Oes rhywun arall wedi cael y gem yma? Mae'n reit debyg i'r ddau eraill, ond dydi hynna ddim yn beth rhy ddrwg, 'chwaith. Ddim wedi cael chwarae fel y Dark Prince eto, ond mae'n swnio'n ddigon gwahanol i'r Sand Wraith o'r ail gem.
HBK25 a ddywedodd:Gall rhywun sydd wedi chwarae'r gem yma fy helpu hefo'r boss cyntaf? Mae'n rhaid gwneud stealth kills a mae'n dechrau miffio fi o braidd
ti di neud y stealth kill na to?
Dwi ar y boss ola, anodd dir bit lle rhai ti dringo ar bob dim i fynd ato.
Be nes i ffeindio'n ddefnyddiol efo'r bos cyntaf oedd mynd i'r dde gynta a dringo i fyny ffordd yno. Colbio fo efo'r stelth kill, yna mynd i'r un nesa. Os ti'n dal i gal trafferth cofi bod gen ti dy re-wined.
Ma rhaid i mi ddeud fod y gyfres yma wedi bod yn un ardderchog. Yr un ges i fwyaf drafferth efo oedd yr ail. Nes i orffen y trydedd o fewn wythnos i'w gael. Fe gymerodd hi fis i fi neud y cynta. Roedd yr ail yn lot anoddach ond nes i orffen y stoi gyntaf yn reit ddi lol ond roedd hi'n anodd cael at y Gleddyf ddwr.
Nid yn unig roedd y stori drwyr gyfres yn arbenig odnd roedd y sgiliau ymladd yn gwella efo bob gem. Er fe ges i fy siomi efo'r trydedd. Ei weld yn rhy hawdd efo'r snici sici mynwfars.