Tudalen 3 o 6

PostioPostiwyd: Sul 17 Rhag 2006 5:30 pm
gan Y Mab Dwl
[neges wedi dileu gan Nic - wedi postio <a href="http://maes-e.com/viewtopic.php?p=310665#310665">dwywaith</a>]

PostioPostiwyd: Maw 20 Chw 2007 9:44 pm
gan nicdafis
nicdafis a ddywedodd:Dw i wedi cicio'r habit eto, <a href="http://morfablog.com/archif/2006/11/14/hunanladdiad-yn-y-rhithfyd/">gweler</a>.


Och.

<a href="http://maes-e.com/viewtopic.php?p=318542">Gweler</a>.

:wps:

PostioPostiwyd: Gwe 22 Meh 2007 11:02 am
gan Ariholi
Sa'm byd oí le ar fod 'chydig bach yn addicted i WoW! :D

Paladin, Bod Dynol, Lefel 64, Hellscream.

PostioPostiwyd: Iau 28 Meh 2007 11:13 pm
gan Rhys Llwyd
Dwi wedi rhoi siot ar Warcraft wythnos yma. Dwi'n gweld fy hun yn mynd yn gaeth er rhaid mi gyfaddau nid yw'r gem wedi cydio fel oeddw ni'n meddwl y byddai - yn gweld hi'n reit fustrating fod progress mor araf ac hefyd yn cael fy hun ddim yn siwr beth i wneud. "Ymuna gyda guild i wbod be i neud" fe glywai chi'n dweud, fy ateb: "Sut mae ymuno a Guild?".

Dwi wedi bod yn chwarae ers ychydig oriau (ar y cyfri 10 diwrnod trial, ddim yn siwr eto os y gwna i ddechrau talu) dwi'n Warior Dwarf ar lefel 10 ac wedi cymryd y cam cyntaf yn hyfforddi i fod yn ôf. Fodd bynnag dwi wedi cyrraedd pwynt nawr lle nad yw fy nghymeriad digon da/cryf i wneud y quests (dwi'n styc ar rai fel 'Operation Recombobulation' ger Brewnall Village) ond dwi angen pasio y quests i fod yn well - cylch dieflig.

Unrhyw dips gan rhywun.

Rhys

PostioPostiwyd: Gwe 29 Meh 2007 8:01 am
gan Macsen
Ti'n gwybod pa quests sy'n siwtio ti oherwydd bod nhw'n dangos yn wyrdd yn dy lyfr bach quests. Mae 'na bob tro digon o quests o gwmpas i ba bynnag lefel wyt ti arni - os na, mae'n bosib dy fod ti wedi crwydro allan o'r ardal wyt ti i fod ynddi.

Os wyt ti eisiau codi lefel heb fod yna quests allet ti bob tro grindio - hynny yw, mynd i ymosod ar y creaduriaid druan o dy amgylch. Bydd ei lladd nhw'n codi dy lefel rywfaint (tua 30 creadur i bob lefel!). Os ydi'r creaduriaid o'th boptu yn rhy anodd i ti, eto rwyt ti yn yr ardal angywir.

Ac os wyt ti'n meddwl bod progress yn araf rwan disgwyl tan dy fod ti ar y lefelau uwch. Mae'n cymryd tua'r un amser i fynd o lefel 24-25 a mae'n cymryd i fynd o lefel 1-15. Yn bersonol dw i wedi trio'r gem tua 3 gwaith a rhedeg allan o stem tua lefel 25 bob tro.

PostioPostiwyd: Gwe 29 Meh 2007 8:24 am
gan Rhys Llwyd
Un problem arall. Fe es i mewn i'r rhan talu neithiwr i weld faint a sut bydde fe pe taw ni am gario mlaen tu hwnt i'r trial. Roedd y cyfan yn ddoleri ar cardiau oedden nhw'n derbyn oedd Visa a Mastercard. Dim son am fy switch Debit car i na'r sterling! Ydw i wedi gwneud camgymeriad mawr a chofrestr/dechrau chwarae ar y fersiwn Americanaidd ac y bydd rhaid i mi ddechrau or dechrau eto ar fersiwn Prydeinig/Ewropeaidd er mwyn talu? Help.

Diolch am dy dips Macsen, fe ymddengys nad ydw i'n gwneud dim byd yn anghywir felly ac mae jest cymryd amser ma pethe.

PostioPostiwyd: Gwe 29 Meh 2007 8:33 am
gan Macsen
Ti ar y fersiwn Americanaidd! http://www.wow-europe.com wyt ti ei eisiau. Ond mae'r un Americanaidd yn rhatach os oes gen ti ffordd o dalu.

Fyddwn i ddim yn trafferthu cychwyn eto petawn i'n ti. Ar y gora wnei di ddiflasu a gwastraffu dy arian, ar y gwaethaf fe ei di'n gaeth i'r gem a byth gorffen dy waith coleg. (mae hyn wedi digwydd i cwpwl o bobol dwi'n nabod felly dyw e ddim yn anghyffredin)

PostioPostiwyd: Gwe 29 Meh 2007 9:10 am
gan Rhys Llwyd
Macsen a ddywedodd:Ti ar y fersiwn Americanaidd! http://www.wow-europe.com wyt ti ei eisiau. Ond mae'r un Americanaidd yn rhatach os oes gen ti ffordd o dalu.

Fyddwn i ddim yn trafferthu cychwyn eto petawn i'n ti. Ar y gora wnei di ddiflasu a gwastraffu dy arian, ar y gwaethaf fe ei di'n gaeth i'r gem a byth gorffen dy waith coleg. (mae hyn wedi digwydd i cwpwl o bobol dwi'n nabod felly dyw e ddim yn anghyffredin)


So ti basically yn deud wrthai stopio chwarae rwan cyn bod hi rhy hwyr?! Ond pe taw ni, yn rhethrhegol nawr, am gario mlaen ydw i'n gallu newid fy nghymeriad draw i'r un Ewropeaidd?

PostioPostiwyd: Gwe 29 Meh 2007 9:52 am
gan Macsen
Rhys Llwyd a ddywedodd:So ti basically yn deud wrthai stopio chwarae rwan cyn bod hi rhy hwyr?!

Ydw! Mae'r gem yna'n byta amser fel popcorn, ac wedi ei greu i fod mor gaethiwus a bo modd. Dyw hi ddim gwell na cyffur, jesd bod yr ffeithiau negyddol ddim yn cael gymaint o sylw am nad yw'r cyfryngau a gwleidyddion yn deall gemau cyfrifiadur. Sgwenna nofel yn lle.

Rhys Llwyd a ddywedodd:Ond pe taw ni, yn rhethrhegol nawr, am gario mlaen ydw i'n gallu newid fy nghymeriad draw i'r un Ewropeaidd?

Mae'n costio arian i wneud (fel popeth arall yn y byd yna). Waeth i ti ddechrau o'r newydd, mae'r amser mae'n ei gymryd i gyraedd lefel 10 yn ddiferyn yn y mor mawr o amser gymerith hi i gwlblhau'r gem (tua blwyddyn o chwarae 3 awr y diwrnod).

PostioPostiwyd: Gwe 29 Meh 2007 10:29 am
gan Rhys Llwyd
un cwestiwn ola - oes rhaid i fi is-lwytho'r gem eto neu a wnaiff fy nghyfri ewropeaidd weithio ar fy islwythiad Americanaidd (h.y. dwi methu cael e i weithio ar hyn o bryd!)?