eifs a ddywedodd:BoonBas a ddywedodd:
dwi newy wneud y switch o FIFA i pro evo am y tro cyntaf eleni (dwi'n adnewyddu gemau pel droed pob 2 mlynedd!!) ac rhaid i mi ddweud, ma'r dam peth yn amhosibl. dwi methu ennill bygr all efo level regular o gwbl, felly dwim yn gweld fy hun yn gallu cyrraedd y ddau lefel uwch chwaith.
Dyna un o'r pethau da am Pro Evo. Da chi methu dechrau chware a sgorio goliau gwych yn syth. Mae'n cymryd amser i ddysgu sut i chware, a defnyddio y controls yn iawn. Mae'r R2 yn bwysig iawn i rheoli y bel. Ar ol dipyn, mae'r goliau yn dod, a goliau gwych. Mae'n anodd sgorio am fod siap a lleoliad y corff tu ol y bel yn effeithio ar y shot. Os da chi'n gwynebu ffwrdd o'r gol, neu saeth gyda eich troed gwan, ni fydd yn siot dda. Peth da arall yw fod un gem yn gallu fod yn 0-0 diflas, a'r nesa yn 4-3. Jyst fel pel-droed go iawn. Mae'n bosib cael ond un siawns ac ennill, neu cael llwyth o siawnsus a cholli. PES 5 dwi'n son am fan hyn gyda llaw, falle fod rhai pethau wedi newid.