Age of Empires III

Mae bywyd yn arcêd, gyfaill

Age of Empires III

Postiogan eifs » Gwe 27 Mai 2005 2:22 pm

waw, gem newydd Age of Empires yn dod allan ychydig ymlaen yn y flwyddyn yma, mae'n edrych yn brilliant, mae chydig o screenshots ar y wefan yma:

http://www.ensemblestudios.com/

Galla i ddim disgwyl!!!
Rhithffurf defnyddiwr
eifs
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1275
Ymunwyd: Mer 16 Chw 2005 3:18 pm
Lleoliad: Llanrug/Abertawe

Postiogan Clochwr » Iau 09 Meh 2005 12:20 pm

Ma gennai bob fersiwn o AoE sydd wedi ei rhyddhau, a ma'r in-game shots oddi ar y wefan yma'n edrych yn wych!! Dwi'n edrych yn mlaen yn fawr! Ma nw'n deud fydd hi allan yn ail hanner 2005, yn America neu Ewrop? America fyswn i'n meddwl de, felly fydd hi ddim allan yma dan o leiaf y flwyddyn newydd...
Clochwr
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 299
Ymunwyd: Sul 13 Meh 2004 10:44 am
Lleoliad: Dolgellau / Glan Llyn

Postiogan eifs » Maw 05 Gor 2005 12:51 pm

http://www.ageofempires3.com/

mae'r wefan di cael ei wella, ac dwi'n teimlo yn fwy cyffroes efo'r ar ol gweld y fideo sydd yn cael ei ddangos

(doedd y fideo ddim yn gweithio ar fy firefox, felly internet explorer sydd angen ei ddefnyddio dwin meddwl)
Rhithffurf defnyddiwr
eifs
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1275
Ymunwyd: Mer 16 Chw 2005 3:18 pm
Lleoliad: Llanrug/Abertawe

Postiogan Macsen » Maw 05 Gor 2005 2:06 pm

Edrych yn wych. Falle bod dal cyfle i mi enill o leiaf un gem AoE yn erbyn fy mrawd wedi'r cwbwl.
Rhywun yn ymosod ar y Gymraeg? - Rhannwch Why Welsh.com!
Rhithffurf defnyddiwr
Macsen
Defnyddiwr Platinwm
Defnyddiwr Platinwm
 
Negeseuon: 6193
Ymunwyd: Maw 12 Awst 2003 8:01 pm
Lleoliad: Penrhiwllan/Waunfawr

Postiogan Clochwr » Mer 06 Gor 2005 10:34 pm

Edrych yn mlaen yn barod! Unwaith mai allan fe fydd rhaid i ni drefnu gem! :D
Clochwr
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 299
Ymunwyd: Sul 13 Meh 2004 10:44 am
Lleoliad: Dolgellau / Glan Llyn

Postiogan eifs » Mer 06 Gor 2005 10:40 pm

fynu i 8 chwaraewyr ar y pryd ydio de? ffantastig, brwydr maes-e :D

o damia, rhaid cael cyfrifiadur newydd, achos no we fydd un fi yn gallu rhedeg y gem yn rhwydd, gan fy mod i yn cael trafferthion efo age of empires II :crio:
Rhithffurf defnyddiwr
eifs
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1275
Ymunwyd: Mer 16 Chw 2005 3:18 pm
Lleoliad: Llanrug/Abertawe

Postiogan Clochwr » Mer 06 Gor 2005 11:01 pm

Aii, 8 o chwaraewr!
Ma broadband newydd ddod ar gael yn yr ardal - rhaid i fi berswadio dad i'w brynu cyn i fi allu chwara ar y we! Dwi'n cofio chwara AOE2 ar y we, odd hi gymaint o strygl gan fod dial-up yn mynu dad-gysylltu bob 10 munud :(
Ma'r screenshots yn edrych yn brill! Sgen ti syniad pryd fydd hi ar gael yn Mhrydain?
Clochwr
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 299
Ymunwyd: Sul 13 Meh 2004 10:44 am
Lleoliad: Dolgellau / Glan Llyn

Postiogan eifs » Mer 06 Gor 2005 11:03 pm

tua adeg y nadolig fuswn i yn meddwl, oherwydd nad oes llawer o hype amdano ar y funud, ond yn sicr blwyddyn nesaf
Rhithffurf defnyddiwr
eifs
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1275
Ymunwyd: Mer 16 Chw 2005 3:18 pm
Lleoliad: Llanrug/Abertawe

Postiogan eifs » Gwe 08 Gor 2005 3:40 pm

dyma be mae o yn ei ddweud ar Amazon:

This item will be released on September 30, 2005. You may order it now and we will dispatch it to you when we receive it from our supplier. Please note that release dates are subject to change.
Rhithffurf defnyddiwr
eifs
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1275
Ymunwyd: Mer 16 Chw 2005 3:18 pm
Lleoliad: Llanrug/Abertawe

Postiogan Clochwr » Iau 29 Medi 2005 10:25 pm

Dwi di downloadio's demo, ond ma'r cyfrifiadu'r yn rhy hen i'w redeg o'n iawn. :drwg:
Clochwr
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 299
Ymunwyd: Sul 13 Meh 2004 10:44 am
Lleoliad: Dolgellau / Glan Llyn

Nesaf

Dychwelyd i Gemau Cyfrifiaduron

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 12 gwestai