Y Frwydr Fawr - Pa Gonsol Newydd?

Mae bywyd yn arcêd, gyfaill

Pa Gonsol Newydd?

Playstation 3
18
50%
X-Box 360
8
22%
Nintendo Revolution (enw dros-dro)
10
28%
 
Cyfanswm pleidleisiau : 36

Y Frwydr Fawr - Pa Gonsol Newydd?

Postiogan Manag Werdd » Sul 15 Mai 2005 4:54 pm

Ma pawb yn gwbod bod Sony, Microsoft a Nintendo yn rhyddhau eu consols newydd yn y dyfodol agos. Cred llawer yw y bydd y consol cyntaf i gael ei ryddhau yn cael y fantais, fel a ddigwyddodd efo'r PS2. Ond beth ydych chi'n feddwl? Pa un fyddech chi'n ei brynu, neu am ei brynu?
Rhithffurf defnyddiwr
Manag Werdd
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 307
Ymunwyd: Sul 15 Mai 2005 4:17 pm
Lleoliad: Ffatri Menyg (Gwyrdd)

Postiogan Ifan Saer » Sul 15 Mai 2005 5:31 pm

Dwi wedi'i ddeud o o'r blaen a mi ddudai o eto - NID y PS2 oedd gyntaf i'r farchnad o'r genhedlaeth ddiwethaf. Y Dreamcast oedd hwnnw, a sbiwch be ddigwyddodd i Sega druan...Neb yn prynnu'r dam peth gan fod pawb yn aros am y PS2 yng nghanol holl heip hurt Sony a'u 'Emotion Engine' wirion.

Dwi am fynd am y 360 gyntaf, dwi'n licio pethau fel sgrin-lydan HDTV a 5.1 surround sound as standard. Hefyd mae Live yn wasanaeth gwirioneddol dda, mae gan Micro$oft fwy o brofiad na neb yn y maes hwn erbyn hyn, a maent yn sicr o fanteisio ar hynny.

Ynglyn a dy farn mai enw dros dro yw'r Revolution - hmm, dwi ddim yn siwr. Mae yna sibrydion fod peiriant newydd Nintendo yn bendant am fod yn wirioneddol chwyldroadol mewn un ffordd neu'r llall - dwi'n gweld yr enw'n sticio. Dwi'n ryw amau bydd pads y 'Revolution' yn dilyn patrwm touch screen y DS - bwriad Nintendo yw cael mwy o bobol i chwarae gemau fideo drwy symleiddio'r controls, a dyma un ffordd amlwg o wneud hynny.
Y Cofis wyr y cyfan
Rhithffurf defnyddiwr
Ifan Saer
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1412
Ymunwyd: Gwe 18 Gor 2003 7:08 pm
Lleoliad: Ar fy nhin o hyd

Postiogan Cwlcymro » Llun 16 Mai 2005 8:39 am

Ifan Saer a ddywedodd:Dwi wedi'i ddeud o o'r blaen a mi ddudai o eto - NID y PS2 oedd gyntaf i'r farchnad o'r genhedlaeth ddiwethaf. Y Dreamcast oedd hwnnw, a sbiwch be ddigwyddodd i Sega druan...Neb yn prynnu'r dam peth gan fod pawb yn aros am y PS2 yng nghanol holl heip hurt Sony a'u 'Emotion Engine' wirion.


Oni'n meddwl ma'r un cenhedlaeth a PSX a N64 oedd Dreamcast. Dreamcast ddoth allan cyn y PSX a'r N64 a methu, felly nath Sega ddim boddro efo'r genhedlaeth wedyn, a mi gymerodd Microsoft ei lle.

1 - Master System a NES
2 - Master System II a SNES
3 - Dreamcast, PSX a N64
4 - PS2, Gamecube a X-box
Wales? Whales? Do you mean 'da fish, or them singing bastards?
Cwlcymro
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 2874
Ymunwyd: Sul 15 Meh 2003 1:12 pm
Lleoliad: Caernarfon

Postiogan Ifan Saer » Llun 16 Mai 2005 8:46 am

Cwlcymro a ddywedodd:Oni'n meddwl ma'r un cenhedlaeth a PSX a N64 oedd Dreamcast. Dreamcast ddoth allan cyn y PSX a'r N64 a methu, felly nath Sega ddim boddro efo'r genhedlaeth wedyn, a mi gymerodd Microsoft ei lle.

1 - Master System a NES
2 - Master System II a SNES
3 - Dreamcast, PSX a N64
4 - PS2, Gamecube a X-box


Fel hyn oedd hi. (Heb fod yn nawddoglyd OND yn ffeithiol gywir, ond yn gadael allan hen beiriannau megis yr Atari VCS ayyb)

1 - Master System I + II* a NES
2 - Megadrive a SNES
3 - Sega Saturn, PS1 a N64
4 - Dreamcast, PS2, 'Cube, Xbox

*yr un peiriant mewn ffurf wahanol oedd y master system I a II - fel y PSX a'r PSone
Y Cofis wyr y cyfan
Rhithffurf defnyddiwr
Ifan Saer
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1412
Ymunwyd: Gwe 18 Gor 2003 7:08 pm
Lleoliad: Ar fy nhin o hyd

Postiogan Cwlcymro » Llun 16 Mai 2005 9:31 am

AHA!! y Sega Saturn! Sut anghofish i amdano fo!

Mi nesi ffwndro efo'r Mega Drive, mi oni yn cofio fod MSII yn genhedlaeth wahanol i'r SNES achos ma gen i'r ddau ohonu nhw, a dim ond un o bob cynhedlaeth dwi wedi brynnu.

Doni rioed yn gwbod ma'r un system oedd MSII a MS1. MSII odd genai a doedd na neb o'n ffrindia i yn gwybod dim am yr MS1. Mi oni ohyd wedi meddwl ma rhyw beiriant hynafol yn chwara gema Spectrymaidd oedd o!

Sega Saturn! Dwi'n cofio wan. Mi wnaeth o mor wael mi benderfynodd Sega beidio rhoi ei logo ar y Dreamcast, heb son am ei enw. Dim fod hynnu wedi achub y Dreamcast!
Wales? Whales? Do you mean 'da fish, or them singing bastards?
Cwlcymro
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 2874
Ymunwyd: Sul 15 Meh 2003 1:12 pm
Lleoliad: Caernarfon

Postiogan Manag Werdd » Llun 16 Mai 2005 10:57 am

Ryw fath o 'codename' ydi Revolution, yr un fath ag oedd 'Dolphin' yn codename i 'Gamecube' cyn iddo fo gael ei ddangos am y tro cynta yn E3 ryw bedair blynedd yn ôl. Swn i'n synnu os mai dyma fydd enw terfynol y consol.
Rhithffurf defnyddiwr
Manag Werdd
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 307
Ymunwyd: Sul 15 Mai 2005 4:17 pm
Lleoliad: Ffatri Menyg (Gwyrdd)

Postiogan Ifan Saer » Maw 17 Mai 2005 5:20 am

Y Cofis wyr y cyfan
Rhithffurf defnyddiwr
Ifan Saer
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1412
Ymunwyd: Gwe 18 Gor 2003 7:08 pm
Lleoliad: Ar fy nhin o hyd

Postiogan Cwlcymro » Maw 17 Mai 2005 9:03 am

35 times faster than the chip inside the current PlayStation


In a dig at Microsoft, Sony said the processor was twice as fast as the one in the Xbox 360.


The console also boasts a new graphics chip from Nvidia, which Sony claims can create movie-quality images in real time in games.


The PS3 will use the Blu-ray disc format, which can hold 50 gigabytes of information - the equivalent of six DVDs.


will come ready to be hooked to the internet, either via a built-in Ethernet port or via wi-fi.


The machine will be backwards compatible,


It will also have a small removable hard drive


The controllers are wireless, using Bluetooth technology


Support for seven Bluetooth controllers


Ia, SAITH joypad heb multitap!!


Dwi'n meddwl mod i wedi penderfynu sdicio fo'r rhen Sony :lol:
Wales? Whales? Do you mean 'da fish, or them singing bastards?
Cwlcymro
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 2874
Ymunwyd: Sul 15 Meh 2003 1:12 pm
Lleoliad: Caernarfon

Postiogan Manag Werdd » Maw 17 Mai 2005 12:13 pm

Waw. Ocê, ma huna i gyd yn swnio'n reit dda chwara teg. Gobeithio na fydd Nintendo yn fy siomi...

O ran y steil, dim yn rhy revolutionary nadi. Edrych yn debyg i gynllun y PS2 yn y bon, ond fwy space age.
Rhithffurf defnyddiwr
Manag Werdd
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 307
Ymunwyd: Sul 15 Mai 2005 4:17 pm
Lleoliad: Ffatri Menyg (Gwyrdd)

Postiogan Cwlcymro » Maw 17 Mai 2005 12:17 pm

O ran y steil, dim yn rhy revolutionary nadi. Edrych yn debyg i gynllun y PS2 yn y bon, ond fwy space age.


"If it aint broke....."

Nintendo yn dadorchuddio ei peiriant newydd pnawn ma dwi'n meddwl
Wales? Whales? Do you mean 'da fish, or them singing bastards?
Cwlcymro
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 2874
Ymunwyd: Sul 15 Meh 2003 1:12 pm
Lleoliad: Caernarfon

Nesaf

Dychwelyd i Gemau Cyfrifiaduron

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 7 gwestai