Tudalen 5 o 6

PostioPostiwyd: Gwe 06 Gor 2007 3:27 pm
gan y nionyn
guardado, torje, cardenas, millan, jovetic, sunny, adu, corluka, sturgis, ma rhain i gyd yn ifanc a da!!

PostioPostiwyd: Sad 07 Gor 2007 10:50 pm
gan krustysnaks
Fy laptop wedi'i ddwyn ac fy gem orau erioed ar Champ / Football Manager wedi diflannu am byth! Enillais i bob tlws am 6 tymor yn olynol gyda Chelsea ar gem 2006. Tristwch.

PostioPostiwyd: Llun 09 Gor 2007 8:17 am
gan Ray Diota
krustysnaks a ddywedodd:Fy laptop wedi'i ddwyn ac fy gem orau erioed ar Champ / Football Manager wedi diflannu am byth! Enillais i bob tlws am 6 tymor yn olynol gyda Chelsea ar gem 2006. Tristwch.


Dwi'n teimlo dy boen :(

PostioPostiwyd: Mer 11 Gor 2007 1:27 pm
gan penn bull
dwi'n 2027! nyts de. sad hydynoed.

wrth 'y modd ddo. mynd yn dew ac yn buta choclate swiss rolls mark & sparks aros fyny tan 3 yn chwarae compiwtar.

PostioPostiwyd: Mer 11 Gor 2007 2:57 pm
gan Ray Diota
penn bull a ddywedodd:dwi'n 2027! nyts de. sad hydynoed.

wrth 'y modd ddo. mynd yn dew ac yn buta choclate swiss rolls mark & sparks aros fyny tan 3 yn chwarae compiwtar.


ffacin joio, boi!

pwy sy angen wejen, eh?? cardiff city i fi ar y foment... golles i'n playoff final, ond di cal haf o recriwtio da...

PostioPostiwyd: Mer 11 Gor 2007 3:50 pm
gan garynysmon
Newydd gychwyn gem yn Iwerddon gyda Shelbourne gyda'r update newydd. £10m yn y coch!! Gobeithio neith rhywyn gymyd y clwb drosodd, dwi mewn Receivership yn barod!

Oes na rhywyn mor sad a fi? Wnai wrthod arwyddo rhywyn, os dwi'm yn meddwl y buasai'n gallu digwydd yn y byd go-iawn. Er enghraifft, wnes i mond arwyddo Marc Lloyd Williams am fod Shelbourne yn Nulun, a ddigon agos i mi a fo fynd adra ar y fferi o dro i dro :wps:

PostioPostiwyd: Mer 11 Gor 2007 4:28 pm
gan Ray Diota
garynysmon a ddywedodd:Oes na rhywyn mor sad a fi? Wnai wrthod arwyddo rhywyn, os dwi'm yn meddwl y buasai'n gallu digwydd yn y byd go-iawn. Er enghraifft, wnes i mond arwyddo Marc Lloyd Williams am fod Shelbourne yn Nulun, a ddigon agos i mi a fo fynd adra ar y fferi o dro i dro :wps:


:lol: :lol:

dwi'n hoffi meddwl am fanylion y ddêl 'fyd!

ti di pasio'r cyfnod 'gneud interviews' erbyn hyn ma'n shwr... dyna dwi'n ei wneud yn y gawod bob bore yw cynnal press conference dyddiol...

ffacinhel :rolio:

PostioPostiwyd: Mer 11 Gor 2007 5:54 pm
gan Mici
Ffocin hel hogia, ar ol syllu ar cyfrifiadur am 12 awr yn gwaith, peth diweddaf faswn i isio neud di mynd arna fo ar ol cyraedd adra.

Dwi gwbod bod tywydd yn gach ar hyn o bryd, ond fuasai gneud lles i chi fynd am dro neu wbath i 'strechio'. Fedrai ddychmygu barf ar ambell un ohonoch :lol:

Yr unig gem ffwtbol cyfrifiadur fysa yn gallu fy merswadio fysa Pro Evo ar sgrin 50 modfedd.

Dwim di chwarae gem rheolwr ers Premier Manager 98 ella bod y nodweddion di gwella?

PostioPostiwyd: Mer 11 Gor 2007 5:55 pm
gan garynysmon
Dwi di cael fy nal yn sefyll gyda fy nwylo wedi croesi o flaen y sgrin cyn heddiw. Meddwl mod i ar y touchline neu rwbath!

PostioPostiwyd: Gwe 13 Gor 2007 8:49 pm
gan aronj89
Gem hollol wych.
Yn fy mhedwerydd tymor gyda Abertawe. Wedi cael dyrchafiad i'r bencampwriaeth yn fy nhymor cyntaf a colli yn yr ail yn y 'play-offs'. Stryglo oedd yr hanes yn y trydydd tymor gan ddod yn 12fed ond erbyn hyn mae'r sgwad ifanc yn dechrau dangos eu doniau ac yn 8fed wedi 16 gem. Hogyn 18 wedi ei arwyddo o ffrainc am filiwn wedi sgorio 11 ac erbyn hyn werth 3.5 ac mae addewid am ddyfodol disglair iddo. Fi ydio neu ydi hi'n llawer haws gwneud arian gyda'r patch newydd? Bring on the premiership ddudai!!! :D