*sbwylwyr*
Wel roedd o'n gem gwych ar y cyfan, ond mae gen i ambell i asgwrn maint Stallord i bigo hefo fo:
1.) Diweddglo gwael: Roedd y Twilight Palace yn dda ond yn fyr, fyr iawn. Ac roedd Hyrule Castle jesd yn crap. Y teimlad ges i oedd bod Nintendo wedi bod ar bach o frys tua'r diwedd.
2.) Plot yn mynd ar chwal: Beth oedd pwynt sticio Ganon a Zelda i mewn ar y diwedd? Doedd gyda nhw ddim oll wir i'w wneud gyda'r stori. Roedd yr holl ddatblygiad cymeriadau wedi bod ynghylch Midna a Zant, ond yn y diwedd roedd o fel petai'r gem yn troi am yn ol rywsut ac yn gofyn i ni boeni am arwres a dyn drwg nag oedd y gem wedi son amdanyn nhw bron o gwbwl cyn hynny. Roeddwn i'n hoffi Zant ac yn meddwl y bydde fo wedi gwneud boss ola' gwell. Roedd y ffeit gyda Ganon bach o anticlimax hefyd, roedd o'n mynd o'r mwya' epic (y ffeit gyda'r mochyn) i'r lleia epic (jesd swordfight mewn cae).
3.) Roedd yna eitem newydd gwych ond bron dim cyfle i'w defnyddio nhw! Roeddet ti'n cael y skateboard 'na reit ar diwedd yr islawr ond dim ond tua 2 gyfle i'w ddefnyddio fo oedd ar ol hynny. A'r sgidiau metal oedd yn gadael i ti ddringo hyd y to, syniad gwych ond gafodd o'm ei ddefnyddio o gwbwl eto. Byddai fo wedi bod yn wych cael eu defnyddio nhw yn y Sky Palace yn lle gorfod saethfachu i bob man.
4.) Roedd y bosses yn dda iawn ac epig ond yn lot rhy hawdd. Wnes i'm marw unwaith yn erbyn yr un boss yn y gem. Dylwn i fod wedi bod yn llenwi bob poced a botel gyda tylwyth teg cyn mynd i mewn.
5.) Beth oedd pwynt Colin ac Ilia? Roedden nhw'n cael eu anghofio'n gyfan gwbwl tua'r diwedd. A beth oedd pwynt y pobol na'n troi fyny yn Hyrule Castle? Swn i wedi medru lladd y creaduriaid yn hawdd hebddon nhw.
6.) Doedd dim digon o'r Dwnjwns yn teimlo fel Dwnjwns. Roedd y pedwar cyntaf yn dwnjwns digon traddodiadol, ond y rhai olaf yn od iawn.
7.) Roedd y posau yn lot rhy hawdd. Wnaeth yna ddim byd wneud i fi grafu pen, ddim hyd yn oed y water temple.
8.) Roedd y gem yn teimlo'n lot rhy linellol tua'r dechrau, heb ddim ffordd o symud heb gael ryw cutscene.
9.) Doedd na'm llawer i'w wneud rhwng y Dwnjwns. Yn OoT roedd yna dwnjwns bach, fel y twll yn y ffynnon a'r lle rhew 'na, a'r gerudo fortress. Doedd na'm byd tebyg yn hwn.
10.) Gorfod pysgota dwywaith yn y gem, oedd yn ddiflas ar y naw yn defnyddio'r gamecube.
Ond heblaw am hynny roedd o'n wych.