Tudalen 2 o 4

PostioPostiwyd: Maw 06 Meh 2006 9:32 am
gan HBK25
Caws a ddywedodd:
HBK25 a ddywedodd:Gwych...ond mae pwer y 360 a'r Super Dooper Breadbin 2000 yn galluogi cwniau gemau ghwneud pethau amgenach?


Dwi'm yn weld pwynt cael y holl pwer. Mae'n rhaid cael HD teledu a gwifrau HD a.y.y.b.
Mae'r holl pwer yn golygu llawer o bres allan o'ch poced. £60 am un gem!!


£60 am un gem - yn lle? Mae'r rhan fwyaf o gemau Xbox 360 ar gael am rhwn £44.99 a £49.99. Mae rhai, fel gem Tennis Bwrdd Rockstar, yn £29.99. Gelli di chwarae'r Xbox 360 trwy monitor dy PC - a dim ond £15 mae'n costio i gael y wifren yn ol y son.

PostioPostiwyd: Maw 06 Meh 2006 3:46 pm
gan Caws
Am y gemau da, mae'n £60, dwi'm yn cofio pa gem, ond mi odd na un!
A £280 am y 360! (neu £200 am yr un core)
Dwi'n meddwl bod hwnna'n gormod. Mae'r Wii am fod yn tua £100. Lot fwy rhesymol :P

PostioPostiwyd: Mer 07 Meh 2006 7:15 am
gan HBK25
mwy fel £180 neu rhywbeth felly. Lle ti'n prynu gemau? £60? Dim yn Woolies Port - a mae ganddyn nhw'r gemau gorau i'r 360. Mae'r ddewis o gemau Xbox yn crap bellach -bah humbug Woolies Port! :crechwen: :x

PostioPostiwyd: Mer 07 Meh 2006 10:41 am
gan finch*
Yay! Falch gweld bod rhywun yma yn cytuno gyda fi am geme cyfrifiadur a Nintendo. sdim ots pa mor lush ma gem yn edrych ma fe dal yn gallu bod mor boring a chrap a rhai o'r geme rybish sy gal ar y we dyddie ma. Yn anffodus, gellir croniclo meddylfryd tua 90% o'r 'gaming population' i mewn i glip 5 eiliad o Jeremy Clarkson yn powerslidio rownd cornel yn gweiddi "POWERRRR" mewn i'r camra.

Dwi'n edrych mlan i'r wii. Dwi'n hoffi'r enw, ma fe'n neud i fi wenu bob tro dwi'n clywed e, a pa mor cool ma gemau Zelda a Star Wars yn mynd i fod nawr eh? Huuummm....ziiinnnggg.....whuuuummm!!!

PostioPostiwyd: Mer 07 Meh 2006 12:03 pm
gan HBK25
Ond eto, beth yw'r pwynt o wneud cosole llai bwerus na'r cystadleuaeth? Gellir gwneud gemau da a chael consol shit hot i'w chwarae nhw. Pam cael consols newydd os nad ydi pethau fel y graffeg am wella'n sylweddol bob tro?

I ddweud y gwir, dydi gemau fel Katamari ayyb ddim i fi - ond dydi hynna ddim yn fy ngwneud i'n di-ddychymyg. Dwi'n hoffi gemau ymladd, antur, gemau chwaraeon ayyb - ond dwi'n disgwyl "innovations" yn y meysydd yna.


Gyda llaw, basa clip o Jeremy Clarkson yn gwaeddu "POOWWWWER!" tra'n gwneud powerslid ar ddechrau gem fel Forza Motorsport neu Gran Tourismo yn wych :crechwen: :syniad:

PostioPostiwyd: Mer 07 Meh 2006 12:20 pm
gan Y Fampir Hip Hop
HBK a ddywedodd:Ond eto, beth yw'r pwynt o wneud cosole llai bwerus na'r cystadleuaeth?

Wel, i catw y cost y peiriant lawr, yndife b'chan!
A hefyd i neud rhyw fath o datganiad bod Ninty yn dilyn llwybr wahanol i'r dwy cwmni eraill - y gem yw y prif pwynt, nid yr graffegs.

Yn bersonnol, s'im pwynt neud peiriant gyda mwy pwer graffegol os ydy'r gemau jesd y r'un peth ma pawb di bod yn ware am y 4 mlynedd d'wtha, fel fi di gweud am sbel.

Ond gyda llaw HBK, ni byth mynd i cytuno ar y pwnc hon, yn di ni! :winc:

PostioPostiwyd: Mer 07 Meh 2006 1:24 pm
gan finch*
Fampir Hip-Hop a ddywedodd:Yn bersonnol, s'im pwynt neud peiriant gyda mwy pwer graffegol os ydy'r gemau jesd y r'un peth ma pawb di bod yn ware am y 4 mlynedd d'wtha, fel fi di gweud am sbel.


Ailadrodd in triplicate achos bod e mor wir.

HBK a ddywedodd:Dwi'n hoffi gemau ymladd, antur, gemau chwaraeon ayyb - ond dwi'n disgwyl "innovations" yn y meysydd yna.


Dwi ddim cweit yn deall dy ddadl di fan hyn. Os bosib bod newid yn llwyr y ffordd ti'n chware'r gemau yma yn 'innovative'? Ma fe'n wych pa mor realistig ma geme'n gallu edrych a dwi'n gallu gweld yn y dyfodol agos y bydd gemau yn edrych fel ffilmie rhyngweithiol, ond os mai'r unig geme fyddan nhw bydd FIFA 2030 a GTA 15 etc yn cal i chware yn union run ffordd, wedyn byddai jyst yn mynd yn bored.

PostioPostiwyd: Iau 08 Meh 2006 12:36 pm
gan BoonBas
Dwi wedi prynur Xbox 360, gret!! Maer graphics yn amazing a breathtaking....ond arol dipyn ti cael i arfer efo fo a beth sydd yn bwysig wedyn ydi gameplay.

Dyna pam dwin disgwl lot gan Nintendo, mae rhan fwyaf o gemau nhw yn cartoon based eniwe so does dim angen y "latest in technology" i allu neud graphics cartoony brilliant, ond mae Nintendo di cymryd risk mawr efor controller, wbath oedd Sony ddim efo guts i neud, yn lle nath nhw nol ir gwreiddiol! (ond maer lein "why fix something that isnt broken" yn dod fewn iddi)

Be mae pobl am neud, talu shitloads i gael PS3 sydd run peth a PS2 ond efo graphics gwell. Ta talu cyn lleiad o bres, am wbath hollol wahanol sydd heb ei drio or blaen, efo remote fel controller?? Dwin meddwl mae Nintendo am enill, hen bryd hefyd, maer NES, SNES ar N64 di bod mor dda, onin siomedig efor Gamecube i ddeud y gwir!

PostioPostiwyd: Gwe 09 Meh 2006 1:03 pm
gan Caws
HBK25 a ddywedodd:Ond eto, beth yw'r pwynt o wneud cosole llai bwerus na'r cystadleuaeth? Gellir gwneud gemau da a chael consol shit hot i'w chwarae nhw. Pam cael consols newydd os nad ydi pethau fel y graffeg am wella'n sylweddol bob tro?


Mewn theori ma hwnna'n iawn, ond dydi'r consol da bron byth yn cael gemau da. Dwi'm yn meddwl fod consol pwerus yn gwneud gem da o gwbwl. Yn enwedig os ti'm yn weld y gwahaniaeth (heb HD TV a.y.y.b.)
Dim griffeg ydi'r ffordd i gwella! Mae'r graffeg wedi bod yn gwella ers blynyddoedd, ac dio'm yn digon i gwneud i mi prynu consol newydd achos bod y 'graffeg yn ANHYGOEL!' MAe Nintendo wedi gwella'r ffordd o chwarae a'r hwyl yn lle'r graffeg (i bod yn onest, mae'r graffeg wedi gwella ychydig) er mwyn ceisio gwneud y profiad yn well.

PostioPostiwyd: Mer 09 Awst 2006 6:06 pm
gan Y Fampir Hip Hop
Newydd pyrni y cylchgrawn annibynnol Nintendo "newydd" (sy rili dimond NGC da golwg newydd, a fwy o erthyglau), NGamer, gan Future Publishing.
Wych i ddarllen, a daeth e 'da DVD yn ddangos uchafbwyntiau gemau y Wii o E3 (fi'n cretu).

Mario Galaxy yn edrych yn arbennig. O ni dim yn disgwl mlan i fe cymaint ag o ni arfer da gemau Mario - edrych rhi tebyg i Super Mario Sunshine, fel gem Mario da 'gimmic' newydd. Ond o weld y fideo ar y DVD, dwi di newid fy meddwl. Ma'r gem gyd yn space, chi'n hedfan o gwmpas y lle rhwng planedau bach, a defnyddio y remot i cytsho pethe. Ar ol gwel hwn, a i gor defynddio dywediad, fi marw ishe pish...na, erm Wii

Red Steel yn edrych yn gwd 'fyd.

Ond un o'r peth gorau i fi am y Wii yw y gwasanaeth 'Virtual Console', sy'n tebyg i be ma Microsoft yn wneud nawr rhyw faint, ond w'th gwrs da gemau lot well :winc:
Pa hen gemau y gonsols gorffenol Nintendo lice pawb gwel fel rhan o hyn? Yn bersonnol ma fe'n gorfod bod WWF No Mercy (dim siawns) ne Virtual Pro Wrestling 2 o'r N64, a llwyth o stwff o'r SNES a NES.