PSP - yn enwedig FIFA 07

Mae bywyd yn arcêd, gyfaill

PSP - yn enwedig FIFA 07

Postiogan SbecsPeledrX » Gwe 17 Awst 2007 7:53 am

Sgen rhywun PSP? Nes i brynnu un wsos dwytha, a rwan dwi'n chwarae FIFA07 arlein efo fo. Unrhywun arall ac un, sa'n laff chwarae peldroed yn erbyn rhywun dwi'n nabod.

Wel os oes, ond dim copi o fifa yna mae hefyd gen i SOCOM, Wipeout a Field Commander sy'n bosib eu chwarae arlein. So unrhyw un o'r rheina yn eich casgliad - ychwanegwch at yr edefyn!
Delwedd
Rhithffurf defnyddiwr
SbecsPeledrX
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 3057
Ymunwyd: Llun 13 Ion 2003 12:32 pm
Lleoliad: Treffynnon

Postiogan Oh dear.Another welshman » Gwe 17 Awst 2007 10:22 am

Gen i PSP ond dim un o'r gemau yna :D Oni bron a cael Fifa 06 fel rhan o del ond wnes i ddewis Pro Evo yn lle ac mae'n gem gwbl gach. Dwi'n credu mae Syphon Philter yw'r unig gem dwi'n gallu whare ar-lein (Ond mae dal yn ddigon da i mi)
Rhithffurf defnyddiwr
Oh dear.Another welshman
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 169
Ymunwyd: Mer 18 Mai 2005 9:04 pm
Lleoliad: Caerdydd

Postiogan SbecsPeledrX » Gwe 17 Awst 2007 10:51 am

Oh dear.Another welshman a ddywedodd:Gen i PSP ond dim un o'r gemau yna :D Oni bron a cael Fifa 06 fel rhan o del ond wnes i ddewis Pro Evo yn lle ac mae'n gem gwbl gach. Dwi'n credu mae Syphon Philter yw'r unig gem dwi'n gallu whare ar-lein (Ond mae dal yn ddigon da i mi)


Prynes i pro evo 5 am £2.50, a gwast o bres. Dwi'n ffan pro evo fel arfer - ond mae FIFA 07 ar y PSP yn gachboeth. Ges i hwna am £12 fel gem ail law, os weli di fo, bacho fo. Dwi yn yr EA lounge fel Sbecs di chwarae 2 colli 2 ar y funud. Ond mae pawb yn dewis Arsenal, Chelsea, Lloegr ayb yn erbyn fy Dinas Caerdydd :rolio:

Nai bachu Syphon Filter os welai o yng Nghaerfyrddin heddiw. Wedyn gawn ni greu llanast.

Mae gen i demo Medal OF Honour heroes hefyd. mae'n edrych yn dda.

Ti di bod yn lawrlwytho demo's i dy gerdyn cof? Mae lot o'r demos sgenai digon da i sefyll fel gemau bach ar eu pen eu hunain. Nid gemau £30 ond gemau £5 yn sicr. MAe gen i NBA, Medal of Honour, World Tour Soccer, Ridge Racer a ryw gem beic modur fel demo's.

Fedrai ebostio nhw i ti os ti ishio.
Delwedd
Rhithffurf defnyddiwr
SbecsPeledrX
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 3057
Ymunwyd: Llun 13 Ion 2003 12:32 pm
Lleoliad: Treffynnon

Postiogan krustysnaks » Gwe 17 Awst 2007 11:35 am

Oes gan unrhywun arall Nintendo DS maen nhw'n ddefnyddio dros y we?
Rhithffurf defnyddiwr
krustysnaks
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 2967
Ymunwyd: Mer 14 Ebr 2004 8:05 pm
Lleoliad: yng nghôl J M Keynes

Postiogan Oh dear.Another welshman » Gwe 17 Awst 2007 1:28 pm

SbecsPeledrX a ddywedodd:Mae gen i demo Medal OF Honour heroes hefyd. mae'n edrych yn dda.

Ti di bod yn lawrlwytho demo's i dy gerdyn cof? Mae lot o'r demos sgenai digon da i sefyll fel gemau bach ar eu pen eu hunain. Nid gemau £30 ond gemau £5 yn sicr. MAe gen i NBA, Medal of Honour, World Tour Soccer, Ridge Racer a ryw gem beic modur fel demo's.

Fedrai ebostio nhw i ti os ti ishio.


Gynnai World Tour Soccer, killzone a Mercury fel demos ar hyn o bryd ond dwi di trial un neu ddau o rei eraill a just ddileu nhw o'r cof am bod nhw'n wael.
Mae fy ffrind wedi hela cwpl o ebyst yn cynnwys rhai eraill. Gyd sydd angen i mi wneud yw trafferthu i'w lawrlwytho pan dwi'm yn rhy ddiog.
"Red Scope" yw'n enw ar Syphon Philter(dwi'n gwbod, mae'n shit) a digon posib gai Fifa 07, mae gen i e ar y ps2 ta beth.
Rhithffurf defnyddiwr
Oh dear.Another welshman
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 169
Ymunwyd: Mer 18 Mai 2005 9:04 pm
Lleoliad: Caerdydd

Postiogan SbecsPeledrX » Gwe 17 Awst 2007 1:36 pm

Excellent. Sa ti'n fodlon ebostio'r demo's neu'r dolenni sydd gen ti. Fy mhroblem i ydi mae lot o'r rhai dwi'n ei weld ar y we yn .rar a fedrai ddim ehangu rheina. Rhai .zip dwi eu hangen.

fy ebost ydi dewi@delynlocks.com

a fel dwi'n deud, cysyllta yn syth bo gen ti FIFA07, mae'n wych. Cystal a PS1 yn sicr, ac yn chwarae'n well na llawer ar PS2. Mae'r sgrin fach yn neud i'r graffeg edrych yn well eto.

Dwi'n meddwl bo rhaid iddo fod yn 07 nid 06 i weithio ar y we felma. Ac mae'n bosib fod 07 yn ddrytach, ac mai numtie yn y siop oedd wedi ei brisio'n rong. Er nes i weld Vice City Stories am £14 newydd sbon yn Tesco heddiw - sy'n eitha da. Reit dwi off i chwarae SOCOM am chydig.
Delwedd
Rhithffurf defnyddiwr
SbecsPeledrX
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 3057
Ymunwyd: Llun 13 Ion 2003 12:32 pm
Lleoliad: Treffynnon

Postiogan dafz » Gwe 17 Awst 2007 1:59 pm

Dwi da PSP, ges i fe tua blwyddyn yn ol. Gweithio'n gret! Nis oes gennyf Fifa 07 ar y PSP eto ond ar fin ei brynnu! Ma da v Fifa 07 ar y PS2 felly gallai lincio'r ddau at ei gylidd, whw:D
Profiad fi o bysys yw bod ishe aros i un pasio, cyn dal y bws cywir!!??
Rhithffurf defnyddiwr
dafz
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 58
Ymunwyd: Mer 15 Tach 2006 3:27 pm
Lleoliad: Capel-Dewi

Postiogan SbecsPeledrX » Gwe 17 Awst 2007 2:21 pm

Mae o'n top Dafz. Yn enwedig y chwarae ar lein. Ma lobbys, fedri di glicio play now i gael dy matsio yn erbyn rhywun rhywun, ond fedri di chwarae yn erbyn dy ffrindiau yn stafelloedd y lobi hefyd, jest setio fyny gem efo cyfrinair. Bydd rhaid i ni gal lig fach os oes 4 neu fwy ohonom.

Dim ond rwan dwi di gweithio logio mewn i SOCOM arlein allan. Dwi off i ladd sosialwyr, "terfysgwyr" a pobl tlawd!
Delwedd
Rhithffurf defnyddiwr
SbecsPeledrX
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 3057
Ymunwyd: Llun 13 Ion 2003 12:32 pm
Lleoliad: Treffynnon

Postiogan SbecsPeledrX » Gwe 17 Awst 2007 2:28 pm

Hmmmmm diom yn gweithio.

Ma'n rhaid i mi gofrsetru fy enw defnyddiwr ar http://www.yourpsp.com mae'n debyg. Ond di'r wefan ddim i'w weld yn gweithio. Unrhyw awgrymiadau lads?
Delwedd
Rhithffurf defnyddiwr
SbecsPeledrX
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 3057
Ymunwyd: Llun 13 Ion 2003 12:32 pm
Lleoliad: Treffynnon

Postiogan Oh dear.Another welshman » Gwe 17 Awst 2007 2:35 pm

Rhithffurf defnyddiwr
Oh dear.Another welshman
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 169
Ymunwyd: Mer 18 Mai 2005 9:04 pm
Lleoliad: Caerdydd

Nesaf

Dychwelyd i Gemau Cyfrifiaduron

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 15 gwestai

cron