Dw i nôl ar y teth ar hyn o bryd, ac yn lefel 41 ar fy arferol gwalch elff y nos. Byddwn i'n eilio cyngor Macsen. Ar y lefelau isel, mae'n bwysig iawn dy fod di'n wneud y cwests i gyd mewn trefn. Os wyt ti'n ffeindio dy fod di wedi cyrraedd patshen sych ar ran cwests, mae'n bosibl mewn ar dy wyliau i ardal un o'r hiliau eraill. Fel corrach, cei di redeg i Ironforge, ffeindio'r Deeprun Tram a mynd am wibdaith i Ddinas Stormwind. O fan'na, rhedeg i'r De lawr i Goldshire a chodi cwests eto. Yn fy mhrofiad i, mae ardal o gwmpas GS yn dda iawn am ffeindio copr hefyd, a fydd yn help i ti fel gof.
Dw i wedi chwarae yn wahanol y tro 'ma, ac wedi treial wneud bob cwest posibl ar y lefelau is, h.y. popeth yn ardaloedd yr elfiaid, corrachod a'r bodau dynol (sa i wedi prynu Burning Crusade). Erbyn hyn, mae fy "enw da" mor uchel ag y gallai bod gyda'r tri hil, sy'n wneud siopa yn rhatach ym mhobman, ac (yn drist iawn, ond yn wych) yn rhoi dewis o "mounts" i fi.
Tip bach arall: creu cymeriad sbâr lefel 1, rhed i Ironforge, a sefyll wrth y blwch post wrth y banc. Wedyn, bob tro ti'n ffeindio unrhywbeth ti ddim yn gallu defnyddio ar dy brif cymeriad, ond sy ddim ag enw llwyd (="vendor trash"), hala fe yn y post at dy "bank alt", a'i werthu yn y t? ocsiwn sy jyst gyferbyn â'r blwh post. Wnei di o leia dwywaith yr arian ar eitemau gwyn fel hyn.
I ymuno â guild, mewn unrhyw ddinas, teipio <b>/3 looking for guild, level 10 dwarf warrior</b> neu beth bynnag. Mae'r "/3" yn rhoi'r neges ar y sianel iawn. Mantais o chwarae gyda phobl eraill yw dy fod di'n gallu neud cwests oren neu hyd yn oed coch. Anfantais yw y bydd pobl yn dy alw yn sheepshagger a bydd rhaid i ti adael mewn hyff. Dw i'n siarad o brofiad eto
Dw i heb ffeindio'r un Cymro ar fy ngweinydd i, Anachronos, hyd yn hyn.
Pa weinydd wyt ti arno, Rhys?
(Mae cylch Warcraft ar gael ar y maes. Byddai'n llai o embaras i fi i drafod hyn lle nad ydy pobl normal yn gallu gweld.
)