Wedyn gweld bod NHL 08 ar PC yn ****, penderfynais i i brynu FIFA. Dwi wedi chwarae'r demo ac mae 'na gwahaniaeth fawr rhwng hynny a FIFA 07 (mae gen i hi hefyd). Oes 'na unrhywun arall sy'n mynd i gael y gem?
Mae nhw'n dweud fod Fifa wedi gwella bob blwyddyn, ond weithiau nid yw'r addewidion yn cael eu gwireddu e.e FIFA 2007 ar yr Xbox 360, oedd yn waeth na'r gemau PS2, Xbox a Gamecube. Os ydyn nhw wedi trwsio'r AI i fod ar yr un lefel a Pro Evo, yna mi bryna i FIFA.
Dros y ddwy flynedd diwethaf dwi wedi deud bod fersiwn y flwyddyn honno o FIFA yn well na fersiwn Pro Evo yn well ar ol ryw wythnos. Ond, wedyn Pro Evo sydd pia hi bob tro er bod FIFA yn gem wych, ma Pro Evo jyst yn anghygoel o gem heblaw am sa nhw ddim ond yn yn sortio'r leisansys allan!