Oes rhywun arall yn chware y Master League? Dwi’n hooked.
Dwi’n chware fel Lerpwl, efo’r sgwad go iawn (ar ol ychwanegu Alosno, Morientes a Garcia i’r sgwad efo edit), nid yr un default master league. Dwi’n chware ar lefel 4. Dwi yn fy mhedwerydd tymor, wedi cael promotion ond unwaith, ac ennill y division cup. Dwi yn division 1 league D. Mae chware yn y WEFA Champions League yn cymryd lot allaon o ffitrwydd y chwaraewyr, angen neud lot o squad rotation. Dwi newydd gorffen 5ed. Dwi angen gwella. Sgorio mwy o goliau sydd angen, dwi ddim yn gadael llawer i fewn.
Gerrard, Kewell a Carragher yn dda. Dwi di prynu Cassano, Luque, Joaquim a Nakata. Dwi newydd sylwi fod chwaraewyr yn cael ei ail-eni fel chwaraewyr ifanc, a dwi efo y Di-Canio, Les Ferdinand a Palligluca ifanc. Ma nhw am ddim ac yn mynd i ddatblygu mewn i chwarawyr gwych gobeithio. Mae gweld y chwaraewyr ifanc yn datlbygu, a’r rhai hen yn dirywio yn adio gymaint i’r gem.
Dwi’n hollol hooked.