O'dd Zool gyda fi hefyd! A Lemmings, Shadow of the Beast 2, James Pond (yn dal i ddwlu ar lefel 2 lle'r oedd yn rhaid arwain y pysgod bach ciwt i ddwr glân) a Bart vs the Space Mutants (cyrhaeddais lefel Homer!)
Dydw i ddim yn credu oedd hi'n bosib cyrraedd lefel Captain Planet... Fe gwblheais i Tân, Dwr, Calon a hanner Gwynt, a chyrraedd Daear - ond iyffach roedd hi'n gem anodd i blant. Dwi'n dal i gofio'r gerddoriaeth, hefyd!
Yn wir, cafwyd oriau o hwyl a phishopants gyda'r voice function. Roedd hi'n sbri achos yr un llais â pheiriant Stephen Hawkin oedd e, a doedd e ddim yn deall Cymraeg.
"tool teen pobe sice"
