Tudalen 1 o 1

gemau bwrdd

PostioPostiwyd: Maw 04 Ebr 2006 12:58 pm
gan Garlleg
Dw i'n licio chwarae gemau bwrdd fel Talisman, Titan, Merchant of Venus, Knightmare Chess (addasiad Tempete sur l'Echequier), Scrabble yn y Gymraeg. Yn anffodus, dw i'n chwarae'r gemau efo fy ngw^r yn unig (ella efo help ein mab sy'n 4 oed). Tybed, oes 'na bobl yn ardal Caernarfon sy'n licio chwarae'r rhain?

PostioPostiwyd: Maw 04 Ebr 2006 1:32 pm
gan mam y mwnci
Sgrabble yn bendant - dwi ddim yn ymwybodol o'r lleill - mae'r gwr yn hoff iawn o wyddbwyll ond does ganddo neb i chwarae yn eu herbyn felly fo yn erbyn y cyfrufiadur yw hi fel arfer! Trio cael y ferch 5 oed i chwarae scrabble ond mae rhywun yn syrffedu o chewaraer geiriau 3 lklythyren1

PostioPostiwyd: Maw 04 Ebr 2006 1:35 pm
gan eusebio
Scrabble yn bendant - cyfle am glwb Scrabble ella?

PostioPostiwyd: Maw 04 Ebr 2006 1:57 pm
gan Garlleg
Mae Knightmare Chess yn newid Chess efo cardiau fel "Move one of your opponent's bishops so that is captures one of his pieces" neu "Replace one of your opponent's pieces (except a King or Queen) with one of his captured Pawns." http://www.sjgames.com/knightmare/

Mae gen i Gair am Air hefyd efo PH (tybed 'sai 'na gyfle i chwarae traphont/triphylg.....)

Ooo Clwb Scrabble.

PostioPostiwyd: Maw 04 Ebr 2006 2:20 pm
gan Rhys
Neges i Garlleg yn bennaf ond yn berthnasol i eraill hefyd.

Mae CYD yn mynd i drefnu cystadleuaeth Scrabble (Cymraeg) cenedlaethol gyda gwobr o

PostioPostiwyd: Maw 04 Ebr 2006 2:30 pm
gan Garlleg
Ro'n i wedi anghofio am CYD! wps! Tybed be' 'sai'r trefnwyr CYD lleol yn dweud! Oes 'na unrhywun o gwmpas Caernarfon sy'n medru dod i'r Galeri heno 'ma? Mae Cangen CYD Caernarfon yn cyfarfod. Ella, dylwn i fynd a^ Scrabble i'r noson sgorsio.

PostioPostiwyd: Maw 04 Ebr 2006 3:04 pm
gan Geraint
Risk a Game of Thrones dwi'n hoff o chware. Bach o 'world domintation' neis :crechwen:

PostioPostiwyd: Maw 04 Ebr 2006 3:26 pm
gan Garlleg
Clwb gemau bwrdd? Mae Titan yn dipyn o World Domination. Sbiwch ar http://www.boardgamegeek.com am fwy o fanylion.