Oni'n whare gem arlinell amlchwarewr heddiw (Battlefield 2)pan terfynodd y gem a daeth y neges mewn ffenestr bach lan a dweud 'Remote Procedure Call' a dweud fod yn rhaid i'r cyfrifiadur troi ei hun bant ag ailddechrau. Beeeeeeeeeeeth? Sai wedi gweld hyn erioed o'r blaen a fi wedi bod yn whare'r peth ers blwyddyn bron, oedd tua 30 eiliad 'da fi i sgrifennu'r disgrifiad lawr, a wedyn ailddechreuodd y system a wedyn popeth yn iawn, anghofies i amdano. Wel dwi wedi neud chwiliad chwim ar gwgl nawr a sdim llawer o synwyr yn dod lan ond am rhyw bethau sy'n disgrifio cyfrifiadur yn cael mynediad i gyfrifiadur arall "wwwww aaaaaa oooo!" Felly rhywyn yn gwybod beth yw e ambwyti?
Diolch