Byd Warcraft

Mae bywyd yn arcêd, gyfaill

Postiogan Rhys Llwyd » Gwe 29 Meh 2007 10:29 am

un cwestiwn ola - oes rhaid i fi is-lwytho'r gem eto neu a wnaiff fy nghyfri ewropeaidd weithio ar fy islwythiad Americanaidd (h.y. dwi methu cael e i weithio ar hyn o bryd!)?
Delwedd
Rhithffurf defnyddiwr
Rhys Llwyd
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 4935
Ymunwyd: Mer 11 Rhag 2002 5:07 pm
Lleoliad: Aberystwyth

Postiogan nicdafis » Gwe 29 Meh 2007 10:32 am

Dw i nôl ar y teth ar hyn o bryd, ac yn lefel 41 ar fy arferol gwalch elff y nos. Byddwn i'n eilio cyngor Macsen. Ar y lefelau isel, mae'n bwysig iawn dy fod di'n wneud y cwests i gyd mewn trefn. Os wyt ti'n ffeindio dy fod di wedi cyrraedd patshen sych ar ran cwests, mae'n bosibl mewn ar dy wyliau i ardal un o'r hiliau eraill. Fel corrach, cei di redeg i Ironforge, ffeindio'r Deeprun Tram a mynd am wibdaith i Ddinas Stormwind. O fan'na, rhedeg i'r De lawr i Goldshire a chodi cwests eto. Yn fy mhrofiad i, mae ardal o gwmpas GS yn dda iawn am ffeindio copr hefyd, a fydd yn help i ti fel gof.

Dw i wedi chwarae yn wahanol y tro 'ma, ac wedi treial wneud bob cwest posibl ar y lefelau is, h.y. popeth yn ardaloedd yr elfiaid, corrachod a'r bodau dynol (sa i wedi prynu Burning Crusade). Erbyn hyn, mae fy "enw da" mor uchel ag y gallai bod gyda'r tri hil, sy'n wneud siopa yn rhatach ym mhobman, ac (yn drist iawn, ond yn wych) yn rhoi dewis o "mounts" i fi.

Tip bach arall: creu cymeriad sbâr lefel 1, rhed i Ironforge, a sefyll wrth y blwch post wrth y banc. Wedyn, bob tro ti'n ffeindio unrhywbeth ti ddim yn gallu defnyddio ar dy brif cymeriad, ond sy ddim ag enw llwyd (="vendor trash"), hala fe yn y post at dy "bank alt", a'i werthu yn y t? ocsiwn sy jyst gyferbyn â'r blwh post. Wnei di o leia dwywaith yr arian ar eitemau gwyn fel hyn.

I ymuno â guild, mewn unrhyw ddinas, teipio <b>/3 looking for guild, level 10 dwarf warrior</b> neu beth bynnag. Mae'r "/3" yn rhoi'r neges ar y sianel iawn. Mantais o chwarae gyda phobl eraill yw dy fod di'n gallu neud cwests oren neu hyd yn oed coch. Anfantais yw y bydd pobl yn dy alw yn sheepshagger a bydd rhaid i ti adael mewn hyff. Dw i'n siarad o brofiad eto ;-)

Dw i heb ffeindio'r un Cymro ar fy ngweinydd i, Anachronos, hyd yn hyn.

Pa weinydd wyt ti arno, Rhys?

(Mae cylch Warcraft ar gael ar y maes. Byddai'n llai o embaras i fi i drafod hyn lle nad ydy pobl normal yn gallu gweld. ;-))
Rhithffurf defnyddiwr
nicdafis
Defnyddiwr Platinwm
Defnyddiwr Platinwm
 
Negeseuon: 7361
Ymunwyd: Sul 18 Awst 2002 3:39 pm
Lleoliad: Pentre Arms

Postiogan nicdafis » Gwe 29 Meh 2007 10:38 am

Rhys Llwyd a ddywedodd:un cwestiwn ola - oes rhaid i fi is-lwytho'r gem eto neu a wnaiff fy nghyfri ewropeaidd weithio ar fy islwythiad Americanaidd (h.y. dwi methu cael e i weithio ar hyn o bryd!)?


O bols, wnes i hyn hefyd. Dw i ddim yn siwr, ond dw i'n credu y bydd rhaid islwytho fersiwn Ewrop. Mae disgiau 'da fi, os ydy helpu yn helpu, a dw i heb ddefynddio'r rhif serial sy arnyn nhw (oedd cyfrif cysgu 'da fi eisioes, o'r disgiau wnes i ddinistrio).
Rhithffurf defnyddiwr
nicdafis
Defnyddiwr Platinwm
Defnyddiwr Platinwm
 
Negeseuon: 7361
Ymunwyd: Sul 18 Awst 2002 3:39 pm
Lleoliad: Pentre Arms

Postiogan nicdafis » Gwe 29 Meh 2007 10:42 am

Hefyd, Macsen sy'n iawn. Paid â dechrau yw'r cyngor gorau. Oni bai bod dim byd gwell 'da ti wneud, a saith diwrnod rhwng y gemau poker. :wps:
Rhithffurf defnyddiwr
nicdafis
Defnyddiwr Platinwm
Defnyddiwr Platinwm
 
Negeseuon: 7361
Ymunwyd: Sul 18 Awst 2002 3:39 pm
Lleoliad: Pentre Arms

Postiogan nicdafis » Gwe 29 Meh 2007 10:43 am

Hefyd, Macsen sy'n iawn. Paid â dechrau yw'r cyngor gorau. Oni bai bod dim byd gwell 'da ti wneud, a saith diwrnod rhwng y gemau poker. :wps:
Rhithffurf defnyddiwr
nicdafis
Defnyddiwr Platinwm
Defnyddiwr Platinwm
 
Negeseuon: 7361
Ymunwyd: Sul 18 Awst 2002 3:39 pm
Lleoliad: Pentre Arms

Postiogan Rhys Llwyd » Gwe 29 Meh 2007 10:44 am

nicdafis a ddywedodd:Dw i heb ffeindio'r un Cymro ar fy ngweinydd i, Anachronos, hyd yn hyn.

Pa weinydd wyt ti arno, Rhys?


Wel, ma rhaid i mi ddechrau o'r dechrau eto nawr achos fy nghamgymeriad yn ymuno a'r gweinydd Americanaidd. Mae'r fersiwn Ewropeaidd yn is-lwytho gyda fi nawr (ac fe fydd hi'n is-lwytho gydol y penwythnos 3.5Gb a fy firewall yn ei arafu'n ofnadwy.

Wythnos nesa pan ddai rownd i ddechrau o'r dechrau ar y gweinydd Ewropeaidd fe wnai'n siwr i ymuno ag "Anachronos" er mwyn i ti helpu fi mas :winc:
Delwedd
Rhithffurf defnyddiwr
Rhys Llwyd
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 4935
Ymunwyd: Mer 11 Rhag 2002 5:07 pm
Lleoliad: Aberystwyth

Postiogan Macsen » Gwe 29 Meh 2007 10:47 am

Ro'n i'n darllen Seren Wen ar Gefndir Gwyn am yr ail waith neithiwr ac yn meddwl pa mor cwl fydde fo i gael gem fel WoW yn y byd yna - sai ti'n gallu rhedeg drwy Haf Heb Haul, Gaeaf Mawr, Tir Bach, brwydro gyda creaduriaid trydanol Gwylliaid y Gwifrau, ayyb...

Sori sgan hynna ddim byd oll i'w wneud gyda pwnc yr edefyn, jesd fi sy'n breuddwydio.
Rhywun yn ymosod ar y Gymraeg? - Rhannwch Why Welsh.com!
Rhithffurf defnyddiwr
Macsen
Defnyddiwr Platinwm
Defnyddiwr Platinwm
 
Negeseuon: 6193
Ymunwyd: Maw 12 Awst 2003 8:01 pm
Lleoliad: Penrhiwllan/Waunfawr

Postiogan Macsen » Gwe 29 Meh 2007 10:51 am

Dyw e ddim yn lot o hwyl ymuno a gweinydd fel dy fod ti'n gallu chwarae gyda rywun 40 lefel yn uwch na ti, Rhys. Wnes i hyn gyda fy mrawd lefel 23 a mi wnaeth o flino ar 'babysitio' fi a rhedeg off ar ryw antur peryg a welais i byth fo eto am y mis wnes i chwarae'r gem.

Heblaw dy fod ti'n dal i fyny gyda Nic wrth gwrs, ond gan nad oes ganddo ddim byd gwell i'w wneud fe all hynny fod yn broblem. ;)
Rhywun yn ymosod ar y Gymraeg? - Rhannwch Why Welsh.com!
Rhithffurf defnyddiwr
Macsen
Defnyddiwr Platinwm
Defnyddiwr Platinwm
 
Negeseuon: 6193
Ymunwyd: Maw 12 Awst 2003 8:01 pm
Lleoliad: Penrhiwllan/Waunfawr

Postiogan Rhys Llwyd » Gwe 29 Meh 2007 11:12 am

Macsen a ddywedodd:Dyw e ddim yn lot o hwyl ymuno a gweinydd fel dy fod ti'n gallu chwarae gyda rywun 40 lefel yn uwch na ti, Rhys. Wnes i hyn gyda fy mrawd lefel 23 a mi wnaeth o flino ar 'babysitio' fi a rhedeg off ar ryw antur peryg a welais i byth fo eto am y mis wnes i chwarae'r gem.

Heblaw dy fod ti'n dal i fyny gyda Nic wrth gwrs, ond gan nad oes ganddo ddim byd gwell i'w wneud fe all hynny fod yn broblem. ;)


Wel, rhod o felma, ma nghariad i'n symud adref i Gaerfyrddin am 2 fis a dwi'n aros yn Aberystwyth. Fydd o'n un ffordd o ddelio a'r golled yn bydd :winc:
Delwedd
Rhithffurf defnyddiwr
Rhys Llwyd
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 4935
Ymunwyd: Mer 11 Rhag 2002 5:07 pm
Lleoliad: Aberystwyth

Postiogan nicdafis » Gwe 29 Meh 2007 11:15 am

Os wnei di ymuno ag Anachronos, Rhys, un peth alla i wneud yw rhoi bach o aur i ti - mae hyn yn wneud y lefelau isel yn llawer haws. Jyst cael fforddio 5 bag yn lle yr un ti'n dechrau gyda fe yn arbed amser. Mae Macsen yn iawn, fydd dim lot o bwynt i fy mhrif gymeriad dy helpu di yn "gorfforol", ond o leia gallen ni ddechrau'r guild Cymraeg 'na. ;-)

Rho showt i "Eirwen" (ydw, dw i dal yn transfesteit yn Warcraft) unwaith ti arno.
Rhithffurf defnyddiwr
nicdafis
Defnyddiwr Platinwm
Defnyddiwr Platinwm
 
Negeseuon: 7361
Ymunwyd: Sul 18 Awst 2002 3:39 pm
Lleoliad: Pentre Arms

NôlNesaf

Dychwelyd i Gemau Cyfrifiaduron

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig ac 1 gwestai