Tudalen 1 o 4

Scrabble

PostioPostiwyd: Maw 06 Medi 2005 4:43 pm
gan Garlleg
Scrabble yn Gymraeg - ar gael ym mis Medi trwy siop lyfrau leol neu http://www.gwales.com

Weles i hysbyseb yn y catalog o ddeunyddiau dysgu Cymraeg :)

Dydy Scrabble ddim ar y cyfrifiaduron eto ond, .... (mae gen i "Gair am Air")

PostioPostiwyd: Maw 06 Medi 2005 6:21 pm
gan Llefenni
Alli di'm jyst chware shgrabbyl yn y gymraeg bethbynnag? :?

PostioPostiwyd: Iau 08 Medi 2005 9:44 pm
gan Garlleg
http://www.gwales.com/bibliographic/?is ... 1ad0e00fb8

Fersiwn iaith Gymraeg o'r gêm Scrabble a werthwyd drwy Brydain yn gyntaf ym 1955; ceir 105 o deils pren, 4 rhesel bren a bwrdd chwarae o ansawdd da.

Rhaid i mi aros tan mis Hydref rwan :( Dw i isio Scrabble RWAN.

PostioPostiwyd: Iau 08 Medi 2005 10:59 pm
gan Hen Rech Flin
Llefenni a ddywedodd:Alli di'm jyst chware shgrabbyl yn y gymraeg bethbynnag? :?


Os wyt ti'n meddwl defnyddio teils Saesneg i chware yng Nghymraeg na fyddai. Does dim digon o deils i ysgrifennu geiriau sy'n cynnwys Ch, Dd, Ff, Ng, ac ati.

Mae W ac Y yn digwydd llawer mwy aml yn y Gymraeg nag ydynt yn y Saesneg ac felly mae'n llai o gamp i gael gwared ohonynt.

Ac os digwydd bod Q X Z J a K ar dy rac mi wyt mewn llawer mwy o drwbl mewn gêm Cymraeg nag wyt mewn gêm Saesneg.

Rwy'n edrych ymlaen - bydd raid imi sgwennu llythyr cynnar i Siôn Corn i ymofyn copi.

PostioPostiwyd: Gwe 09 Medi 2005 7:50 am
gan Llefenni
Hen Rech Flin a ddywedodd:Ac os digwydd bod Q X Z J a K ar dy rac mi wyt mewn llawer mwy o drwbl mewn gêm Cymraeg nag wyt mewn gêm Saesneg.


Ie, ond dyna 'di'r sialens 'de? :syniad:

Eniwe, dim ond geeks a freaks efo llawer gormod o amser ar 'i dwylo sy'n chware' sgrabyl bethbynnag :winc:

PostioPostiwyd: Gwe 09 Medi 2005 8:03 am
gan HenSerenSiwenna
Ooo, edrych yn dda - dwi wedi chwarae scrabble cymraeg hefo bord saesneg ond mae hi'n anodd ac roedden ni, dweud y gwir, yn defyddio slang yn hytrach na gymraeg cywir; ac eniwe, fysa'n neis cael ford gymraeg :D

PostioPostiwyd: Gwe 09 Medi 2005 8:22 am
gan Gwahanglwyf Dros Grist
Garlleg a ddywedodd:Rhaid i mi aros tan mis Hydref rwan :( Dw i isio Scrabble RWAN.


Ffantastig. Fi moyn e nawr nawr nawr! :D

PostioPostiwyd: Gwe 09 Medi 2005 8:30 am
gan khmer hun
Be' fydd y llythyren â'r sgôr ucha'? Ch? Ng?

Oes 'na air ag 'ng' yn'i ganol? :wps:

PostioPostiwyd: Gwe 09 Medi 2005 8:31 am
gan khmer hun
khmer hun a ddywedodd:Oes 'na air ag 'ng' yn'i ganol? :wps:


Sori - mae'n fore. Llong. Mwng. Tynged. Llynger. Rhwng.

:wps: :wps:

PostioPostiwyd: Gwe 09 Medi 2005 8:32 am
gan Gwahanglwyf Dros Grist
khmer hun a ddywedodd:
khmer hun a ddywedodd:Oes 'na air ag 'ng' yn'i ganol? :wps:


Sori - mae'n fore. Llong. Mwng. Tynged. Llynger. Rhwng.

:wps: :wps:


Anghofus. :winc: