"Guild" Cymraeg?

Mae bywyd yn arcêd, gyfaill

"Guild" Cymraeg?

Postiogan nicdafis » Maw 20 Chw 2007 9:48 pm

(Beth fyddai'r gair am "guild"? Dyw Bruce ddim yma.)

Bob tro dw i'n gweld rhywun ar WoW gydag enw Cymraeg, dw i'n anfon /w iddyn nhw i weld os oes Cymraeg 'da nhw. Fel arfer, nag oes. Dim ond unwaith dw i wedi siarad Cymraeg gyda chwaraewr ar fy ngweinydd i.

Y broblem yw bod cynlleiad o Gymry yn chwarae, ac wedyn mae pawb yn chwarae ar weinyddion gwahanol. A fyddai diddordeb symud cymeriadau/creu rhai newydd ar weinydd all fod yn weinydd maes-e?
Rhithffurf defnyddiwr
nicdafis
Defnyddiwr Platinwm
Defnyddiwr Platinwm
 
Negeseuon: 7361
Ymunwyd: Sul 18 Awst 2002 3:39 pm
Lleoliad: Pentre Arms

Re: "Guild" Cymraeg?

Postiogan Cardi Bach » Mer 21 Chw 2007 9:17 am

nicdafis a ddywedodd:(Beth fyddai'r gair am "guild"? Dyw Bruce ddim yma.)

Bob tro dw i'n gweld rhywun ar WoW gydag enw Cymraeg, dw i'n anfon /w iddyn nhw i weld os oes Cymraeg 'da nhw. Fel arfer, nag oes. Dim ond unwaith dw i wedi siarad Cymraeg gyda chwaraewr ar fy ngweinydd i.

Y broblem yw bod cynlleiad o Gymry yn chwarae, ac wedyn mae pawb yn chwarae ar weinyddion gwahanol. A fyddai diddordeb symud cymeriadau/creu rhai newydd ar weinydd all fod yn weinydd maes-e?


Debyg taw 'urdd' yw'r term agosa at 'guild' yn y Gymraeg...ond mae e bach yn od meddwl am urdd yn WoW!
Rhithffurf defnyddiwr
Cardi Bach
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 2694
Ymunwyd: Maw 22 Hyd 2002 7:54 am
Lleoliad: Gal

Postiogan nicdafis » Iau 22 Chw 2007 11:58 am

Urdd Gobaith Azeroth?
Rhithffurf defnyddiwr
nicdafis
Defnyddiwr Platinwm
Defnyddiwr Platinwm
 
Negeseuon: 7361
Ymunwyd: Sul 18 Awst 2002 3:39 pm
Lleoliad: Pentre Arms

Postiogan Macsen » Gwe 23 Chw 2007 10:32 am

Gorsedd y Bwystfilod! Fe allen ni gynnal Eisteddfodau? ;)

Dwi'n siwr welais i ardal gyda enw Cymraeg tro dwytha' i mi chwarae (Elwyn rywbeth?) ond wnes i byth gyraedd yno.
Rhywun yn ymosod ar y Gymraeg? - Rhannwch Why Welsh.com!
Rhithffurf defnyddiwr
Macsen
Defnyddiwr Platinwm
Defnyddiwr Platinwm
 
Negeseuon: 6193
Ymunwyd: Maw 12 Awst 2003 8:01 pm
Lleoliad: Penrhiwllan/Waunfawr

Postiogan nicdafis » Gwe 23 Chw 2007 11:31 am

Dw i wedi gweld digon o enwau Cymraeg, ond dyn nhw byth yn siarad Cymraeg. Gwelais i NE (benywaidd, wrth gwrs) o'r enw Llewelyn, ond oedd y chwaraewr yn Eidalwr.
Rhithffurf defnyddiwr
nicdafis
Defnyddiwr Platinwm
Defnyddiwr Platinwm
 
Negeseuon: 7361
Ymunwyd: Sul 18 Awst 2002 3:39 pm
Lleoliad: Pentre Arms

Postiogan nicdafis » Gwe 23 Chw 2007 11:32 am

Dw i wedi gweld digon o enwau Cymraeg, ond dyn nhw byth yn siarad Cymraeg. Gwelais i NE (benywaidd, wrth gwrs) o'r enw Llewelyn, ond oedd y chwaraewr yn Eidalwr.
Rhithffurf defnyddiwr
nicdafis
Defnyddiwr Platinwm
Defnyddiwr Platinwm
 
Negeseuon: 7361
Ymunwyd: Sul 18 Awst 2002 3:39 pm
Lleoliad: Pentre Arms

Postiogan Macsen » Gwe 23 Chw 2007 11:45 pm

Wedi gosod BCR ar y cyfrifiadur adref, ond nawr mae'n rhaid lawrlwytho patch 456 MB o faint! Waeth iddyn nhw yrru CDd newydd drwy'r post. Wela'i chi mewn tua 8 awr.

[12 awr wedyn] Argh, un patch ar ol y llall, bob un yn fwy na'r dwytha'!

Prin yw'r amser fydd gen i chwarae'r gem felly mae'n debyg y bydd fy mrawd bach yn cymeryd drosodd llun-gwener a fi'n cael go ar y penwythnos. Nabod fo byddai'r cymeriad yn lefel 60 amser yma wythnos nesa'.
Rhywun yn ymosod ar y Gymraeg? - Rhannwch Why Welsh.com!
Rhithffurf defnyddiwr
Macsen
Defnyddiwr Platinwm
Defnyddiwr Platinwm
 
Negeseuon: 6193
Ymunwyd: Maw 12 Awst 2003 8:01 pm
Lleoliad: Penrhiwllan/Waunfawr

Postiogan nicdafis » Sad 24 Chw 2007 3:19 pm

Mae hyn yn embaras fawr nawr, ond wnes i ddileu'r gêm y bore 'ma :wps:

Falle dylwn i ddechrau edefyn arall am y peth...
Rhithffurf defnyddiwr
nicdafis
Defnyddiwr Platinwm
Defnyddiwr Platinwm
 
Negeseuon: 7361
Ymunwyd: Sul 18 Awst 2002 3:39 pm
Lleoliad: Pentre Arms

Postiogan Macsen » Sad 24 Chw 2007 7:40 pm

Dw i'n ghostland dan yr enw Ifantrefor* ta beth, os oes unrhywun eisiau ymuno.

* Doeddwn i a fy mrawd methu dewis enw.
Rhywun yn ymosod ar y Gymraeg? - Rhannwch Why Welsh.com!
Rhithffurf defnyddiwr
Macsen
Defnyddiwr Platinwm
Defnyddiwr Platinwm
 
Negeseuon: 6193
Ymunwyd: Maw 12 Awst 2003 8:01 pm
Lleoliad: Penrhiwllan/Waunfawr

Postiogan nicdafis » Sad 03 Maw 2007 9:31 pm

Horde neu Alliance wyt ti Macs? Dim pwynt i mi trosglwyddo fy NE jyst i gicio dy din ;-)

Ie, dw i wedi cwympo oddi ar y gambo eto.
Rhithffurf defnyddiwr
nicdafis
Defnyddiwr Platinwm
Defnyddiwr Platinwm
 
Negeseuon: 7361
Ymunwyd: Sul 18 Awst 2002 3:39 pm
Lleoliad: Pentre Arms

Nesaf

Dychwelyd i Gemau Cyfrifiaduron

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 8 gwestai

cron