Beth yw "Remote Procedure Call"

Mae bywyd yn arcêd, gyfaill

Beth yw "Remote Procedure Call"

Postiogan bartiddu » Sul 14 Mai 2006 10:58 pm

Oni'n whare gem arlinell amlchwarewr heddiw (Battlefield 2)pan terfynodd y gem a daeth y neges mewn ffenestr bach lan a dweud 'Remote Procedure Call' a dweud fod yn rhaid i'r cyfrifiadur troi ei hun bant ag ailddechrau. Beeeeeeeeeeeth? Sai wedi gweld hyn erioed o'r blaen a fi wedi bod yn whare'r peth ers blwyddyn bron, oedd tua 30 eiliad 'da fi i sgrifennu'r disgrifiad lawr, a wedyn ailddechreuodd y system a wedyn popeth yn iawn, anghofies i amdano. Wel dwi wedi neud chwiliad chwim ar gwgl nawr a sdim llawer o synwyr yn dod lan ond am rhyw bethau sy'n disgrifio cyfrifiadur yn cael mynediad i gyfrifiadur arall "wwwww aaaaaa oooo!" :? Felly rhywyn yn gwybod beth yw e ambwyti?
Diolch
Rhithffurf defnyddiwr
bartiddu
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 2285
Ymunwyd: Sad 21 Chw 2004 12:22 am
Lleoliad: Pentrwyn Cynwyl

Postiogan Rhys Llwyd » Sul 14 Mai 2006 11:01 pm

Yr hen gyfaill Worm virus yn ol.

Edrych ar wefanau Symantec a Sophos am ffordd o gael gwared.

Hen feirws sy di bod mas ers blynyddoedd syn mynd mewn i dy regedit ti ac yn achosi rhyw timer sy'n cae popeth lawr. Mae'n debyg fod chwarae y gem yna dros y we/rhwydwaith wedi agor dy gyfrifiadur i'w ddal. Mae en hawdd i gael gwared os dwin cofio jest yn niwsans
Delwedd
Rhithffurf defnyddiwr
Rhys Llwyd
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 4935
Ymunwyd: Mer 11 Rhag 2002 5:07 pm
Lleoliad: Aberystwyth

Postiogan huwwaters » Llun 15 Mai 2006 9:16 am

Mae i'w wneud efo svhost.exe yn Windows XP.

Fel dywedodd Rhys, cafodd feirws ei greu a oedd yn amharu ar y rhaglen ma sy'n hanfodol i Windows redeg.

Dwi'n awgrymu dy fod yn mynd i http://update.microsoft.com/ a gwna'n siwr dy fod gyda'r diweddariadau diweddar sy'n difa'r gwendidau diogelwch ma.
Huw
Rhithffurf defnyddiwr
huwwaters
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 2850
Ymunwyd: Gwe 30 Awst 2002 9:16 pm

Postiogan bartiddu » Llun 15 Mai 2006 12:01 pm

A, diolch gyfeillion, felly roedd fy amheuon yn gywir! :drwg:
Ma'r gem BF2 yn cael ei effeithio gan Muriau Tan megis Zonealarm a Panda ayb mae'n neud i lefelau ping/lag y gem mynd yn wallgo ar adegau ac yn anchwareiadwy Felly mae gwneithirwyr y gem yn eich cynghori i DROI BANT (fi'n gwbod :rolio: ) pob mur-tan sgennych i'w whare'n effeithiol (ac mae'n debyg fod bron pawb ar fforymau BF2 y neud hyn!), felly mae popeth wedi bod yn iawn, tan ddoe! :(

Y peth yw copi rhywyn arall o XP sgen i :wps: a felly wyf wastad wedi osgoi diweddaru'r meddalwedd rhag ofn i rhyw lletwythdod digwydd :wps:

Ond dwi wedi dod ar draws hwn sy'n swnio'n gywir 'r un peth a beth digwyddodd ddoe ac dwi mynd i rhoi ymgais ar hwn Malicious Software Removal Tool i weld a wneith rhyw ddaioni ddod o'r peth!

Diolch bobl. :)Y Gwir Brydeinwyr
Rhithffurf defnyddiwr
bartiddu
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 2285
Ymunwyd: Sad 21 Chw 2004 12:22 am
Lleoliad: Pentrwyn Cynwyl

Postiogan Rhys Llwyd » Llun 15 Mai 2006 3:56 pm

bartiddu a ddywedodd:Y peth yw copi rhywyn arall o XP sgen i :wps: a felly wyf wastad wedi osgoi diweddaru'r meddalwedd rhag ofn i rhyw lletwythdod digwydd :wps:


Sut nesdi fanijio hwna? Ma rhaid fod dy sustem di'n hen cos ma XP di dod efo pob cyfrifiadur ers rhyw 5 mlynedd bellach.

Yn bersonol, ac o brofiad, mae werth talu y
Delwedd
Rhithffurf defnyddiwr
Rhys Llwyd
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 4935
Ymunwyd: Mer 11 Rhag 2002 5:07 pm
Lleoliad: Aberystwyth

Postiogan bartiddu » Llun 15 Mai 2006 5:10 pm

Rhys Llwyd a ddywedodd:
bartiddu a ddywedodd:Y peth yw copi rhywyn arall o XP sgen i :wps: a felly wyf wastad wedi osgoi diweddaru'r meddalwedd rhag ofn i rhyw lletwythdod digwydd :wps:


Sut nesdi fanijio hwna? Ma rhaid fod dy sustem di'n hen cos ma XP di dod efo pob cyfrifiadur ers rhyw 5 mlynedd bellach.


Paid gofyn sgen i'm syniad...cyfeillion yn y byd cyfrifiaduraidd wnaeth adeiladu'r peiriant yma.....! A mae nhw ar wyliau ar y foment :(

Wedi diweddaru sawl peth ond mae wedi atal fi rhag cael y pecyn SP2..o wel..
wnes i rhedeg atalwr mwydyn Symantec heb iddo ddarganfod dim, felly rhedeg y rhaglen Panda sgen i sy' nesa..a wedyn croesu bysedd fod y 'peth' wedi mynd...
Rhithffurf defnyddiwr
bartiddu
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 2285
Ymunwyd: Sad 21 Chw 2004 12:22 am
Lleoliad: Pentrwyn Cynwyl

Postiogan Al Jeek » Llun 22 Mai 2006 9:47 pm

Al Jeek
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 651
Ymunwyd: Sul 27 Gor 2003 6:45 pm
Lleoliad: Caerdydd

Postiogan Rhys Llwyd » Llun 22 Mai 2006 10:21 pm

Al Jeek a ddywedodd:£200!?


Wel £199 oedd o pan ddaeth o allan.

Gyda Windows Vista allan yn y 6 mis nesa dim syndod fod pris XP di syrthio i £50
Delwedd
Rhithffurf defnyddiwr
Rhys Llwyd
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 4935
Ymunwyd: Mer 11 Rhag 2002 5:07 pm
Lleoliad: Aberystwyth

Postiogan dafydd » Llun 22 Mai 2006 10:26 pm

Y fersiwn OEM sy'n £50, sydd yn rhaid ei werthu gyda chyfrifiadur (neu 'chyfarpar' cyfrifiadurol). Mae yna nifer o anfanteision gyda hwn, i rywun sydd ddim yn arbennigwr ta beth. Does dim posib uwchraddio neu ailosod y system, dim ond dileu popeth ac ail-ddechrau. Mae yna hefyd gyfyngiadau wrth osod y system ar gyfrifiadur gwahanol - does dim trwydded i wneud hynny yn gyfreithiol a mae yna lot o nonsens gyda actifadu Windows ayyb.
Rhithffurf defnyddiwr
dafydd
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 2146
Ymunwyd: Llun 19 Awst 2002 12:21 pm
Lleoliad: Anfeidredd


Dychwelyd i Gemau Cyfrifiaduron

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 6 gwestai

cron