Byd Warcraft

Mae bywyd yn arcêd, gyfaill

Byd Warcraft

Postiogan nicdafis » Sul 03 Medi 2006 1:22 pm

[Wedi golygu teitl yr edefyn - os nag oes digon o ddiddodeb i gynnal seiat, mae digon i gynnal edefyn.]

Dw i newydd greu cylch a seiat i chwaraewyr World of Warcraft - gan fy mod i am ffeindio mwy o siaradwyr Cymraeg yn y gêm ;-)

I ymuno, cer i'r tudalen cylchoedd, dewis Byd Crefft Rhyfel o'r rhestr "Cylchoedd di-aelod" (diawl, mae rhaid newid y geiriau hynny), ac wedyn byddi di'n gweld y seiat ar waelod y dudalen ffrynt.
Rhithffurf defnyddiwr
nicdafis
Defnyddiwr Platinwm
Defnyddiwr Platinwm
 
Negeseuon: 7361
Ymunwyd: Sul 18 Awst 2002 3:39 pm
Lleoliad: Pentre Arms

Postiogan Scwid » Gwe 29 Medi 2006 3:52 pm

Fi ar ddod nol i chware ar weinydd ewropeaidd (wedi dilyn ffrindie'n gynt i weinydd yn america - bydda i dal mewn cysylltiad a nhw ta beth)...

Ar ba un wyt ti - ydy e'n resymol o wag?

A fi methu ffindo'r cylch chwaith... wnest ti ddileu mewn anobaith?

Ynteu ydw i'n hollol ddall ar ol gloddesta mewn bore coffi Macmilan bore 'ma?
Popeth mewn cymedroldeb, yn cynnwys cymedroldeb
Scwid
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 9
Ymunwyd: Mer 14 Meh 2006 2:18 pm

Postiogan Tronaldo » Gwe 29 Medi 2006 5:34 pm

Nath Nic cau y seiat Warcraft gan fod ond fi nath ymuno.

Ar Wildhammer oedd Nic yn chwara, dwi di dechra cymeriad alliance sef Myrddin, ond efo dim diddordeb cario'n mlaen efo fo, felly os tisio arian a stwff(bagia a petha felly) gyrra neges i fi. Dwi di dechra cymeriad ar ochr yr horde gan ma hwnna'n fwy o hwyl. Lot fawr o pobl lefel 60 ar y server felly ma'n eithaf distaw o gwmpas y zones dechra.
Delwedd
Rhithffurf defnyddiwr
Tronaldo
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 338
Ymunwyd: Maw 24 Chw 2004 2:10 pm
Lleoliad: Cybertron

Postiogan nicdafis » Sad 30 Medi 2006 11:27 am

Dw i wedi ail-gydio yn y peth hefyd - yn ormodol falle - ond dw i'n chwarae ar Darkpoint erbyn hyn.
Rhithffurf defnyddiwr
nicdafis
Defnyddiwr Platinwm
Defnyddiwr Platinwm
 
Negeseuon: 7361
Ymunwyd: Sul 18 Awst 2002 3:39 pm
Lleoliad: Pentre Arms

Postiogan Macsen » Sad 30 Medi 2006 11:33 am

Does gen i ddim y we yn fy fflat yn Llambed felly dim WoW i fi mae arna'i ofn! :(

Mi wnes i gyraedd lefel 25 gyda warlock di-farw cyn gorfod rhoi'r gorau iddi.
Rhywun yn ymosod ar y Gymraeg? - Rhannwch Why Welsh.com!
Rhithffurf defnyddiwr
Macsen
Defnyddiwr Platinwm
Defnyddiwr Platinwm
 
Negeseuon: 6193
Ymunwyd: Maw 12 Awst 2003 8:01 pm
Lleoliad: Penrhiwllan/Waunfawr

Postiogan nicdafis » Sad 30 Medi 2006 12:27 pm

Mae fy merch drwg elfaidd wedi cyrraedd lefel 36 erbyn hyn.

8) / :wps:

Mae apêl y gêm wedi pallu tipyn bach yn y dyddiau diwetha, sy'n lwcus, gan fod gwaith go iawn 'da fi neud nawr.
Rhithffurf defnyddiwr
nicdafis
Defnyddiwr Platinwm
Defnyddiwr Platinwm
 
Negeseuon: 7361
Ymunwyd: Sul 18 Awst 2002 3:39 pm
Lleoliad: Pentre Arms

Postiogan Macsen » Sad 30 Medi 2006 2:42 pm

Wnes i chwarae fel merch elfaidd tan i bobol fy nghyhuddo o feddu ar hunaniaeth rywiol ddryslyd. Roedd rhaid i fi newid i fod yn rhyfelwr cyhyrog yn cario ffon hirgul i'w cadw nhw'n hapus.
Rhywun yn ymosod ar y Gymraeg? - Rhannwch Why Welsh.com!
Rhithffurf defnyddiwr
Macsen
Defnyddiwr Platinwm
Defnyddiwr Platinwm
 
Negeseuon: 6193
Ymunwyd: Maw 12 Awst 2003 8:01 pm
Lleoliad: Penrhiwllan/Waunfawr

Postiogan nicdafis » Sad 30 Medi 2006 2:52 pm

Mae pobl yn gul iawn, ond ydyn nhw?

Falle ei fod yn ddryslyd, ond mae'n haws i fi hunaniaethu â merched y gêm, sydd o leia yn edrych o fewn sbecdrwm o'r "normal", nag yw e gyda'r bechgyn sydd i gyd yn edrych fel Arnie, ond am y Gnomiaid.
Rhithffurf defnyddiwr
nicdafis
Defnyddiwr Platinwm
Defnyddiwr Platinwm
 
Negeseuon: 7361
Ymunwyd: Sul 18 Awst 2002 3:39 pm
Lleoliad: Pentre Arms

Postiogan Macsen » Sad 30 Medi 2006 3:12 pm

Wel allai'm dweud fy mod i'n uniaethu mwy gyda merch hud elfaidd na neb arall, ond mae'n llawer mwy o hwyl i edrych arno mewn gem 3ydd person. ;)

Dyma brofiad diddorol gan un o fy ffrindiau ar wefan arall:

Ombrenuit a ddywedodd:First of all, this issue coming up made me laugh. I honestly couldn't believe it--I was playing World of Warcraft, their seventeen year old son, and my dad says, "Why the hell are you playing a female character?" Anyone comfortable with mmorpgs might know this is fairly common place--unless of course, I'm just crazy. We all know that 90% of female characters are guys (gay guys at that, right?), but why? For me, it just became the norm. I had seen it so often before, I already had a male level 60, and I was going to make a priest, yes a priest. For some reason when I think of priests, especially on WoW, I just can't see one as a male (waltzing around in a white robe). My argument? I simply like females--yes, they are attractive, and yes, it did interest me. No, I'm completely strait, and no, it doesn't make anyone uncomfortable whom I play with. It didn't seem that big of a deal. My parents thought otherwise. Tonight we had a discussion as soon as I got home from work.

Nothing is better than finally coming home and then your dad telling you "We need to talk. We think you are having sexual identity issues." Really, it tops my day to find out that my parents suspect I'm gay and that I'm cross dressing when they aren't looking. "We tend to put suppressed feelings into our fantasies." This is all regardless of the fact that I've roleplayed guys in the past. What was even more painful was having to explain the game to my parents: "No...the gender I could care less about. Male priests look gay, I'm sorry. I'm just trying to play a freaking game, there isn't even roleplaying involved. No, I won't start a new character because I don't want to put in another 120 hours into a new one, and because this is completely trivial. Obviously it doesn't mean a thing to me." I guess I'll avoid playing assassins, sorceresses, and amazons on Diablo II now.


Macsen a ddywedodd:Personally I'd say playing as a girl is besides the point, it's playing WoW for 120 hours that you should be worrying about. Seek counseling, pronto.
Rhywun yn ymosod ar y Gymraeg? - Rhannwch Why Welsh.com!
Rhithffurf defnyddiwr
Macsen
Defnyddiwr Platinwm
Defnyddiwr Platinwm
 
Negeseuon: 6193
Ymunwyd: Maw 12 Awst 2003 8:01 pm
Lleoliad: Penrhiwllan/Waunfawr

Postiogan Scwid » Mer 04 Hyd 2006 1:34 pm

hehe, gwych!

Wedi penderfynnu dechre ar weinydd newydd iawn (Lighthammer), gyda'r mannau cychwyn yn orlawn o bobl yn lladd popeth ym mhob man... Cael llawer o hwyl gyda ffrindie ewropeaidd ddaeth nol gyda fi hefyd - skypio wrth i ni chwarae - profiad braf iawn :)

Mae culni'r ymateb i'r cymeriade'n wych - hehe - dal i chwerthin ar y sylwad ola'. Spot on!
Popeth mewn cymedroldeb, yn cynnwys cymedroldeb
Scwid
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 9
Ymunwyd: Mer 14 Meh 2006 2:18 pm

Nesaf

Dychwelyd i Gemau Cyfrifiaduron

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig ac 1 gwestai

cron