Rhyddhad, ond embaras

Mae bywyd yn arcêd, gyfaill

Re: Rhyddhad, ond embaras

Postiogan nicdafis » Iau 22 Mai 2008 9:59 pm

Plus ca change...

Dw i dal yna, chwarae am fis, cael mis bant, rinse, repeat. Ond erbyn hyn dw i wedi dysgu ymlacio am y peth. Mae'r cymeriad cyfredol wedi goroesi dau ysbaid o finnau'n cael llond bol o'r gêm, felly sdim rhaid i mi ail-ddechrau bob tro dw i'n cwympo oddi ar y gambo. Dw i wedi cyrraedd lefel 61 am y tro cyntaf, ond mae'n amser cael brêc bach 'to.

Ti dal yn chwarae Macsen?
Rhithffurf defnyddiwr
nicdafis
Defnyddiwr Platinwm
Defnyddiwr Platinwm
 
Negeseuon: 7361
Ymunwyd: Sul 18 Awst 2002 3:39 pm
Lleoliad: Pentre Arms

Re: Rhyddhad, ond embaras

Postiogan Macsen » Iau 22 Mai 2008 10:15 pm

Na wnes i roi'r gorau iddi ryw dair mis yn ol i ganolbwyntio ar redeg pellter-hir. Mae'n fwy anghymdeithasol, yn gallu bod yn ddiflas, ac yn cymryd mwy o amser i lefelio fyny bob tro - ond dw i ar level 26 (milltir o redeg) nawr ac am wneud boss raid dydd Sul (marathon Caeredin). Ac yn hytrach na siopa am arfogaeth newydd a healing potions dwi'n gwledda ar fwyd carbohydrad uchel. ;)

(OK mae'r metaphor yna wedi mynd digon pell...)

Ond unwaith dwi'n gorffen y marathon falle af i nol i chwarae WoW eto am dipyn. Dwi'n teimlo mai ryw fis ar y tro yw'r ffordd gorau i'w chwarae, neu dwi'n diflasu braidd. Falle bydd Wrath of the Lich King yn fy nenu yn ol.
Rhywun yn ymosod ar y Gymraeg? - Rhannwch Why Welsh.com!
Rhithffurf defnyddiwr
Macsen
Defnyddiwr Platinwm
Defnyddiwr Platinwm
 
Negeseuon: 6193
Ymunwyd: Maw 12 Awst 2003 8:01 pm
Lleoliad: Penrhiwllan/Waunfawr

Re: Rhyddhad, ond embaras

Postiogan Gwenci Ddrwg » Gwe 23 Mai 2008 4:24 am

I fod yn byr amdani, sgen ti ddim rheswm i fod â chywilydd, o leiaf ti wedi ffeindio digon o hunan-reolaeth i siarad am stopio neu i ystyried newid. Dwi di nabod rhai chwaraewyr gemau cyfrifiadur (sef WOW) sydd heb unrhyw syniad o gwbwl am y dibyniaethau niweidiol sy'n effeithio eu bywydau.
Rhybudd: Dysgwr hurt.
Rhithffurf defnyddiwr
Gwenci Ddrwg
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 354
Ymunwyd: Mer 12 Medi 2007 5:13 pm
Lleoliad: Toronto

Nôl

Dychwelyd i Gemau Cyfrifiaduron

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 5 gwestai

cron