Rhyddhad, ond embaras

Mae bywyd yn arcêd, gyfaill

Rhyddhad, ond embaras

Postiogan nicdafis » Sad 24 Chw 2007 3:24 pm

Mae'n flin iawn 'da fi bois, yn enwedig i Macsen sy newydd ail-lwytho'r gêm; dw i wedi dileu'r gêm eto> gan ei bod wedi cymryd drosodd fy mywyd.

'Swn i'n gallu ffeindio ffordd dibynadwy o gadw at oriau call o chwarae byddai pob dim yn iawn, ond yn anffodus dw i'n methu rheolu fy amser o gwbl tra mod i yn y gêm.

Dw i ddim wedi dileu fy nghymeriadau, felly mae'n bosibl y bydda i'n ôl yn y dyfodol, ond mae Azeroth wedi dechrau effeithio ar mywyd bob dydd i raddau afiach, a rhaid oedd wneud rhywbeth amdano.

Dydy :wps: ddim cweit yn cyfro hyn. Dw i'n teimlo fel y twpsin mwya sydd. Nid am chwarae'r gêm, ond am beidio rheoli pethau yn well, a mynd yn gaeth bob tro.

40 oed. Ffycs sêc.
Golygwyd diwethaf gan nicdafis ar Iau 22 Mai 2008 9:33 pm, golygwyd 1 waith i gyd.
Rhithffurf defnyddiwr
nicdafis
Defnyddiwr Platinwm
Defnyddiwr Platinwm
 
Negeseuon: 7361
Ymunwyd: Sul 18 Awst 2002 3:39 pm
Lleoliad: Pentre Arms

Postiogan Macsen » Sad 24 Chw 2007 3:43 pm

Wel Nic, wn i ddim faint o oriau wyt ti'n chwarae ond mae'n werth cofio mae chwedl yw hi bod gemau cyfrifiadur yn waeth i ti na pethau eraill. Petai ti'n gwylio peldroed am yr un faint o amser, sa neb mae'n debyg yn codi ael.

Falle dyle ti brynu egg-timer, neu gofyn i rywun ddod draw a dy daro hyd dy ben gyda ffon os ydyn nhw'n dy weld ti'n chwarae dros ddwy awr y nos.

Yn bersonol roeddwn i'n meddwl bod WoW yn gem reit ddiflas ar adegau ac yn gorfodi fy hun i'w chwarae tan ddiwedd y mis i gael gwerth fy mhres. Ond roeddwn i'n meddwl y byddai'r profiad bach yn well fel rhan o guild yn hytrach na'n tindroi o gwmpas Azeroth ar fy mhen fy hun.
Rhywun yn ymosod ar y Gymraeg? - Rhannwch Why Welsh.com!
Rhithffurf defnyddiwr
Macsen
Defnyddiwr Platinwm
Defnyddiwr Platinwm
 
Negeseuon: 6193
Ymunwyd: Maw 12 Awst 2003 8:01 pm
Lleoliad: Penrhiwllan/Waunfawr

Postiogan Macsen » Llun 05 Maw 2007 9:22 am

Dw i'n dechrau gweld WoW yn cael effaith rhyfedd arna'i hefyd! Wnes i chwarae fo ryw ddwy awr bore dydd Sadwrn, a pan welais i bry copyn yn dringo fyny dwsel y gawod wedyn es i 'Ah, fyddwn i'n cael 105 exp. am ladd hwnna!'
Rhywun yn ymosod ar y Gymraeg? - Rhannwch Why Welsh.com!
Rhithffurf defnyddiwr
Macsen
Defnyddiwr Platinwm
Defnyddiwr Platinwm
 
Negeseuon: 6193
Ymunwyd: Maw 12 Awst 2003 8:01 pm
Lleoliad: Penrhiwllan/Waunfawr

Postiogan nicdafis » Maw 06 Maw 2007 3:22 pm

Dw i'n gweld dy bwynt am wylio'r teledu, ond nid poeni am farn bobl eraill ydw i (wel, barn fy mhartner afallai). Peth personol yw e i fi; dw i'n joio'r gêm wrth ei chwarae, ond dyw'r teimlad ar ôl chwarae sesiwn 4 awr ddim yn arbennig iawn. Tro diwtha i mi roi'r gorau, o'n i wedi chwarae rhyw 20 awr dros y penwythnos - dyw hynny ddim yn iach mewn unrhyw ystyr.

Dw i'n cytuno â ti ynglyn â chyd-chwarae, a dyna pam dechreuais i sôn am urdd Gymraeg - ond mae fy mhrofiad o fod mewn urdd yw bod aelodau craidd yr urdd yn chwarae 24/7 - yn fy urdd diwetha oedd 'na rhyw hanner dwsin o bobl oedd ar lein bob tro chwaraeais i - ac ro'n i'n chwarae lot.

Dw i wedi trial bob dim i reolu fy amser yn y gêm, gan gynnwys gofyn i Philippa newid fy nghyfrinair drosta i, a dim ond yn chwarae pan oedd hi'n logo fi mewn. Ond wneath hynny creu tensiwn yn y ty, a doedd e ddim yn deg iddi hi.

Dw i ddim yn poeni ar hyn o bryd. Beth sy'n bwysig yw fy mod i'n gadael y gêm bob hyn a hyn, am wythnos neu ddwy. Dw i'n gwybod bod hyn yn dwp ar ran yr arian, i dalu am fis ond chwarae am bythefnos, ond mae'n neud sens i fi.
Golygwyd diwethaf gan nicdafis ar Iau 22 Mai 2008 9:35 pm, golygwyd 2 o weithiau i gyd.
Rhithffurf defnyddiwr
nicdafis
Defnyddiwr Platinwm
Defnyddiwr Platinwm
 
Negeseuon: 7361
Ymunwyd: Sul 18 Awst 2002 3:39 pm
Lleoliad: Pentre Arms

Postiogan Macsen » Maw 06 Maw 2007 3:44 pm

Wyt ti wedi ystyried chwarae gemau cyfrifiadur gwahanol? Awgrymiad braidd yn dwp ar yr olwg gyntaf, ond mantais gemau eraill dros WoW ydi eu bod nhw'n gorffen.

Y broblem gyda WoW ydi nad yw e'n gem da iawn, ond mae o'n hynod o addictive. Fel y dywedaist ti, mae'n dy amsugno di mewn i chwarae am oriau, ond wedi i ti adael y cyfrifiadur dwyt ti ddim cweit yn cofio beth yn union oedd mor sbeshial na beth wyt ti wedi ei gyflawni. Mae o fel ryw Dan Brown nofel di-ddiwedd, page turner sydd ddim yn arwain at unrhywfath o uchafbwynt.

Dw i wedi bod yn chwarae y gem Zelda diweddara wythnos yma a mae o wedi fy atgoffa fi beth yw gem da. Mae gan y gemau Zelda ddechrau, canol a diwedd, a dw i'n eu gadael nhw yn teimlo fel mod i wedi gorffen nofel penigamp - ac yna'n cael fy mywyd yn ol am 4 mlynedd tan bod y nesa'n cael ei ryddhau!
Rhywun yn ymosod ar y Gymraeg? - Rhannwch Why Welsh.com!
Rhithffurf defnyddiwr
Macsen
Defnyddiwr Platinwm
Defnyddiwr Platinwm
 
Negeseuon: 6193
Ymunwyd: Maw 12 Awst 2003 8:01 pm
Lleoliad: Penrhiwllan/Waunfawr

Postiogan nicdafis » Maw 06 Maw 2007 4:03 pm

Wedi chwarae Neverwinter Nights, Baldur's Gate etc. Os nag oes WoW 'da fi, dw i'n gallu chwarae Nethack am oriau. Dw i hefyd yn chwarae poker, ond dw i ddim yn gallu wneud hynny am oriau maeth - mae'n waith reit caled, os ti'n neud e yn iawn. Problem WoW yw ei fod yn hawdd iawn. Wedi bod yn "malu" heddi yn Felwood, ac yn hapus neud am ddwy awr, er mewn ennill enw da gyda llwyth o furbolgs.

Hmm.
Rhithffurf defnyddiwr
nicdafis
Defnyddiwr Platinwm
Defnyddiwr Platinwm
 
Negeseuon: 7361
Ymunwyd: Sul 18 Awst 2002 3:39 pm
Lleoliad: Pentre Arms

Postiogan nicdafis » Llun 12 Maw 2007 1:52 pm

Wedi mynd eto. :wps:

Dw i wedi dileu'r cwbl lot, bob cymeriad wedi mynd, a dw i wedi dinistrio'r disgiau.

(Darllenais i adolygiad llyfr newydd Iain Banks ddoe, a wnaeth e'r un peth, ond gyda Civilization.)

Byddwn i'n teimlo'n well am y peth 'swn i ddim wedi treulio 2 awr y bore 'ma malu furbolgs am Enw Da Timbermaw. :?

Dw i rîli, rîli, rîli eisiau peidio chwarae Warcraft ;-)
Rhithffurf defnyddiwr
nicdafis
Defnyddiwr Platinwm
Defnyddiwr Platinwm
 
Negeseuon: 7361
Ymunwyd: Sul 18 Awst 2002 3:39 pm
Lleoliad: Pentre Arms

Postiogan Macsen » Llun 12 Maw 2007 2:12 pm

Wnes i ganslo fy nghyfrif wythnos dwytha a dileu y gem beth bynnag. Dwi'n dioddef o'r gwrthwyneb i ti - dim mynedd chwarae'r gem o gwbwl a felly dyw e ddim werth fy arian. Boring, boring, boring.

O leia wnaeth Iain Banks sgwennu llyfr am Civilization! (Player of Games) Falle dyle ti wneud yr un peth fyda WoW? ;)
Rhywun yn ymosod ar y Gymraeg? - Rhannwch Why Welsh.com!
Rhithffurf defnyddiwr
Macsen
Defnyddiwr Platinwm
Defnyddiwr Platinwm
 
Negeseuon: 6193
Ymunwyd: Maw 12 Awst 2003 8:01 pm
Lleoliad: Penrhiwllan/Waunfawr

Postiogan nicdafis » Llun 12 Maw 2007 3:50 pm

Llyfr newydd Banks bydd yr un am Civ, mae'n debyg - mae gêm o'r enw "Empire" ynddo, ta beth.

Wedi bod yn gwylio Panic in Needle Park, ond mae gweld Al Pacino mynd yn dwrci oer yn ormod i mi ar hyn o bryd.
Rhithffurf defnyddiwr
nicdafis
Defnyddiwr Platinwm
Defnyddiwr Platinwm
 
Negeseuon: 7361
Ymunwyd: Sul 18 Awst 2002 3:39 pm
Lleoliad: Pentre Arms

Postiogan Macsen » Llun 12 Maw 2007 5:05 pm

O wneud ychydig o ymchwil ar y we mae mynd yn gaeth i gemau fel hyn yn fwy o broblem nag oeddwn i wedi sylwi a dweud y gwir, wele'r wefan yma er engraifft. Dwi'n synnu nad oes mwy o sylw wedi bod i'r peth yn y wasg, ond wedi dweud hynny dyw'r wasg dal ddim cweit wedi deall beth yw gemau cyfrifiadur (falle bod y golygydd wedi chwarae un rownd o pong pan oedd o'n ei dridegau).

Gan ei fod o'n rywbeth reit anghyffredin i fynd yn gaeth iddo debyg nad oes unrhyw fath o gefnogaeth yno i bobol chwaith. A gyda mwy o gemau fel hyn ar y farchnad bydd o'n mynd yn fwyfwy cyffredin hefyd. :?
Rhywun yn ymosod ar y Gymraeg? - Rhannwch Why Welsh.com!
Rhithffurf defnyddiwr
Macsen
Defnyddiwr Platinwm
Defnyddiwr Platinwm
 
Negeseuon: 6193
Ymunwyd: Maw 12 Awst 2003 8:01 pm
Lleoliad: Penrhiwllan/Waunfawr

Nesaf

Dychwelyd i Gemau Cyfrifiaduron

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 8 gwestai

cron