Macsen a ddywedodd:A dweud y gwir y gem Zelda newydd ydw i eisiau yn hytrach na'r Wii. Faint o wahaniaeth sydd rhwng y fersiwn GC a Wii a pryd fydd y fersiwn GC ar werth?
Dim lot o wahaniaeth weden i, achos y debygrwydd y dwy peiriant, ond Wii'n cretu ma'r Wii bach fwy pwerus.
Ond wii (ma hwn gorfod stopo) moyn y fersiwn Wii, jesd oherwydd swingo'r clefydd rownd!
O ni'n lwcus uffernol i gweud y gwir. Aeth fy ffrind o gwmpas siopau Caerdydd i chwilio am lle ar rhestr, ond dimond Virgin Megastore oedd gyda lle ar ol. Ond cyn ni, fe rhoies ei enw lawr ar rhestr ychwanegol Gamestation, rhag ofn. A cwpl o dyddie ar ol ni gas e alwad ffon wrtho nhw, yn gofyn os oedd e dal i moyn archebu gyda nhw. Wrth gwrs erbyn hyn oedd Virgin Megastore wedi derbyn eu gais, ffonodd e finne, a neidies i mewn yn ei le.
Heb archebu unrhyw gem eto, gobeitho bydd Play.com a ballu gyda ddigon mewn stoc!