Gen i ers tridiau, dechre cyfarwyddo! 1/4 ffordd o gael dyrchafiad o preifat i'r ranc nesaf, dwi'n canolbwyntio ar fod yn sneipar tsheiniaidd!
Mae'n cymerud 3-4 munud i lwytho pob map ar y 'multiplayer', ma'r cyfrifiadur yn ymateb yn dda, a ma' fy ngerdyn graffeg ac ati tua 3 mlwydd oed erbyn hyn. Ma' 'lag' bach o broblem os yn rhedeg neu mynd fel y diawl mewn cerbyd, ond dwi'n glynnu i mapiau bychan hefo'r lleiafrif o chwarewyr. Dwi'n rhagweld fod y gem hon yn ffuddsoddiad da, gan fy mod yn hoff o 'FPS', gwneith para sawl blwyddyn i fi! Ma' angen cael digon o bwyntiau i gael yr arfau nesa' lan, felly angen oriau o ymroddiad! Ta ta teledu nos, B2 tra'n gwrando ar C2 fydd hi ma'i arna'i ofn!
Cymro1973 dwi i gyda llaw, diddordeb gan rhywyn ffurfio catrawd o'r FWA?.