gan SbecsPeledrX » Iau 11 Ion 2007 2:55 pm
Sim city 3 neu 2000 neu rhywbeth yn well o be dwi'n cofio. Ond ella mai fi sydd ar fai fama, fel oni efo football manager. Mae Sim City 4 yn 3d, tan ddear hefyd. Rhaid i ti osod y sewerage pipes a pob dim, nes i ei brynnu a mynd a fo nol ir siop mewn wsos. Gormod o micro management.
Dwi'n deud hyn fel un sy'n hoff iawn o gemau strategol, rheoli a football manager felly nid mai ishio saethu stwff ydw i odd y broblem. Ma Sim City 4 jest yn anal. Neshi rili rili rili mwynhau Sim City 2000 ar y Sega Saturn.