The Legend of Zelda: Twilight Princess

Mae bywyd yn arcêd, gyfaill

The Legend of Zelda: Twilight Princess

Postiogan Dyn Gwyn Gwirion » Gwe 11 Maw 2005 5:02 pm

Wel, mae'n ddiwrnod da ar gyfer trailers - gynta Star Wars III, rwan y gem Legend of Zelda newydd! Ewch i http://media.cube.ign.com/media/572/572738/vids_1.html i'w weld o.

Hwn yn edrych fel potentially y gem orau erioed. Darnau o'r trailer yn hollo, ripoff o Lord of the Rings, though - y pry cop Gohma (dwi'n meddwl) yn rhedeg ar ol Link union fatha Frodo a Shelob, a mae 'na hyd yn oed 'Army of the Dead' yn y gem!
Le pain de la mer dans le nuit,
The sweet, sweet sea bread of the sea,
Le grands garcons est dans la boucherie,
The big boys are in the butchers. - R & M
Rhithffurf defnyddiwr
Dyn Gwyn Gwirion
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 739
Ymunwyd: Maw 22 Ebr 2003 8:19 pm
Lleoliad: Bangor / Caerdydd

Postiogan Macsen » Gwe 11 Maw 2005 5:19 pm

Gesi linc i hwn neithiwr, ond oni'n pissed felly dw i'm yn cofio gymaint a hynny. Roedd y graphics yn dda, ond doedd o'm yn edrych fel petai fo'n gwneud unrhywbeth newydd a'r hen formiwla. Amser a ddengys...
Rhywun yn ymosod ar y Gymraeg? - Rhannwch Why Welsh.com!
Rhithffurf defnyddiwr
Macsen
Defnyddiwr Platinwm
Defnyddiwr Platinwm
 
Negeseuon: 6193
Ymunwyd: Maw 12 Awst 2003 8:01 pm
Lleoliad: Penrhiwllan/Waunfawr

Postiogan Gruff Lovgreen » Gwe 11 Maw 2005 6:40 pm

Welish i hwn ddoe a mae on edrych yn WYCH. Graffics dwr gora erioed? Dwi erioed wedi cal fy siomi gen gêm Zelda, felly dwi methu disgwl at hwn.
"I just said that you enjoy the occasional drink...ing binge."

Y Lliw Drwg
Rhithffurf defnyddiwr
Gruff Lovgreen
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 184
Ymunwyd: Iau 09 Medi 2004 5:45 pm
Lleoliad: Caernarfon

Postiogan Di-Angen » Gwe 11 Maw 2005 8:26 pm

Mae'n edrych yn wych. Gallai ddim aros.

Er, i ddweud y gwir, wnes i byth orffen The Wind Waker. Roedd e'n annoying as fuck i orfod teithio ar y mor gymaint, a dwi'n teimlo falle'm mod i rhy hen i ffonio'r Nintendo Hotline y dyddiau yma.
Get out of your fucking seat and jam down to the faggot rhythm of that crackrocksteady beat
Rhithffurf defnyddiwr
Di-Angen
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 833
Ymunwyd: Sul 18 Awst 2002 4:38 pm

Postiogan Dyn Gwyn Gwirion » Sad 12 Maw 2005 11:15 am

Wnes i fwynhau The Wind Waker yn fawr - graffeg hollol syfrdanol, er bod rhai yn anghytuno, a teimlad mawr o ryddid yn y gem hefyd. Er hynny, frl gem Zelda, oedd o'n wan, a ddim yn agos at fod mor dda a Ocarina of Time (er efallai'n well na Majora's Mask?), felly dwi'n edrych ymlaen at ychydig o 'return to form' i'r gyfres.

Fysa fo'n wych cael ardal enfawr o dir i grwydro, fel Hyrule Field yn Ocarina of Time.
Le pain de la mer dans le nuit,
The sweet, sweet sea bread of the sea,
Le grands garcons est dans la boucherie,
The big boys are in the butchers. - R & M
Rhithffurf defnyddiwr
Dyn Gwyn Gwirion
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 739
Ymunwyd: Maw 22 Ebr 2003 8:19 pm
Lleoliad: Bangor / Caerdydd

Postiogan krustysnaks » Sad 12 Maw 2005 1:35 pm

Di-Angen a ddywedodd:Er, i ddweud y gwir, wnes i byth orffen The Wind Waker. Roedd e'n annoying as fuck i orfod teithio ar y mor gymaint, a dwi'n teimlo falle'm mod i rhy hen i ffonio'r Nintendo Hotline y dyddiau yma.


Dwi'n deall be ti'n ddweud am orfod teithio cymaint ond do'n i ddim yn meindio.

Fel dwi wedi dweud o'r blaen, nes i ffeindio Wind Waker braidd yn hawdd - dim digon o bosau sy'n cymryd dyddiau i'w datrys a gelynion sy'n amhosib (bron) i'w lladd.
Rhithffurf defnyddiwr
krustysnaks
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 2967
Ymunwyd: Mer 14 Ebr 2004 8:05 pm
Lleoliad: yng nghôl J M Keynes

Postiogan GwiDan » Llun 14 Maw 2005 9:10 pm

krustysnaks a ddywedodd:Dwi'n deall be ti'n ddweud am orfod teithio cymaint ond do'n i ddim yn meindio.

Fel dwi wedi dweud o'r blaen, nes i ffeindio Wind Waker braidd yn hawdd - dim digon o bosau sy'n cymryd dyddiau i'w datrys a gelynion sy'n amhosib (bron) i'w lladd.


Roedd Wind Waker i fod yn rhwydd - dim sialens odd pwrpas y gêm, ond rhywbeth i bawb gael gorffen a mwynhau ar y daith. Os oedd Nintendo wedi rhoi boss amhosibl i'r mwyafrif yn gynnar ymlaen fel cafodd ei wneud gyda Ninja Gaiden ar yr Xbox, bydde 98% wedi gofyn am eu harian nol.
Rhithffurf defnyddiwr
GwiDan
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 12
Ymunwyd: Llun 14 Maw 2005 8:58 pm
Lleoliad: Tatooine

Postiogan Dyn Gwyn Gwirion » Maw 17 Mai 2005 8:53 pm

Trailer newydd sbon y gem i'w lawrlwytho neu ei wylio ar y linc uchod. Iesu Grist, mae hwn yn gant a mil o weithiau'n well na'r hen un! Link yn troi i mewn i flaidd! Graphics hollol hollol anhygoel! Y gerddoriaeth wych! Ges i chills pan wnes i wylio hwn. Methu f'n disgwyl.
Le pain de la mer dans le nuit,
The sweet, sweet sea bread of the sea,
Le grands garcons est dans la boucherie,
The big boys are in the butchers. - R & M
Rhithffurf defnyddiwr
Dyn Gwyn Gwirion
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 739
Ymunwyd: Maw 22 Ebr 2003 8:19 pm
Lleoliad: Bangor / Caerdydd

Postiogan Manag Werdd » Maw 17 Mai 2005 9:19 pm

Waw. Fi hefyd - pan ma Link yn troi'n flaidd....Amazing. Falch bod o wedi cal teitl o'r diwadd. Swnio'n ddiddorol.

Methu disgwl am hwn!
Rhithffurf defnyddiwr
Manag Werdd
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 307
Ymunwyd: Sul 15 Mai 2005 4:17 pm
Lleoliad: Ffatri Menyg (Gwyrdd)

Postiogan gimp gruff rhys » Iau 08 Rhag 2005 11:29 pm

fedrai ddim disgwyl am yr gem hon :)took pity on you? took a piss on me!

http://www.davidhasselhoff.com
Rhithffurf defnyddiwr
gimp gruff rhys
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 504
Ymunwyd: Gwe 08 Gor 2005 9:46 pm
Lleoliad: caernarfon, gwynedd, gogledd cymru

Nesaf

Dychwelyd i Gemau Cyfrifiaduron

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 7 gwestai

cron