Forza Motorsport / Gran Turismo

Mae bywyd yn arcêd, gyfaill

Forza Motorsport / Gran Turismo

Postiogan Ffat man USA » Sad 07 Mai 2005 7:35 pm

Fedra i ddim disgwyl tan dydd Gwener nesaf. Forza Motorsport yn dod allan. Ateb X-BOX i Gran Turismo. :D :D :D. Graffics llawer gwell ar Forza na GT4 :winc:
Rhywun arall am gael Forza neu unhryw gem ddreifio yn y dyfodol agos :?:
Ffat man USA
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 18
Ymunwyd: Iau 28 Ebr 2005 10:39 am
Lleoliad: Twll tin ddaear

Postiogan Proffesor » Sul 08 Mai 2005 7:41 pm

Ma GT4 yn eitha da. Ond fel w tn deud, ma'r Forza yn mynd i fod llawer yn well.
Rhithffurf defnyddiwr
Proffesor
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 274
Ymunwyd: Mer 04 Mai 2005 2:51 pm
Lleoliad: Yfory

Postiogan Ffat man USA » Sul 08 Mai 2005 8:45 pm

Mae gan forza well dewis o draciau ond yn anffodus llai o geir ond mae'r dewis sydd yno yn wych. :). Mae o yn fy ngwylltio i pan mae rhywun yn dweud fod GT4 yn well :drwg: :drwg: :drwg: :drwg: . Mae San Andreas ar ei ffordd allan i X-BOX hefyd. Anlwcys berchenogion PS2 :!: :winc:
Ffat man USA
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 18
Ymunwyd: Iau 28 Ebr 2005 10:39 am
Lleoliad: Twll tin ddaear

Postiogan Cwlcymro » Llun 09 Mai 2005 9:07 am

Ffat man USA a ddywedodd:Mae San Andreas ar ei ffordd allan i X-BOX hefyd. Anlwcys berchenogion PS2 :!: :winc:


Pam fod hunna yn 'anlwc' i berchnogion PS2? Dio'm yn effeithio ni o gwbwl!
Wales? Whales? Do you mean 'da fish, or them singing bastards?
Cwlcymro
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 2874
Ymunwyd: Sul 15 Meh 2003 1:12 pm
Lleoliad: Caernarfon

Postiogan Ffat man USA » Llun 09 Mai 2005 10:23 am

"Game of the year" i fod a rhan fwyaf o berchnogion y gem yn cal laff ar berchnogion X-BOX. Gawn i fel perchnogion X-BOX laff iawn wan :lol: :lol: :lol: :lol: :lol: :lol: :lol: :lol: :lol: :lol: :lol: :lol: :lol:
Ffat man USA
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 18
Ymunwyd: Iau 28 Ebr 2005 10:39 am
Lleoliad: Twll tin ddaear

Postiogan Cwlcymro » Llun 09 Mai 2005 11:17 am

Ffat man USA a ddywedodd:"Game of the year" i fod a rhan fwyaf o berchnogion y gem yn cal laff ar berchnogion X-BOX. Gawn i fel perchnogion X-BOX laff iawn wan :lol: :lol: :lol: :lol: :lol: :lol: :lol: :lol: :lol: :lol: :lol: :lol: :lol:


Siriys, be ydi'r ots gen i fod pobl sydd berchen X-box yn cal chwara GTA hefyd? Dio'n effeithio dim ar yn mwynhad i o'r gem nadi! Dwi ddim yn dalld pobl sydd wrth ei bodda fod ei consol nhw efo "ecsclwsif", wti'n mwynhau gem lot gwell os na dim ond ar yr X-box mae o?
As long fod y gem ar y PS2, dydio'n effeithio dim arna i pa gonsol arall sydd yn cal ei chwara fo.
Wales? Whales? Do you mean 'da fish, or them singing bastards?
Cwlcymro
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 2874
Ymunwyd: Sul 15 Meh 2003 1:12 pm
Lleoliad: Caernarfon

Postiogan Ffat man USA » Llun 09 Mai 2005 11:22 am

Mae'r garffics yn llawer gwell ar X-BOX ac efallai mwy o geir a mwy o bethau i wneud diolch i'r graffics card mwy :!: :!: :D :D
Ffat man USA
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 18
Ymunwyd: Iau 28 Ebr 2005 10:39 am
Lleoliad: Twll tin ddaear

Postiogan Cwlcymro » Llun 09 Mai 2005 11:33 am

Wel chwara teg iddo fo! Sut ma huna'n effeithio ar yn mwynhad i o'r PS2 ddo? Ydwi yn mynd i stopio mwynhau GTA wan achos bo fi'n gwbod fod na fwy o geir ar fersiwn yr X-box?
Wales? Whales? Do you mean 'da fish, or them singing bastards?
Cwlcymro
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 2874
Ymunwyd: Sul 15 Meh 2003 1:12 pm
Lleoliad: Caernarfon

Postiogan Ifan Saer » Llun 09 Mai 2005 1:20 pm

Ffat man USA a ddywedodd:Mae o yn fy ngwylltio i pan mae rhywun yn dweud fod GT4 yn well


Wel mae'n fy ngwylltio i pam mae rwyn yn ceisio honni fod gem 'x' yn well na gem 'y' pam nad ydi gem x wedi'i ryddhau eto! Ac o weld dy atgasedd tuag at y PS2, dwi'n amau'n gryf nad wti wedi chwara digon ar GT4 i gael barn ddilys arno. Ti'n swnio'n beryglus o debyg i ffanboy i fi.

Ydio wir werth dadlau am ba beiriant sydd orau? Roedd hi'n ddadl hurt yng nhgyfnod y C64 a'r Spectrum, erbyn hyn mae'n hollol hollol boring.

Ta waeth, mae unrywun efo sens yn gwybod mai'r unig ffordd i gael profi'r gorau sydd gan gemau fideo i'w gynnig yw bod yn berchen ar bob platfform.

So niycs :winc:
Y Cofis wyr y cyfan
Rhithffurf defnyddiwr
Ifan Saer
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1412
Ymunwyd: Gwe 18 Gor 2003 7:08 pm
Lleoliad: Ar fy nhin o hyd

Postiogan twm » Gwe 13 Mai 2005 5:09 pm

Wel, mae'n ddydd gwenar - be ydi'r ferdict felly ffat man? Dal yn well na GT4?!
Rhithffurf defnyddiwr
twm
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 136
Ymunwyd: Llun 07 Maw 2005 8:36 pm

Nesaf

Dychwelyd i Gemau Cyfrifiaduron

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 5 gwestai