gan Tronaldo » Gwe 25 Tach 2005 10:05 pm
Dwi newydd prynnu network adaptor ddoe, wedi dechra chwara ar-lein rwan, ma'n laff mawr. Wedi bod yn chwara lot o gema efo'n mrawd i ar yr un tim (anodd iawn). Cwpwl o petha sy'n pissio fi off hyd yn hyn ydi'r ffaith bod pawb yn chwara fel chelsea, lle ma'r hwyl yn hynna, ma'n hawdd sgorio efo nhw. Yn gem cyntaf fi nesi colli 2-0 i boi yn chwara fo chelsea (Racing Santander nesi ddewis) nath y boi cael dau cyfle efo lampard a oedd hi drosodd, ond fi oedd yn chwara gora. Ma'r rhan fwyaf o pobl yn hoff o rhedeg lawr y wing efo robben a wedyn pasio i lampard pan ma'n rhedeg fewn i'r bocs, diflas iawn. Hefyd drwy dewis chelsea os oes na player off form ma'n digon hawdd darganfod chwarawr arall union ru'n peth yn y carfan, Inter yn tim gwael i chwara yn erbyn hefyd.
Efallai fydd rhaid ni cael cynghrair bach rhywbryd.
Tron