Battlefield 2

Mae bywyd yn arcêd, gyfaill

Battlefield 2

Postiogan Tronaldo » Maw 14 Meh 2005 12:43 pm

Oes na unrhywun arall di llawrlwytho'r demo newydd?

Dwi di cael cwpwl o gems ohonno a mae o'n wych. Really intense, lot o action o ni'n chwara ar server efo 40 o chwarawyr neithiwr a oedd o'n profiad a hanner.

Oedd trio hedfan hofrennydd yn anodd, a braidd yn embarasing pan nesi crashio efo lot o passangers :wps:
Delwedd
Rhithffurf defnyddiwr
Tronaldo
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 338
Ymunwyd: Maw 24 Chw 2004 2:10 pm
Lleoliad: Cybertron

Postiogan Cymro Sinistr » Maw 14 Meh 2005 3:52 pm

Dwisho chwara fo jsut tisho monstyr PC iw rhedeg :(

A nid yw fy nghyfrifiadur i yn monster.....
Rhithffurf defnyddiwr
Cymro Sinistr
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 791
Ymunwyd: Iau 26 Awst 2004 7:51 pm
Lleoliad: Nagoes

Postiogan Tronaldo » Gwe 01 Gor 2005 2:58 pm

Wel mae'r gem llawn allan ers wythnos a'r unig beth fedrai ddeud ydi wow. Ma amser just yn hedfan pan dwi'n chwara fo. Neithiwr nesi ddechra chwara am 7 a cyn fi droi oedd hi'n 9! Neithiwr am y tro cyntaf o ni'n leadio squad o 6 ac yn gorfod rhoi ordors allan, e.e. llei i ymosod nesaf, gofyn am artillary, supplies a.y.yb. stressful iawn, yn enwedig pan ti'n ganol firefight mawr dy hyn.

Dwi ddim di trio hedfan awyrennau na hofrennyddion gan fod na peilots lot gwell na fi yn chwara.

Ma'n wir bod angen pc cryf i rhedeg y gem, ond ti'n gallu cael graffeg rhesymol o pc gweddol. Beth di'r killer ydi loadio'r mapiau, yn ôl si ma'r gem angen 1 gig o ram i loadio'n iawn, rhywbeth ma Electronic Arts ei hyn ddim di deud. Ma genna ni gig o ram yn pc gems ni ond ma windows xp yn cymeryd 200meg felly ma hyn yn arafu petha.

Oes na unrhywun arall di prynnu'r gem?
Delwedd
Rhithffurf defnyddiwr
Tronaldo
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 338
Ymunwyd: Maw 24 Chw 2004 2:10 pm
Lleoliad: Cybertron

Postiogan bartiddu » Gwe 01 Gor 2005 6:48 pm

Gen i ers tridiau, dechre cyfarwyddo! 1/4 ffordd o gael dyrchafiad o preifat i'r ranc nesaf, dwi'n canolbwyntio ar fod yn sneipar tsheiniaidd! :crechwen:
Mae'n cymerud 3-4 munud i lwytho pob map ar y 'multiplayer', ma'r cyfrifiadur yn ymateb yn dda, a ma' fy ngerdyn graffeg ac ati tua 3 mlwydd oed erbyn hyn. Ma' 'lag' bach o broblem os yn rhedeg neu mynd fel y diawl mewn cerbyd, ond dwi'n glynnu i mapiau bychan hefo'r lleiafrif o chwarewyr. Dwi'n rhagweld fod y gem hon yn ffuddsoddiad da, gan fy mod yn hoff o 'FPS', gwneith para sawl blwyddyn i fi! Ma' angen cael digon o bwyntiau i gael yr arfau nesa' lan, felly angen oriau o ymroddiad! Ta ta teledu nos, B2 tra'n gwrando ar C2 fydd hi ma'i arna'i ofn! :D
Cymro1973 dwi i gyda llaw, diddordeb gan rhywyn ffurfio catrawd o'r FWA?. :winc:
Rhithffurf defnyddiwr
bartiddu
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 2285
Ymunwyd: Sad 21 Chw 2004 12:22 am
Lleoliad: Pentrwyn Cynwyl

Postiogan Tronaldo » Gwe 01 Gor 2005 7:23 pm

bartiddu a ddywedodd:Cymro1973 dwi i gyda llaw, diddordeb gan rhywyn ffurfio catrawd o'r FWA?. :winc:


Mmmm dwi di bod yn galw squads fi yn hynna :crechwen: , dwi ddim yn meddwl bod neb ar y server dwi'n mynd ar yn deallt. Ma'r gem yn really addictive dydi. Tisio gem rhywbryd?
Delwedd
Rhithffurf defnyddiwr
Tronaldo
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 338
Ymunwyd: Maw 24 Chw 2004 2:10 pm
Lleoliad: Cybertron

Postiogan bartiddu » Gwe 01 Gor 2005 9:53 pm

Dim problem! Bydd rhaid i ti rhoi cyfarwyddiadau sut i ymuno yn dy gem! (dwi'n dwp!) :lol:
Rhithffurf defnyddiwr
bartiddu
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 2285
Ymunwyd: Sad 21 Chw 2004 12:22 am
Lleoliad: Pentrwyn Cynwyl

Postiogan Macsen » Mer 20 Gor 2005 1:43 pm

Unrhywun ffansi creu tim BF2 Mod Cymraeg ar Maes-E? Mi allen ni greu mod lle mae byddin Byddin Unedig y Celtiaid yn un o'r timau, gyda cwffio mewn ardaloedd Cymraeg! ;)

Dw i wedi gweithio ar mods yn y gorffenol.

Tydi o ddim mwy twp na United Islamic States neu beth bynnag sydd yn y gem. :)
Rhywun yn ymosod ar y Gymraeg? - Rhannwch Why Welsh.com!
Rhithffurf defnyddiwr
Macsen
Defnyddiwr Platinwm
Defnyddiwr Platinwm
 
Negeseuon: 6193
Ymunwyd: Maw 12 Awst 2003 8:01 pm
Lleoliad: Penrhiwllan/Waunfawr

Postiogan Tronaldo » Mer 20 Gor 2005 4:27 pm

Fysa hynna'n hwyl, ond faint o amser fysa fo'n cymeryd i neud rhywbeth fel hyn, a pa meddalwedd fyddai ei angen?
Delwedd
Rhithffurf defnyddiwr
Tronaldo
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 338
Ymunwyd: Maw 24 Chw 2004 2:10 pm
Lleoliad: Cybertron

Postiogan bartiddu » Mer 20 Gor 2005 5:25 pm

Gwnai ymuno yn yr hwyl bang bang gyda phleser, ond sgen i'm clem am greu rhaglennu mods ayb! :)
Dwi lan i 3,120 pwynt ar hyn o bryd, dwi methu deall sut mae rhai ar 120,000 pwynt! :o
Rhithffurf defnyddiwr
bartiddu
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 2285
Ymunwyd: Sad 21 Chw 2004 12:22 am
Lleoliad: Pentrwyn Cynwyl

Postiogan Tronaldo » Mer 20 Gor 2005 5:56 pm

Dwi ddim yn cofio be di sgor fi, dwi di cael un promotion. Ma na lot o cheatio'n mynd yn mlaen efo'r rankings ma yn ôl son. Petha fel dau person support yn mynd ffwrdd o'r action a yn lluchio grenades trwy'r adeg ac yn rhoi mwy o ammo i'w gilydd pob yn ail, fel bod nhw'n cael support sgor uchel iawn.

Fydd rhaid ni cael gem rhywbryd, ond gennai ddim amser rwan tan ar ôl steddfod.
Delwedd
Rhithffurf defnyddiwr
Tronaldo
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 338
Ymunwyd: Maw 24 Chw 2004 2:10 pm
Lleoliad: Cybertron

Nesaf

Dychwelyd i Gemau Cyfrifiaduron

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 24 gwestai

cron