Tudalen 1 o 1
Snake II ar ffoniau Nokia
Postiwyd:
Llun 23 Meh 2003 6:51 pm
gan ceribethlem
Faint ohonoch chi sydd yn chwarae'r gem Snake II ar ffoniau symundol Nokia yn lle gweithio?
Beth yw eich sgor gorau?
Dwi wedi llwyddo cael 3579. Roedd y sgrin mor llawn doedd hi ddim yn bosib i mi gael mwy. Mi fyddai'n bosib sgorio mwy wrth fynd i fyny lefel, oes rhywun wedi gwneud hyn?
Postiwyd:
Llun 23 Meh 2003 6:56 pm
gan Hogyn o Rachub
Haha 418 ydi top sgôr fi, dwi newydd jecio. Mae'n uffernol!
Postiwyd:
Llun 23 Meh 2003 8:54 pm
gan huwwaters
Wel, ar Snake I, cefais 1022!!! Tra yn fy ngwely ac yn hanner cysgu rywsut.
Re: Snake II ar ffoniau Nokia
Postiwyd:
Mer 25 Meh 2003 8:06 am
gan Gethin Ev
ceribethlem a ddywedodd:Dwi wedi llwyddo cael 3579.
Ffocing hell, Scott Quinell!
Postiwyd:
Mer 25 Meh 2003 3:07 pm
gan ceribethlem
ceribethlem :
Dwi wedi llwyddo cael 3579.
Ffocing hell, Scott Quinell!
Mae gwarchod arholiadau yn waith diflas ar y naw
Postiwyd:
Maw 15 Gor 2003 6:17 pm
gan Hogyn o Rachub
Dwi wedi cael dros 1,000 rwan. Mi gefais i o tra'n Lloegr. Sdim byd arall i wneud 'na!
Postiwyd:
Maw 15 Gor 2003 10:13 pm
gan garynysmon
Mi gesh i sgor o 1078 ar fy'n hen ffon ar Snake 1. Ond mae fy sgor ar Snake 2 yn warthus, 840. Dwi'n gweld Snake 2 yn rhy hawdd rhywsut, efo'r gallu i fynd 'drwy waliau' ac ati.
Postiwyd:
Sul 20 Gor 2003 8:37 pm
gan ceribethlem
Mi gesh i sgor o 1078 ar fy'n hen ffon ar Snake 1. Ond mae fy sgor ar Snake 2 yn warthus, 840. Dwi'n gweld Snake 2 yn rhy hawdd rhywsut, efo'r gallu i fynd 'drwy waliau' ac ati.
Ti'n gallu rhoi walydd lan trwy fynd mewn i Options a wedyn mazes. Mae gwahanol mazes yn rhoi gwahanol walydd lan. Mae'n amhosib mynd trwy'r rhain, er mofd i'n trial yn galed weithiau!