Glywis i rywbeth am hyn fisoedd yn ol gan berchennog y siop gemau fideo anibynnol yma ym Mangor, a rwan dwi wedi cael cadarnhâd gan reolwr un o'r siopau 'cadwyn' o'r trade secret yma.
Am be dwi'n son? Y siartiau, a'r ffaith eu bod wedi'i 'fficsio'.
Yn ôl bob golwg, nid yw'r siartiau o fewn y siopau cadwyn yma yn adlewyrchu'r gemau sydd yn gwerthu orau. Mae'r safleoedd yn cael eu gwerthu i'r cwmniau sydd yn barod i dalu amdanynt. Sydd yn esbonio pam fod gemau cachlyd EA yn frenin ar y brig drwy gydol y blydi flwyddyn.
Mae EA yn talu i gael y safleoedd uchau yn y siartiau yn wythnos gyntaf rhyddhau y gem (sydd yn esbonio sut allith gem wedi'i ryddhau ar y 6ed o Fai e.e., fod ar y brig ar y 6ed o Fai ), ac wrth gwrs mae hyn yn cyflyrru gwerthiant. Dyma'n union pam fod gemau israddol megis FIFA yn gwerthu mwy na rhai o safon gwell o lawer megis Pro Evo.
Mae EA yn brysur prynnu cymaint o stiwdios datblygu a chyhoeddwyr ag y gallent, h.y. y gystadlaeaeth. Mae'n nodedig hefyd nad ydynt yn hyrwyddo cynnyrch y stiwdios hyn gymaint â chynnyrch eu stiwdios in-house, e.e. Burnout 3 (criterion)/ Need for Speed (in-house), Oddworld Stranger's Wrath (oddworld inhabitants)/Medal of Honour (in-house). Dim gwobrau am ddyfalu p'run rai yw'r gemau gorau...
Heb obaith i gyhoeddwyr llai sydd â syniadau gwreiddiol a mentrus gael breakout hit, mae monopoli EA yn cryfhau, a mae na beryg na'r oll y bydda ni'n chwarae ymhen ychydig flynyddoedd fydd FIFA 2009, Medal of Honour 13 a Need for Speed 7.
Os yda chi'n mwynhau gemau fideo o safon yn hytrach na cachu fel Goldeneye:Rouge Agent, peidiwch â prynnu gemau EA, a peidiwch byth â trystio'r siartiau...
Rant drosodd.