Medieval II-Total War

Mae bywyd yn arcêd, gyfaill

Postiogan Macsen » Llun 17 Medi 2007 12:05 pm

SbecsPeledrX a ddywedodd:Nid dyna be mae Kingdoms yn ei neud?

Wel oni'n meddwl am Mod fyddai'n croniclo y cwffio rhwng tywysogion Cymru, gyda'r Season/Normaniaid fel 'invasion' allan o ymyl y map megis y Mongols yn y prif ymgyrch. Felly sa rhaid i ti gael Cymru oll dan dy reolaeth cyn i'r Season gyrraedd.

Ond falle bod ti'n iawn a bydde mod Owain Glyndwr yn well.

Peth pwysica fydda modio'r iaith a'r dillad, y dau beth oedd mor gwbl anghywir yn Kingdoms. Byddai'n neis cael rhyngwyneb newydd hefyd.

SbecsPeledrX a ddywedodd:Oes modd Moddio MTWI?

Ydi os sneb eisiau modio gemau o 2002.
Rhywun yn ymosod ar y Gymraeg? - Rhannwch Why Welsh.com!
Rhithffurf defnyddiwr
Macsen
Defnyddiwr Platinwm
Defnyddiwr Platinwm
 
Negeseuon: 6193
Ymunwyd: Maw 12 Awst 2003 8:01 pm
Lleoliad: Penrhiwllan/Waunfawr

Postiogan SbecsPeledrX » Llun 17 Medi 2007 12:26 pm

Macsen a ddywedodd:
SbecsPeledrX a ddywedodd:Nid dyna be mae Kingdoms yn ei neud?

Wel oni'n meddwl am Mod fyddai'n croniclo y cwffio rhwng tywysogion Cymru, gyda'r Season/Normaniaid fel 'invasion' allan o ymyl y map megis y Mongols yn y prif ymgyrch. Felly sa rhaid i ti gael Cymru oll dan dy reolaeth cyn i'r Season gyrraedd.

Ond falle bod ti'n iawn a bydde mod Owain Glyndwr yn well.

Peth pwysica fydda modio'r iaith a'r dillad, y dau beth oedd mor gwbl anghywir yn Kingdoms. Byddai'n neis cael rhyngwyneb newydd hefyd.

SbecsPeledrX a ddywedodd:Oes modd Moddio MTWI?

Ydi os sneb eisiau modio gemau o 2002.


Dwi ishio :lol:

Diom ots gen i am y dillad - dyna'r unig pwynt oni'n meddwl oedd yn ddwl yn dy adolygiad - dim ond i dangos ar ba ochr mae nhw oddan nhw'n goch gwyn a gwyrdd ia? Y tactegau, y gameplay a'r balance hanesyddol yw'r pethau pwysig ynde? gallen nhw fod yn binc a fydde fo ddim yn effeithio ar y peth fel simulator hanesyddol.

Ti am fy hlpu i neud MTWI yn mod Glyndwr?

Mae gyda ni'r map o Viking Invasion.
Delwedd
Rhithffurf defnyddiwr
SbecsPeledrX
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 3057
Ymunwyd: Llun 13 Ion 2003 12:32 pm
Lleoliad: Treffynnon

Postiogan Macsen » Llun 17 Medi 2007 12:50 pm

SbecsPeledrX a ddywedodd:Diom ots gen i am y dillad - dyna'r unig pwynt oni'n meddwl oedd yn ddwl yn dy adolygiad - dim ond i dangos ar ba ochr mae nhw oddan nhw'n goch gwyn a gwyrdd ia? Y tactegau, y gameplay a'r balance hanesyddol yw'r pethau pwysig ynde? gallen nhw fod yn binc a fydde fo ddim yn effeithio ar y peth fel simulator hanesyddol.

Sna'm un byddin arall wedi'u gwisgo mewn lliwiau amryliw eu fflag cenedlaethol, ac mae'r artistiaid wedi mynd i drafferth i gael pob peth arall i edrych yn hanesyddol (heblaw am flamethrowers yn fyddin Byzantine). Ac mae'r acenion cocni yn ddwl. Sa ti'n meddwl y bydden nhw wedi sylwi bod acenion y Cymry bach yn wahanol ar ôl siarad hefo fi!

SbecsPeledrX a ddywedodd:Ti am fy helpu i neud MTWI yn mod Glyndwr?

Sgen i ddim MTWI. Wnes i gael gwared o'r hen grair hwnnw flynyddoedd yn ôl, gyda fy nghopi o Pong a Jet Set Willy.
Rhywun yn ymosod ar y Gymraeg? - Rhannwch Why Welsh.com!
Rhithffurf defnyddiwr
Macsen
Defnyddiwr Platinwm
Defnyddiwr Platinwm
 
Negeseuon: 6193
Ymunwyd: Maw 12 Awst 2003 8:01 pm
Lleoliad: Penrhiwllan/Waunfawr

Postiogan SbecsPeledrX » Llun 17 Medi 2007 12:59 pm

Byggar. Oh wel, fydd rhaid i mi jest concro ewrop ar ben fy hun eto te!

Dwi'n cytuno efo'r acenion, hawdd iawn i'w gywiro hefyd felly piti na wnaethon nhw.
Delwedd
Rhithffurf defnyddiwr
SbecsPeledrX
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 3057
Ymunwyd: Llun 13 Ion 2003 12:32 pm
Lleoliad: Treffynnon

Postiogan Macsen » Iau 20 Medi 2007 8:23 am

I unrhyw un sy'n dweud na allai Cymru oroesi heb arian Lloegr. :P

Delwedd

Y trick yw cael un byddin yn unig rywle yn nghanol y wlad sy'n gallu cyraedd bob man os yw Lloegr yn ymosod. Yna gwario ar lynges cryf o longau i amddiffyn y porthladdoedd, defnyddio diplomyddiaeth i sicrhau masnach gyda bob gwlad arall, a gwario pob ceiniog ar adeiladau fydd yn hyrwyddo marchnata. A mae adaeiladau lon o safon rhwng y de a'r gogledd yn bwysig, wrth gwrs! Ond fydde unrhyw ffwl yn deall hynne. ;)
Rhywun yn ymosod ar y Gymraeg? - Rhannwch Why Welsh.com!
Rhithffurf defnyddiwr
Macsen
Defnyddiwr Platinwm
Defnyddiwr Platinwm
 
Negeseuon: 6193
Ymunwyd: Maw 12 Awst 2003 8:01 pm
Lleoliad: Penrhiwllan/Waunfawr

Postiogan Gwenci Ddrwg » Iau 20 Medi 2007 2:55 pm

Fel arfer mae rhaid i chi adeiladu ffermydd a fyrdd yn y dechrau os dach chi eisiau arian yn y gem. Wedyn dwi'n cymryd Amwythig. Hawdd iawn.
Rhithffurf defnyddiwr
Gwenci Ddrwg
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 354
Ymunwyd: Mer 12 Medi 2007 5:13 pm
Lleoliad: Toronto

Nôl

Dychwelyd i Gemau Cyfrifiaduron

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 3 gwestai

cron