Reit hogie - dwi newydd weld CM5 gan ffrind i mi ag roedd yn edrych yn wych. Mae gen i CM4 yn barod ond oherwydd pwysau gwaith ges i byth cyfle i'w chwarae'n iawn. Ond yn dilyn newid gyrfa (os dech chi angen saer clo ffoniwch 01352 716056) mae gen i ddigonedd o amser sbar rwan.
Y cwestiwn ydi a ddylswn i brynnu CM5, FM 2005 neu sticio efo CM4 gan fod patch newydd ar gael iddo a dwi heb rili cael gwerth fy arian allan ohono eto. Faint yn well mae'r fersiynnau newydd? Byddwn yn falch o unrhyw adolygiad dech chi'n teimlo fel ei rhannu hefyd.