Byd Warcraft

Mae bywyd yn arcêd, gyfaill

Postiogan nicdafis » Mer 04 Hyd 2006 3:12 pm

Macsen a ddywedodd:Wel allai'm dweud fy mod i'n uniaethu mwy gyda merch hud elfaidd na neb arall, ond mae'n llawer mwy o hwyl i edrych arno mewn gem 3ydd person. ;)


Wel, yn gwmws; os wyt ti'n mynd i edrych ar ben-ôl rhywun am 8 awr y dydd, mam a man dewis pen-ôl sy'n neis i edrych arno.

Nid mod i'n chwarae am 8 awr y dydd.

Bellach.

2 awr y dydd, tops.
Rhithffurf defnyddiwr
nicdafis
Defnyddiwr Platinwm
Defnyddiwr Platinwm
 
Negeseuon: 7361
Ymunwyd: Sul 18 Awst 2002 3:39 pm
Lleoliad: Pentre Arms

Postiogan nicdafis » Gwe 06 Hyd 2006 9:28 am

<a href="http://www.youtube.com/watch?v=gsHQ4E_VhaU&embed=1">WoW yn South Park</a>.

Clip hirach <a href="http://www.comedycentral.com/shows/south_park/index.jhtml">yma</a>.
Rhithffurf defnyddiwr
nicdafis
Defnyddiwr Platinwm
Defnyddiwr Platinwm
 
Negeseuon: 7361
Ymunwyd: Sul 18 Awst 2002 3:39 pm
Lleoliad: Pentre Arms

Postiogan nicdafis » Gwe 06 Hyd 2006 10:09 am

Ocê, dyma gwestiwn i chi sy wedi chwarae mwy na fi - ble fyddai'r lle gorau i mi fynd i wneud arian yn glou, @ lefel 38? Rhaid i fi feddwl am brynu "mount" cyn bo hir, a dim ond 40 aur sy 'da fi.

Falle mod i wedi gwario gormod ar hyfforddi?
Rhithffurf defnyddiwr
nicdafis
Defnyddiwr Platinwm
Defnyddiwr Platinwm
 
Negeseuon: 7361
Ymunwyd: Sul 18 Awst 2002 3:39 pm
Lleoliad: Pentre Arms

Postiogan Tronaldo » Gwe 06 Hyd 2006 5:32 pm

Ma lladd basilisks pob amser yn ffordd da o wneud arian o ni'n arfer hela nhw yn desolace.

O ni hefyd yn arfer grindio yn Tanaris. Dwi'n meddwl o ni'n grindio turtles yn fana.

Do ni ddim yn dda iawn am casglu arian chwaith pob amser yn pasio lvl 40 yn hawdd cyn gallu fforddio mount.
Delwedd
Rhithffurf defnyddiwr
Tronaldo
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 338
Ymunwyd: Maw 24 Chw 2004 2:10 pm
Lleoliad: Cybertron

Postiogan Scwid » Maw 10 Hyd 2006 2:55 pm

Paid poeni gormod am gael dy farch, fe gei di arian yn gyflymach o beth wmbreth yr ucha fyddi di. Gwaria ar yr hyfforddi'n gynta' ac ar dy farch yn ail... Pan gyrhaeddi di 60 (neu 70 cyn bo hir) bydd dim byd arall gyda ti i wneud gyda dy arian - paid bod mewn gormod o frys...

I wneud march yn rhatach, medri di gyrraedd "honoured" gyda'r rheini sy'n gwerthu'r damn peth, a hefyd gyrraedd y 3ydd safon yn PvP - bydd y naill a'r llall yn gwneud march 10% yn rhatach (20% yn rhatach os gwnei y ddau).

Damo, fi di chware lot gormod o'r gem 'ma. :)
Popeth mewn cymedroldeb, yn cynnwys cymedroldeb
Scwid
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 9
Ymunwyd: Mer 14 Meh 2006 2:18 pm

Postiogan nicdafis » Maw 10 Hyd 2006 7:31 pm

Diolch am y cyngor. Dyna mwy neu lai beth o'n i wedi penderfynnu - wedi cyrraedd lefel 40 nawr, ac mae'r arian yn dod i mewn llawer hawddach nag oedd e.

Wnes i newid o fod yn perlysieuydd/alcemydd i fod yn perlysieuydd/blingwr ddoe, ac ar ôl trip bach nôl i wlad yr elfiaid, cyrraedd lefel arbenigwr mewn blingo yn ddigon clou. Mae hynny yn dod â mwy o arian mewn nag oedd alcemi, a galla i hyfforddi un fy "alts" i fod yn alcemydd yn y pen draw.
Rhithffurf defnyddiwr
nicdafis
Defnyddiwr Platinwm
Defnyddiwr Platinwm
 
Negeseuon: 7361
Ymunwyd: Sul 18 Awst 2002 3:39 pm
Lleoliad: Pentre Arms

Postiogan Geraint » Maw 07 Tach 2006 5:14 pm

Beth, yn fras, yda chi'n neud wrth chware Warcraft? A'i mater o mynd rownd a lladd pawb, neu oes mwy iddi? Gofyn ydw i achos dwisho prynu gem chi'n chware ar-lein, ma hwn, Battlefield 2, Guild Wars.........
Rhithffurf defnyddiwr
Geraint
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 5804
Ymunwyd: Llun 30 Medi 2002 3:35 pm
Lleoliad: Dan garreg mewn ogof dan mynydd gogogoch yn y gofod (in space)

Postiogan nicdafis » Maw 07 Tach 2006 5:45 pm

(Does dim profiad 'da fi o MMORPGs eraill, felly dim ond am WoW dw i'n gallu sôn...)

I symud dy gymeriad yn ei b/flaen, mae rhaid neud dy siar o redeg o gwmpas lladd pethau, ond mae sustem chwilfeydd (? quests) a proffesiynau'n golygu bod hyn yn llai diflas nag mae'n swnio, ac mae'n hollol bosibl i ti wneud mwy nag un tasg yn yr un ardal.

Er enghraifft, ar hun o bryd dw i'n chwarae rogue safon 48, sy hefyd yn arbennigwraig mewn blingo anifeiliaid, casglu perl lysiau, coginio pethau hyfryd, cymorth cyntaf a physgota. Mae pawb yn gallu wneud y tri pheth ola yna, ond gyda'r dau gyntaf mae rhaid dewis o restr o sgiliau marchnata a dim ond dau mas o'r chwech (?) ti'n gallu neud.

Felly, dw i hefyd yn chwarae rogue safon 15 (dw i'n hoffi rogues, beth alla i ddweud?) sy'n arbenigo mewn alcemi a gweithio gyda lleder. Ac mae un cymeriad arall 'da fi sy'n neud dim byd ond eistedd wrth y blwch post, aros i dderbyn pethau mae'r ddau rogue yn anfon ati hi, a'u gwerthu yn y ty ocsiwn.

Mewn unrhyw sesiwn ar WoW, bydda i'n newid rhwng y tri chymeriad yna, teithio o gwmpas, cyflawni chwilfeydd, lladd pethau ar hap, creu dognau hud, wneud arfwisg a'i werthu, pysgota am sbel i ddal pethau i goginio ac wedyn eu gwerthu, ac yn y blaen. Hen ddigon o amrywiaeth.

Mae hefyd yr elfyn o gymdeithasu - ar ôl sbel mae'n hanfodol i gydweithio gyda chwaraewyr eraill, a dw i newydd ymuno ag urdd (? guild) i helpu gyda hynny.

Os ti'n mynd am WoW, trial ymuno ar y gweinydd "Darkspear" (ddim yn siwr os ydy hyn dal yn bosibl) a galla i dy helpu ma's gyda cwpl o ffrîbîs.
Rhithffurf defnyddiwr
nicdafis
Defnyddiwr Platinwm
Defnyddiwr Platinwm
 
Negeseuon: 7361
Ymunwyd: Sul 18 Awst 2002 3:39 pm
Lleoliad: Pentre Arms

Postiogan Y Mab Dwl » Iau 23 Tach 2006 10:29 pm

dwin lvl 46 troll hunter ar arie peak ac dwyn cael llawer o hwyl, hefyd mae yna mount efo a mae hyn yn helpu llawer i fyn ar raids (fe laddon ni thelsmar yn loch modan y tro diweth :D )

os oes genych broblem fe fydda i yn digon bodlon iwch helpu :D

mae hefyd lvl 43 rouge elf efo, ond cofiwch dwy ar server arie peak maen ddrwg geni :(
Y Mab Dwl
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 5
Ymunwyd: Maw 07 Tach 2006 9:05 am
Lleoliad: Ceredigion

Postiogan nicdafis » Iau 23 Tach 2006 10:53 pm

Dw i wedi cicio'r habit eto, <a href="http://morfablog.com/archif/2006/11/14/hunanladdiad-yn-y-rhithfyd/">gweler</a>.

Dim byd yn erbyn y gêm, sy'n wych.

Fel mae heroin yn wych, os ti'n gallu fforddio'r stwff da.
Rhithffurf defnyddiwr
nicdafis
Defnyddiwr Platinwm
Defnyddiwr Platinwm
 
Negeseuon: 7361
Ymunwyd: Sul 18 Awst 2002 3:39 pm
Lleoliad: Pentre Arms

NôlNesaf

Dychwelyd i Gemau Cyfrifiaduron

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 2 gwestai