Fyddan ni'n medru defnyddio geiriau efo treigladau at eu dechrau? Dan ni ddim yn medru eu defnyddio yn Gair am Air - mae "ph" yn werth 20 yno. Dw i wedi chwilio am eiriau efo ph yn y canol - triphlyg, traphont. Mae gen i hen lyfr (1880?) ac yno - Gorphennaf ydy'r sillafu am y mis.
Dw i wedi prynu Scrabble Mae yn anodd i ddysgwyr - anodd meddwl am eiriau, anodd neud y lluosog (yn Saesneg, handi iawn rhoi s!!) neu neud y gair yn hirach.
Wedi cael gem ar yr un Cymraeg newydd a oedd e'n brofiad rhyfedd iawn. Oedd pawb yn rhoi geiriau byr i lawr achos ei bod nhw heb arfer a meddwl yn Gymraeg wrth chwarae'r gem. Arfer ydi e 'sbo.