Mae lluniau ar flog Gareth o ddelweddu o Gaerdydd ar gyfer Sim City 4. Fel rhan o brosiect Ail-Luniad Caerdydd* mae Gareth ac eraill wedi bod y ail-lunio Stadiwm y Mileniwm, Twr BT a'r sinema gerllaw. Mae'n bwriadu dechrau ar Neuadd y Ddinas.
Edefyn am ddelweddau Caerdydd ar fforwm Sim City Central (ble mae lluniau o geir 'Heddlu' a bysiau gwyrdd ac oren Bws Caerdydd)
*Dysgwr yw Gareth, a fo fathod y term 'Ail-Luniad Caerdydd' fel cyfieithiad o Recreation: Cardiff. Allai'm meddwl am derm gwell yn bersonol.