Tudalen 6 o 6

Re: Byd Warcraft

PostioPostiwyd: Maw 22 Ion 2008 4:09 pm
gan Rhys Llwyd
Wrth osod Leopard nid yn unig y gwnes i ddiweddu fy nhanysgrifiad ond fe wnes i ddileu y gem ei hun off fy nisg galed hefyd (oedde tin sylwi ei fod en cymryd lan 6 gig?!) felly fydda i ddim nol ar y teth am dipyn gobeithio... er dwi heb ddileu fy nghyfri ac mae Rhiwallon dal allan yna rhwyle ar Anachronos felly y posibilrwydd dal yn agored. :ing:

Re: Byd Warcraft

PostioPostiwyd: Maw 22 Ion 2008 4:35 pm
gan nicdafis
Dw i'n bederfynnol i beidio dileu nghymeriad eto. Dyma'r pumed tro i mi gyrraedd lefel 40 gyda tŵn sy'n edrych bron yn union yr un peth â phob tŵn arall dw i wedi rolio. :rolio:

Re: Byd Warcraft

PostioPostiwyd: Maw 22 Ion 2008 4:55 pm
gan Macsen
Wel ti'n gwneud yn well na fi, lefel 20 di'r ucha dw i erioed wedi cyraedd. Dwi'n dioddef o 'mae'r gwair yn wyrddach ar yr ochor arall' syndrome. Dw i wedi bod yn undead warlock (lefel 20 - rhy fregus), night elf 'gwalch' (lefel 20 - dim mynedd sleifio o gwmpas), troll warrior (lefel 11 - diflas), dwarf hunter (lefel 18 - rhy fyr) a nawr blood elf hunter (lefel 16 - rhy camp). :gwyrdd:

Mae troll shaman o'r enw Barwn Sadwrn yn dechrau edrych yn ddeiniadol...

Re: Byd Warcraft

PostioPostiwyd: Maw 22 Ion 2008 5:20 pm
gan Rhys Llwyd
Lefel 43 ydy Rhiwallon erbyn nawr.

Re: Byd Warcraft

PostioPostiwyd: Sul 27 Ion 2008 10:11 pm
gan Gwenci Ddrwg
Eeek dwi wedi clywed pethau erchyll am y gêm, digon i fod yn amheugar amdani (ffordd da o wastraffu amser ac ati). Dwi'n nabod un gwr sy wedi rhoi ei gopi yn y sbwriel wedyn dim ond 3 mis o chwarae, oherwydd roedd o wedi treulio cymaint o'i amser rhydd arni, y rhan fwyaf o'r diwrnod neu rhywbeth. Ac hefyd dwi'm yn arfer hoffi gêmau lle mae angen i ti dalu hyd yn oed mwy o arian pob mis, mae hynny'n sketchy uwchlaw popeth oherwydd dwi'n gwybod eisoes bod Warcrack yn gallu bod yn caethiwus, i ddeud y lleiaf.

Pwy sy'n chwarae? Faint o amser dach chi'n cymryd arni yn union? Dwi ddim eisiau penderfynu ar gallineb y chwaraewyr cyn cael y ffeithiau o bawb. 8)

Re: Byd Warcraft

PostioPostiwyd: Sul 27 Ion 2008 10:51 pm
gan Macsen
Dim amser i ymateb... chwarae Warcraft...

Re: Byd Warcraft

PostioPostiwyd: Llun 28 Ion 2008 2:23 am
gan Gwenci Ddrwg
Wahahahaha

Ateb perffaith. Kudos.

Re: Byd Warcraft

PostioPostiwyd: Llun 28 Ion 2008 9:19 pm
gan Rhys Llwyd
Dros gyfnod o bedwar mis dwi'n meddwl wnes i chwarae am rhyw 5 diwrnod (sef tua 120 o oriau) felly ma hynny yn rhannu allan i fod yn rhyw awr y diwrnod - ond weithiau eleni wythnos gyfan heb chwarae dim yna chwarae marathon trwy benwythnos cyfan pryd nad oedd dim byd mlaen gennai.

Re: Byd Warcraft

PostioPostiwyd: Llun 28 Ion 2008 11:37 pm
gan Macsen
Mae'n gem dda, ond yn ailadroddus ddiawl ar brydiau.

Drwy ryw gyd-ddigwyddiad mae'r server dw i arni'n llawn Cymru. Ma 'na guild (Adlais Bythol - er nad yw lot arno yn deall yr enw wrth gwrs), a lot o Gymru yn rhedeg o gwmpas mewn guilds eraill.