unrhywun wedi sylwi ar y gwrthferbyniant rhwng Revan ach cymeriad yn kotorII!!! Methu aros am y trydydd. :crechwen:


Odi'r trydydd un yn debygol o'n gorfodi i ddefnyddio sawl prif gymeriad - hynny yw, Revan a'r cymeriad o KOTOR II? Rwy'n ceisio dyfalu sut bu nhw'n dod a'r ddau stori at eu gilydd. Rwy'n gobeithio bydd mwy o blanedau adnybyddus yn rhif tri; byddai Coruscant yn ychwanegiad gwych, er enghraifft.
Rhithffurf defnyddiwr
GwiDan
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 12
Ymunwyd: Llun 14 Maw 2005 8:58 pm
Lleoliad: Tatooine

Postiogan LosinMelysGwyrdd » Iau 17 Maw 2005 1:49 pm

Fi ddim yn gwbod. Falle fi sy'n edrych gormod mewn iddo fe, ond, yn kotorii ma Revan yn fath o Jedi/Sith ble ma'r force yn hollol fyw a'ch cymeriad ble mae'n hollol farw - dau bwynt y pegwn. Hefyd, ma gormod o gwestiynnau heb eu hateb - ble mae Revan, beth ma fe neud - ma fe rhwbeth i wneud a'r true sith empire o beth fi'n deall, ond...
Eniwei, Star Wars - always 3 they are!!!! :crechwen:
"hhhmmm, I can feel a sexy disturbance in the force".
Rhithffurf defnyddiwr
LosinMelysGwyrdd
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 548
Ymunwyd: Mer 24 Medi 2003 3:00 pm
Lleoliad: Caerdydd

Postiogan GwiDan » Iau 17 Maw 2005 4:21 pm

LosinMelysGwyrdd a ddywedodd: ma fe rhwbeth i wneud a'r true sith empire o beth fi'n deall, ond...


Rwy'n cytuno; mae'n rhaid bydd rhyfel arall yn dechrau yn yr outer rim, gyda Sith mor ofnus i wneud i'r rhai yn KOTOR II edrych fel gwarchodwyr y golau!
Rhithffurf defnyddiwr
GwiDan
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 12
Ymunwyd: Llun 14 Maw 2005 8:58 pm
Lleoliad: Tatooine


Dychwelyd i Gemau Cyfrifiaduron

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 7 gwestai

cron