Tudalen 1 o 1

Xbox Live

PostioPostiwyd: Gwe 23 Rhag 2005 1:49 pm
gan Clochwr
Dwi newydd brynu Xbox yn rhad o Argos (Xbox + 2 controller + Halo 2 + Forza Motorsport + Steering Wheel + y thingy DVD 'na am

PostioPostiwyd: Gwe 23 Rhag 2005 1:57 pm
gan Al
Ti angen Router dwin meddwl :?:

Re: Xbox Live

PostioPostiwyd: Gwe 23 Rhag 2005 2:26 pm
gan HBK25
Clochwr a ddywedodd:
Fedrith rwyn gynnig unrhyw gemmau Xbox da? Dwi di clywed fod Fable yn dda?


Peidiwch a phrynu'r hen fersiwn o Fable; mae Fable: The Lost Chapters yn well. Yr un gem, ond hefo mwy o lefels ayyb.

Mae Prince of Persia 1/2/3 yn wych, Project Gotham; Dead or Alive 3; Pro Evo; SSX 4; Top Spin Tennis; Spiderman 2; Beyond Good and Evil;

PostioPostiwyd: Gwe 23 Rhag 2005 3:31 pm
gan Ifan Saer
Fel mae Al yn deud, ti angen router - fel arall ti'n gorfod rhwydweithio efo PC a mae hynny'n strach go iawn. Syml efo router - jest plygio syth mewn i'r xbox a ffwr' a chdi, mae'r broses o greu cyfrif yn syml iawn.

Yn ychwanegol i be mae HBK wedi'i gynnig, mi faswn i'n argymhell Thief: Deadly Shadows, Halo 2 am yr elfen live (ond sdicia efo'r cyntaf am y gem 1 chwaraewr gorau), Shenmue II, Star Wars - Knights of the Old Republic, Ninja Gaiden, a Oddworld: Stranger's Wrath.

Yr oll yn gemau gwych ac i'w cael yn rhad dyddia'ma.