Ooo, yr atgofion!
Exile, Frontier, Syndicate, Kick Off 2, Sensible Soccer, Cannon Fodder, Formula 1 GP, Indianapolis 500, Ultima 5, Prince of Persia, Indiana Jones, Premier Manager, Championship Manager 93, Speedball 2, IK+, A-Train, Dune 2, Supercars, Super Skidmarks (rasio ceir bach oedd hwnnw gyda llaw, nid cachu'n drowsus ar ol Guinness noson gynt a chinio dydd sul)... mae'r rhestr yn ddi-ddiwedd, wedi methu llwyth o gemau eraill. Oriau maith o hwyl yn fy mhlentyndod. Wel, dyddiau maith. Wel, blynyddoedd maith.
A deud y gwir dwin meddwl mai gwychder yr Amiga yw'r prif reswm pam bod gennyf radd mewn cyfrifiadureg rwan. Hebddo fysa gennyf dipyn llai o ddiddordeb yn y pwnc a wedi neud rwbath arall mae'n siwr.
Amiga Power oedd y cylchgrawn gora heb os nac oni bai. Oedd ganddynt y gallu i fod yn ddoniol bob mis, yn enwedig wrth adolygu gemau crap.
Llefenni a ddywedodd:Rwyn arall di defnyddio'r photo-shop math o raglen oedd arno?
Deluxe Paint III ti'n feddwl? Newydd gofio animeiddio petha ar hwnnw!
Mae
nifer o wefannau ar gael efo
emulators a gemau fel eich bod yn gallu chwarae hen glasuron ar eich PC. Heb drio nhw yn iawn eto, chwaith. Mae gennyf Syndicate, Frontier ac Ultima 5 ar fy nghyfrifiadur, yn gallu ei chwarae ond dydynt ddim yn gweithio'n iawn (swn a graphics a
frame rate ohoni).