Mae'n flin iawn 'da fi bois, yn enwedig i Macsen sy newydd ail-lwytho'r gêm; dw i wedi dileu'r gêm eto> gan ei bod wedi cymryd drosodd fy mywyd.
'Swn i'n gallu ffeindio ffordd dibynadwy o gadw at oriau call o chwarae byddai pob dim yn iawn, ond yn anffodus dw i'n methu rheolu fy amser o gwbl tra mod i yn y gêm.
Dw i ddim wedi dileu fy nghymeriadau, felly mae'n bosibl y bydda i'n ôl yn y dyfodol, ond mae Azeroth wedi dechrau effeithio ar mywyd bob dydd i raddau afiach, a rhaid oedd wneud rhywbeth amdano.
Dydy ddim cweit yn cyfro hyn. Dw i'n teimlo fel y twpsin mwya sydd. Nid am chwarae'r gêm, ond am beidio rheoli pethau yn well, a mynd yn gaeth bob tro.
40 oed. Ffycs sêc.