Tudalen 1 o 2

Sensible Soccer Newydd!

PostioPostiwyd: Llun 12 Rhag 2005 11:43 pm
gan HBK25
Yn ol y son, mae Codemasters wrthi'n creu fersiwn newydd o Sensible Soccer i'r Xbox, Cube a PS2. Mae'r graffeg am fod yn cel-shaded tro ma. Unrhyw sylwadau? :syniad:

PostioPostiwyd: Maw 13 Rhag 2005 12:09 am
gan HBK25

PostioPostiwyd: Maw 13 Rhag 2005 12:32 am
gan Y Fampir Hip Hop
I fod yn onest, O ni dim yn ffan o Sensi pryd o ni'n yfanc, o ni ffili dod yn gyfarodd a'r ffaith bod chi gorfod symud wastod i gadw'r bel.

Wellgen i Striker ar y SNES, unrhywun cofio na? Class, odd EDIT arnoi, wastod yn newid y d

PostioPostiwyd: Mer 14 Rhag 2005 4:24 pm
gan HBK25
Roeddwn i'n hoffi "top-down view" Sensible Soccer - lot gwell na gemau fel FIFA ar y pryd. Dwi'n cytuno am golli'r pel - pan oeddech chi'n rhedeg 'roedd yn anodd iawn i gadw'r pel wrth arafu.

Heblaw am hynna, mwynhais i SWOS yn enwedig: pob tim yn y byd, mwy neu lai. Gwych.

O'n i'n hoff o Striker ar yr Amiga, hefyd; ond dwi'm yn meddwl ei fod o cystal a Senible Soccer. Ond eto, mater o farn ydi hwnna. :syniad:

PostioPostiwyd: Mer 14 Rhag 2005 4:30 pm
gan Geraint
Odd gennia fo ar yr Atari ST. Gem ddai iawn, hoffi'r graffegau o'r dynion bach cartwnaidd. Ac hoffi'r swn pan yn cicio'r bel.

Ond odd well gennai Kick Off 2. Un o'r gemau cyflyma erioed. Ac y swn taro postyn gorau erioed.

Odd gennai Striker ar yr ST hefyd, a oedd yn iawn.

Italia 90 - gem hollol crap.

Emlyn Hughes International Soccer -gem bach dda, under rated.

Ond i gymharu efo PES nawr, dwi ddim efo unrhyw awydd fynd nol at rhein.

PostioPostiwyd: Llun 19 Rhag 2005 8:12 pm
gan HBK25
Y gem pel-droed gwaethaf erioed - Kenny Dalglish Soccer. Uffernol :crechwen: :drwg:

PostioPostiwyd: Llun 19 Rhag 2005 8:46 pm
gan Y Fampir Hip Hop
Iesgyn o ni dim yn gwbod odd Kenny gyda gem mas :D ar phwy sustem oedd e?

Edrychai am y ROM nawr (wps ydw i di incriminatoi'n unan? :)

PostioPostiwyd: Maw 20 Rhag 2005 4:47 pm
gan Geraint
HBK25 a ddywedodd:Y gem pel-droed gwaethaf erioed - Kenny Dalglish Soccer. Uffernol :crechwen: :drwg:


Yr un 'chwarae' pel-droed? Mi oedd yna un gem chware, ac un gem manager. Yn fy marn i, odd Kenny Dalglish Soccer Manager yn wych o gem.

Delwedd

PostioPostiwyd: Maw 20 Rhag 2005 7:41 pm
gan HBK25
Yr un chwarae: "loads of great options" (dau tim) "Great graphics and sounds" (graffeg gan plentyn wnaethon nhw ffeindio'n llyfu ffenestri bws).

Absoliwtli disgresffw, yn fy marn i. Wedi dweud hynna, yn 1989/1900 daeth y gem allan.l

PostioPostiwyd: Mer 21 Rhag 2005 1:40 am
gan Dai dom da
Wedd gemau FIFA ar y snes yn shite, yr un sy da ni yw fifa '96, ac maen rybish - gyda phob parch i pwer y snes ayyb. ISS soccer, (international super star soccer) wedd y gore ar y snes o bell ffordd. Ife ISS nath ymlaen i wneud Pro Evo? Achos dwin shwr glywes i rhywbeth fel hyn rhywbryd.