Gwylia be ti'n 'i ddeud FfMUSA neu mi fydd gan Cwlcymro neu Ifan Saer rwbath i'w ychwangeu yn sicr i ti.
Na, ma'r hen Ddyn Tew Americanaidd a fi wedi dod i gytundeb. Dwi'n cytuno'n llwyr efo bob dim ma'n ddeud, a mynd i brynnu 3 x-box (2 spar rhag ofn i'r cynta dorri) a defyddio fy hen PS2 fel teclyn i ddal yng nghania seidar tra dwi'n chwara x-box.
Wales? Whales? Do you mean 'da fish, or them singing bastards?
Fy hyn, o be dw i wedi ei weld (sydd yn chydig iawn cofiwch) mae graffics Forza yn siomedig iawn. Yn ol be udodd FfMUSA on in disgwl uffar o graffics da - y gora erioed. Ydi o mor dda a hynny? Sut mae'r gem ei hun ta?
Cefais sesiwn ar Forza yn nhy ffrind dros y sul. Mae'n olreit, tebyg iawn i GT, ond yn bersonnol, dydio (na GT4 chwaith) ddim yn dod yn agos at fawredd Burnout 3. Unig beth sydd yn amlwg yn well na GT4 yw'r gallu i rasio ar-lein.
Ti'n iawn am y graffeg hefyd Twm, ddim cweit mor sbesial ag o'n i'n ddisgwyl.
Burnout 3? GTA wanabee i blant bach (dim offens nam byd de! ). Dw i'n gobeithio cael tro yn reit fuan ar Forza fy hun. Udrach ymlaen i weld be ydi'r holl ffys!
Mae Driv3r yn GTA wanabi go iawn. Mae gen i hi ond dwmbo pam Mae Forza yn wych, a mae rhoi ABS, TC ac ati yn gwneud gwahaniaeth mawr. Mae'r graffics ychydig yn well na GT4.