Spiderman 3

Mae bywyd yn arcêd, gyfaill

Spiderman 3

Postiogan Positif80 » Sul 06 Mai 2007 8:49 pm

Dwi wedi cael y gem yma i'r 360, cyn i'r adolygiadau ymddangos. Mae ambell i broblem hefo'r gem, ond ar y cyfan mae'n eithaf da. Yr unig beth mawr sydd yn fy mheoni i yw bod Treyarch wedi drfnyddio'r system web slinging o Ultimate Spiderman, sydd ddim cweit mor dda a'r un o Spiderman 2.
Finalmente, il mundo e mio!
Rhithffurf defnyddiwr
Positif80
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1016
Ymunwyd: Llun 02 Hyd 2006 9:58 am
Lleoliad: Truth or Consequences, New Mexico

Postiogan Y Fampir Hip Hop » Llun 07 Mai 2007 10:43 am

Yn ol adolygiade o'r gem i'r Wii, ma fe'n ofnadwy. Shwt gyment o 'pop-up' yn ymddangos yn y llunie fi wedi gweld, hefyd diffyg 'textures' ar yr adeiladau. Nage problem y consol yw hwn, oedd y Gamecube yn ymdopi yn ddicon derbyniol gyda Spiderman 2 ag Ultimate Spidey, ond problem y cynhyrchwyr. Ond weud hynny, mae'r sustem rheoli'r gem ar y Wii fod i gwitho yn eitha da - na'r peth oedd pobol yn becso am yn y wasg. Ond y gem ei hun sydd ar fai yn hytrach na'r control.
Disgwl fel rush-job i fi.
"Never trust a man in a blue trench coat, Never drive a car when you're dead..."

|Flickr|
Rhithffurf defnyddiwr
Y Fampir Hip Hop
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1129
Ymunwyd: Iau 24 Tach 2005 4:42 pm
Lleoliad: Abercraf, Cwm Tawe Ucha'

Postiogan Positif80 » Llun 07 Mai 2007 2:08 pm

Dwi am barhau hefo'r fersiwn 360 (ddim pop ups arni hyd yn hyn), ond mae'n siomedig i ystyried potensial gem fel hyn ar y 360.
Finalmente, il mundo e mio!
Rhithffurf defnyddiwr
Positif80
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1016
Ymunwyd: Llun 02 Hyd 2006 9:58 am
Lleoliad: Truth or Consequences, New Mexico

Postiogan Dyn Gwyn Gwirion » Llun 07 Mai 2007 3:02 pm

Wnes i brynu hwn ar y Wii cyn gweld adolygiadau, achos fy mod i'n gymaint o ffan o Spider-Man 2 ar y Gamecube. O diar. Chydig dros awr i mewn i'r gem, a mae'r darnau 'sandbox' o gwmpas Efrog Newydd dwi'n meddwl yn dda, ond mae lot o'r darnau mwy scripted yn uffernol. Ar y funud dwi'n trio curo Harry Osborne ar ei glider, a mae o bron yn amhosib. Dydi'r gem ddim yn rhoi'r amser i chi wneud y symudiadau sydd angen eu gwneud...mae o jyst mor frustrating ac annifyr. Dwi'n meddwl ella gwerthu'r gem a cael Eledees, ddylsa fi wedi prynu yn lle hwn yn y lle cynta.
Le pain de la mer dans le nuit,
The sweet, sweet sea bread of the sea,
Le grands garcons est dans la boucherie,
The big boys are in the butchers. - R & M
Rhithffurf defnyddiwr
Dyn Gwyn Gwirion
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 739
Ymunwyd: Maw 22 Ebr 2003 8:19 pm
Lleoliad: Bangor / Caerdydd


Dychwelyd i Gemau Cyfrifiaduron

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 3 gwestai

cron