Tudalen 5 o 6

PostioPostiwyd: Gwe 29 Meh 2007 11:22 am
gan nicdafis
Ond os ti'n chwarae corrach, mae rhaid i ti ei alw fe yn "Cysglyd", neu hyd yn oed "Dôpi". Wedyn gawn ni ddechrau guild gyda thema ;-)

PostioPostiwyd: Gwe 29 Meh 2007 12:15 pm
gan Rhys Llwyd
nicdafis a ddywedodd:Os wnei di ymuno ag Anachronos, Rhys, un peth alla i wneud yw rhoi bach o aur i ti - mae hyn yn wneud y lefelau isel yn llawer haws. Jyst cael fforddio 5 bag yn lle yr un ti'n dechrau gyda fe yn arbed amser.


Diolch! O ni'n gobeithio mae'r math yma o help fydde ti'n medru rhoi. Os dwi'n prynnu 5 bag maen golygu fedrai gaerio peth wmbreth o bethau rownd gyda fi ydy ac bydd ddim rhaid i mi redeg yn ôl i werthu pethau mor aml? ie?

Parthed dewis fy nghymeriad. Gan fy mod i'n dechrau eto - beth awgrymwch chi i fi fod? Yn amlwg, gan fy mod yn Gristion ac yn Gymro dwi am fod yn un o'r rhai Alliance :winc:

PostioPostiwyd: Gwe 29 Meh 2007 1:49 pm
gan nicdafis
Fel <i>Cristion</i>, fyddwn i'n meddwl bod y dewis yn <a href="http://wow.whispre.com/files/priest_guide_v1.0.htm">amlwg</a>. ;-)

Mae'n dibynnu ar sut ti moyn chwarae. Dw i wedi dewis gwalch bob tro ogerwydd maen nhw'n ddigon hawdd i'w chwarae solo, a does dim lot o ddiddordeb 'da fi chwarae mewn grwpiau o bobl dw i ddim yn eu nabod. Ond mae bob tro galw am offeiriaid i ymuno â grwpiau, gan eu bod nhw'n gallu iachau eraill. Mae derwyddion a paladins yn gallu wneud hyn hefyd, wrth gwrs.

Mae rhyfelwyr a gwleich yn haws i chwarae, efallai, i ddechreuwr. Dw i heb yr amynedd i chwarae y rhai hudol, i fod yn onest, er mod i'n trial bob hyn a hyn. Dechreuais i dewin nômaidd neithiwr, jyst am newid.

PostioPostiwyd: Gwe 29 Meh 2007 1:54 pm
gan Macsen
Hmmm os ydi cristion yn gorrach yn yr alliance, beth yw warlock o'r di-farw? :crechwen:

A beth yw gwalch, gyda llaw? Elf? Dwi'n meddwl bod y trolls yn eithaf cwl hefyd...

Na! Dych chi ddim am fy nenu i nol... :(

PostioPostiwyd: Gwe 29 Meh 2007 3:39 pm
gan nicdafis
Gwalch = rogue, yn ôl Bruce. Dw i'n eitha lico fe.

PostioPostiwyd: Sad 30 Meh 2007 12:59 pm
gan SbecsPeledrX
Ron i wedi meddwl prynnu hwn dros y penwythnos. Ond ddim yn siwr os di'r byd di symud mlaen, na chwaith os neiff o weithio ar fy gliniadur.

Be di'r cyngor bois?

PostioPostiwyd: Sad 07 Gor 2007 8:21 pm
gan nicdafis
Newydd weld hyn, sori Sbecs. Peth gorau yw edrych ar Amazon, lle mae'n rhoi y "sbec" anghenrheidiol i bob gêm, cyn i ti brynu dim byd, neu drial lawrlwytho'r fersiwn am ddim o wefan *Ewropiaidd" Blizzard - mae linc uchod rhywle dw i'n credu.

Os wyt ti am ymuno ag urdd fach Gymraeg, wedyn dewisa'r weinydd Anachronos - gweler y <a href="http://maes-e.com/viewforum.php?f=76">seiat</a> am fwy o fanylion.

PostioPostiwyd: Maw 09 Hyd 2007 2:04 pm
gan Hacio
Ydych chi'n treulio oriau'n chwarae gemau ar y cyfrifiadur? Neu'n ffan o gemau ar-lein?

Os ydych chi, beth am anfon neges bersonol at Hacio, e-bostio gwyn.loader@itv.com neu ffonio 08448810272 i gael cyfle i roi eich barn ar fyd gemau cyfrifiadur ar y teledu?!

PostioPostiwyd: Maw 09 Hyd 2007 2:26 pm
gan bartiddu
Hacio a ddywedodd:Ydych chi'n treulio oriau'n chwarae gemau ar y cyfrifiadur? Neu'n ffan o gemau ar-lein?

Newydd edrych ar ystadege fi a fi wedi hala 1493 awr yn whare Battlefield2
Ond sai'n mynd ar teledu i siarad am e :wps: Edrychaf mlaen am y rhaglen cofiwch! :)

Re: Byd Warcraft

PostioPostiwyd: Maw 22 Ion 2008 3:56 pm
gan nicdafis
Dw i nôl ar y teth, ac mae'r gwalch NE arferol 'da fi; newydd gael ei chath. "Dreamtime" ar weinydd Bronzebeard. Meddwl am symud i weinydd arall lle dw i'n clywed mae o leia dau Gymro.