Tudalen 1 o 1

FIFA '06

PostioPostiwyd: Iau 29 Rhag 2005 4:17 pm
gan Ioan_Gwil
Rhywun arall 'di gal y gem yma dolig, ne efo fo yn barod??

Y gem beldroed orau i gael ei chreu erioed hyd hyn, yn fy marn i. Gwirioneddol wych.

Ma'r graffics, a'r game modes a phopeth yn anhygoel, mae na hyd yn oed fersiwn llai o 'manager arna fo' Dwi yn ail yn y gynghrair gyda caerdydd a jerome yn top scorer, felly nid yw'n bell o'i le chwaith. A ma na gyfle i fyny i 8 o bobol fod yn chwarae gyda 2 gontroller (h.y Winner stays on ayyb) ma hynny yn bril, edrych mlaen i gael ffrindia draw wan, i gael crowdio rownd y teli!!

PostioPostiwyd: Iau 29 Rhag 2005 4:25 pm
gan sion_llanclan
Yndi. Ond dwi'n dipyn bach yn crap arno fo. Nes i golli 3-0 yn erbyn Oldham pam oni'n Man Utd.

PostioPostiwyd: Iau 29 Rhag 2005 6:18 pm
gan HBK25
Y peth am gemau Fifa ( a Pro Evo i raddfa llai) ydi fod y peth yn teimlo'n ffug, yn fy marn i. Mae gormod yn cael ei wneud drosta ti e.e. cyfeiriad pasio.

Hefyd, y fersiwns cynt o Fifa, mae'r grafeg yn rhy sgleiniog. Dwi'm wedi chwarae'r fersiwn diweddara, ond dwi'm yn siwr os wna i bothran tro ma. :?

PostioPostiwyd: Sad 31 Rhag 2005 2:57 pm
gan Cwlcymro
HBK25 a ddywedodd:Y peth am gemau Fifa ( a Pro Evo i raddfa llai) ydi fod y peth yn teimlo'n ffug, yn fy marn i. Mae gormod yn cael ei wneud drosta ti e.e. cyfeiriad pasio.


Dyna pam ai am Pro Evo bob tro. FIFA oni'n arfar brynnu ("arfar" = Road to World Cup 1998!) Arcade ydi FIFA, gem lle da chi'n gallu sgorio overhead kicks anghygoel o tu allan i'r bocs er bo chi'n chwara fel Scunthorpe United! Peldroed ydi Pro Evo, a ma'r gem gymaint gwell am hunna

PostioPostiwyd: Mer 04 Ion 2006 2:14 pm
gan Ioan_Gwil
ma'r un yma yn wahanol sdi,

ella byddai rhai sydd wedi arfer a FIFA yn ei weld yn fwy diflas oherwydd ei fod yn fwy realistig.

does dim overheads, a prin folies bellach yn y gem

yr unig beth sydd yn ei adael i lawr ydi'r free kicks, dwi eto i sgorio un yn uniongyrchol i mewn, ma'n ffwc o job anodd

ond ar y cyfan nai sdicio i ddeud mai hon ywr gem beldroed gyfrifiadurol orau iw chreu erioed

PostioPostiwyd: Iau 12 Ion 2006 9:57 pm
gan Iesu-ar-acid
Sdim contest rhwng Pro Evo a Fifa.....ma Pro Evo'n lot mwy 'ar hap'. Ma'r ffordd ma Fifa'n rhedeg yn rhy fformiwlaic.

Cytuno am Road to World Cup though, odd hwna'n revolutionary yn ei dydd!