Felly beth mae pawb yn meddwl o FM 2007? Dwi wedi chware tymor (dyma fy gem reoli gynta ers Champ man 2001).
Teimlo o ni fod hi braidd ar yr ochr rwydd (gyda Lerpwl fe ennilles i'r league a'r Champions league yn yn nhymor cynta), ond wedi dweud hynny, o gofio digwyddiadau Istanbul 2005, falle nad yw hi'n rhy rwydd wedi'r cyfan.
Fy hoff foment so far oedd pan nath Jermaine Pennant sgorio gol yn erbyn Arsenal drwy redeg o'i hanner ei hun, pasio tri amddiffynydd, a rhoi'r bel yng nghornel y rwyd!! (Ennillydd goal of the season!).
Allai ddim dweud am faint y databas, am na chwareis i 2006 a 2005.
Yr agwedd waetha i'r gem ar hyn o bryd yw gameplay'r match ei hun - mewn 1 on 1 gyda gol geidwad, lle byddech yn disgwyl i'r ymosodwr sgorio, 9 tro allan o 10, bydd y golwr yn arbed.
Mae na quirks ofnadwy yn yr amddiffyn hefyd. Yn aml bydd yr amddiffynydd yn rhedeg i gau winger i lawr, ac yna, cyn ei ddal, yn stopio ac yn mynd nol i'r canol!?!
Hefyd mae'r golwyr yn aml yn wallgo. Os bydd y gol yn glanio ar ochr y bocs, yn aml bydd Reina yn chipio'r bel dros ben Hyppia i droed yr ymosodwr sy'n sgorio o 40 llath am for Reina dal ar ochr y bocs.
Ar sawl achlysur dwi wedi gweld y golwr yn cicio'r bel yn syth i aelod o'r tim arall sydd heb eii farcio, sy'n mynd ar rediad ac yn creu gol.
Gallwch chi jyst diodde hyn pan fod y canlyniade'n mynd o'ch plaid, ond pan mae'n golygu colli 0-3 i Sheffield United, mae'n annodd digymod ag e
Rhywun wedi cael profiad tebyg?