gan Macsen » Sad 09 Medi 2006 10:13 pm
Dwi'm yn meddwl bod gobaith cael gemau llawn newydd yn y Gymraeg, ond mae hi mor hawdd gwneud mods a mapiau newydd i gemau cyfrifiadur erbyn hyn mi fyddai'n werth gwneud rhai Cymraeg.
Dewisa gem poblogaidd (fel Battlefield 2) gwna ambell i addasiad Cymraeg iddi (map o Castell Caernarfon, ffeiliau swn Cymraeg, fflag y Ddraig Goch i dy dim) a wedyn eho'r cwbwl ar Maes-E i bobol gael ei lawrlwytho.
Neu mae'n bosib gwneud gem cyfan o'r newydd ar Gamesfactory neu un o'r Point and Click Makers (fel yr hen gemau Day of the Tentacle, Sam & Max a Monkey Island) yn ddigon hawdd.
Roeddwn i'n arfer gwneud gemau bach syml (iawn) Cymraeg yn y coleg a chwarae rhai ohonyn nhw gyda'r bois oedd yn rhannu fy fflat.