Newydd watchad y fideo o'r controller yn cal ei ddefnyddio, a ma'n hollol amazing. Revolutionary ydi'r gair - dyma fydd chwara gema yn y dyfodol. Edrych yn arbennig o dda efo gema saethu, lle fydd y remote yn cal ei ddefnyddio fel gwn go iawn. A fel cleddyf, a bob dim arall fedra chi feddwl am! Dwi'n falch bod nw heb siomi, a ma hyn yn gneud fi'n rili excited i gal un! PS3? Dim diolch.
O, ac ar ôl darllan yn ôl, dwi hefyd isho adio bod nw AM newid yr enw o Revolution - yn y llunia newydd, doedd o ddim i'w weld ar y controller na'r console ei hun.